1A Iacob a gerddodd iw daith yntef: ac angylion Duw a gyfarfuant ag ef.
2Ac Iacob a ddywedodd pan welodd hwynt, dymma wersyll Duw, ac a alwodd henw y lle hwnnw Mahanaim.
3Ac Iacob a anfonodd gennadau oi flaen at ei frawd Esau, i wlad Seir faes Edom.
4Ac a orchymynnodd iddynt gan ddywedyd: fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd wrth Esau, fel hyn y dywed dy wâs di Iacob: gyd a Laban yr ymdeithiais, ac y trigais hyd yn hyn.
5Ac y mae i mi eidionnau, ac assynnod, defaid, a gweision, a morwynion, ac anfon a wneuthum i fynegu i’m harglwydd, i gael ffafr yn dy olwg.
6A’r cennadau a ddychwelasant at Iacob gan ddywedyd, daethom at dy frawd at Esau yr hwn hefyd yn dyfod i’th gyfarfod ti, a phedwar cant o wŷr gyd ag ef.
7Yna Iacob a ofnodd yn fawr, a chyfyng oedd arnaw, ac a rannodd y bobl oedd y rhai gyd ag ef, a’r defaid, a’r eidionnau, a’r camelod yn ddwy fintai.
8Ac a ddywedodd, os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd ddiangol.
9Yna y dywedodd Iacob, ô Duw fy-nhâd Abraham, a Duw fy-nhâd Isaac, ô Arglwydd, yr hwn a ddywedaist wrthif, dichwel i’th wlâd, ac at dy genhedl dy hun, a mi a wnaf ddaioni i ti.
10Ni ryglyddais ddim o’th holl drugareddau di, nac o’r holl wirionedd, yr hyn a wnaethost a’th wâs di: o blegit a’m ffonn y daethym tros yr Iorddonen hon, ond yn awr ’r ydwif yn ddwy fintai.
11Achub fi atolwg o law fy mrawd, o law Esau, o blegit yr ydwyfi yn ei ofni ef, rhac dyfod o honaw, a’m taro fi, fam gyd a’r plant.
12O blegit ty di a ddywedaist, gwnaf ddaioni i ti yn ddiau: a’th hâd ti a osodaf fel tyfod y môr, yr hwn o amlder ni rifir.
13Ac yno y trigodd efe y noson honno: ac o’r hyn a ddaeth iw law ef y cymmerth efe anrheg iw frawd Esau,
14Dau cant o eifr, ac ugain o fychod, deu cant o ddefaid, ac ugain o hyrddod:
15Dêc ar hugain o gamelod blithion ai llydnod, deugain o warthec, a dêc o deirw, ugain o assynnod, a dec o ebolion.
16Felly efe a roddes yn llaw ei weision, bôb gyr o’r nailltu, ac a ddywedodd wrth ei weision: ewch trosodd o’m blaen i, a gosodwch gyfrwng rhwng pob gyrr ai gilydd.
17Ac efe a orchymynnodd i’r blaenaf gan ddywedyd: os Esau fy mrawd a’th gyferfydd di, ac a ymofyn a thy di gan ddywedyd: I bwy di? ac i ba le ’r ei? ac eiddo pwy y rhai hyn o’th flaen di?
18Yna y dywedi, anrheg dy wâs Iacob yw honn, wedi ei hanfon i’m harglwydd Esau: ac wele yntef hefyd ar ein hol ni.
19Felly y gorchymynnodd hefyd i’r ail, ac i’r trydydd, ac i’r rhai oll oeddynt yn canlyn y gyrroedd, gan ddywedyd: yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau, pan gyfarfyddoch ag ef.
20A dywedwch hefyd, wele dy wâs Iacob ar ein hol ni o blegit (eb ef) bodlonaf ei wyneb ef a’r anrheg yr hon yn myned o’m blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef, onid antur efe a dderbin fy wyneb inne.
21Felly yr anrheg a aeth oi flaen ef, ac efe a drigodd y noson honno yn y gwersyll.
22Ac efe a gyfododd y noson hōno, a gymmerth ei ddwy wragedd, ai ddwy law-forwyn, ai vn mâb ar ddêc, ac a aeth dros rŷd Iabboc.
23Ac ai cymmerth hwynt, ac ai trosglwyddodd trwy’r afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn ganddo.
24Ac Iacob a adawyd ei hunan, yna yr ymdrechodd gŵr ag ef, nes codi’r wawr.
25A phan welodd na bydde drech nac ef: yna y cyffyrddodd ag afal ei glun ef; fel y llaessodd afal clun Iacob, wrth ymdrech o honaw ag ef.
26A’r a ddywedodd, gollwng fi ymmaith, o blegit y wawr a gyfododd: yntef a attebodd Ose.12.4.nith ollyngaf on i’m bendithi fi.
27Hefyd a ddywedodd wrtho, beth dy henw di? ac efe a attebodd Iacob.
28Yntef a ddywedodd, Genes.35.10.mwyach ni elwir dy henw di Iacob, ond Israel: o blegit ymdrechaist gyd a Duw fel tywysog, felly gyda dynion a thi a orchfugi.
29Yna Iacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd mynega attolwg dy henw, ac yntef a attebodd, i ba beth y gofynni hyn am fy henw i? ac yno efe ai bendithiodd ef.
30Ac Iacob a alwodd henw y fann Peniel: o blegit gwelais Dduw wyneb yn wyneb, a diangodd fy enioes.
31A’r haul a gyfodase arno fel yr oedd yn myned trwy Peniel, ac ac efe yn gloff oi glûn.
32Am hynny meibion Israel ni fwytânt y gewyn a giliodd yr hwn o fewn afal y glun hyd y dydd hwn, o blegit cyfwrdd ag afal clun Iacob ar y gewyn a giliodd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.