Gweithredoedd yr Apostolion 11 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XI.Petr yn bodloni y rhai o’r enwaediad, 22 Barnabas a Phaul yn pregethu yn Antiochia, 28 Agabus yn dangos y doe drudaniaeth.

1Yr Apostolion a’r brodyr oeddynt yn Iudaea a glywsant ddarfod i’r cenhedloedd hefyd dderbyn gair Duw.

2Wedi dyfod Petr i fynu i Ierusalem, y rhai o’r enwaediad a ymrysonasant yn ei erbyn ef,

3Gan ddywedyd: ti a aethost i mewn at wŷr dienwaediol, ac a fwytêaist gyd â hwynt.

4A Phetr a ddechreuodd, ac a eglurodd mewn trefn iddynt, gan ddywedyd:

5Myfi oeddwn yn gweddio yn ninas Ioppa, ac mewn llewyg y gwelais weledigaeth, rhyw lestr vnwedd a llen-lliain fawr yn descyn, wedi ei gollwng o’r nef erbyn ei phedair congl, ac hi a ddaeth hyd attaf fi:

6Yn yr hwn pan edrychais, yr ystyriais, ac mi a welais, bedwar carnolion y ddaiar, a bwyst-filod, ac ymlusciaid, ac ehediaid y nef.

7Ac mi a glywais lef yn dywedyd wrthif, cyfot Petr, lladd, a bwyta.

8Ac mi a ddywedais, na Arglwydd: canys dim cyffredin nac aflan nid aeth er ioed yn fyng-enau.

9Eithr y llais a’m hattebodd i eil-waith o’r nef: yr hyn a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin.

10A hynny a wnaed dair gwaith, a’r holl bethau a gymmerwyd i fynu i’r nef trachefn.

11Ac wele yn y man, y daeth try-wŷr i’r tŷ (lle yr oeddwn) wedi eu gyrru o Cæsarea attaf.

12Ac archodd yr Yspryd i mi fyned gyd â hwynt heb ammeu dim, a’r chwe brodyr hyn a ddaethant gyd â mi, ac ni a ddaethom i dŷ y gŵr.

13Yr hwn a ddangosodd i ni y modd y gwelse yntef angel yn ei dy, yr hwn a safodd, ac a ddywedodd wrtho: Anfon ryw rai i Ioppa, a galw am Simon a gyfenwir Petr.

14Efe a draetha eiriau wrthit trwy y rhai i’th iachauir di a’th holl dŷ.

15Ac a myfi yn dechreu llefaru, y daeth yr Yspryd glân arnynt, a hwy a anfonasant Barnabas, i fyned hyd Antiochia.

23Yr hwn pan ddaeth, a gweled grâs Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyr-fryd calon i barhau yn yr Arglwydd.

24Canys gŵr da oedd efe, yn llawn o’r Yspryd glân, a ffydd: a llawer o bobl a chwanegwyd i’r Arglwydd.

25Yna yr aeth Barnabas i Tharsus i geisio Saul, ac wedi iddo ei gael, efe a’i dug i Antiochia.

26A darfu hefyd iddynt flwyddyn gyfan gynniwer yn yr eglwys ac yr oeddynt yn dyscu tyrfa fawr: a’r discyblion yn Antiochia a alwyd yn Gristianogion yn gyntaf.

27¶ Ac yn yr amser hwnnw y daeth prophwydi o Ierusalem i Antiochia.

28Ac vn o honynt a gyfododd a’i enw Agabus, ac a arwyddocâodd drwy yr Yspryd, y bydde newyn mawr dros yr holl fyd, yr hyn a fu rann Claudius Caesar.

29Yna pob vn o’r discyblion yn ôl ei allu, a fwriadasant anfon cymmorth i’r brodyr, y rhai oeddynt yn presswylio yn Iudæa.

30Yr hyn beth a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid drwy law Barnabas a Saul.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help