1 Clodforwch yr Arglwydd, gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ym mysc y bobloedd.
2Cenwch iddo, can-molwch ef: treuthwch am ei holl ryfeddodau ef.
3Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd, llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd.
4Ceisiwch yr Arglwydd ai nerth: cesiwch ei wyneb bôb amser.
5Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe: ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau.
6O hâd Abraham ei wâs ef: ô meibion Iacob ei etholedigion.
7Efe yw’r Arglwydd ein Duw ni, ei farnedigaethau ef trwy’r holl ddaiar.
8Cofiodd ei gyfammod bôb amser: gair a orchymynnodd efe i fîl o genhedlaethau.
9Yr hyn a ammododd efe ag Abraham, ai lŵ i Isaac,
10A’r a osododd efe yn ddeddf i Iacob, yn gyfammod tragywyddol i Israel,
11Gan ddywedyd, i ti y rhoddaf dîr Canaan rhandir eich etifeddiaeth.
12Pan oeddynt anaml ychydig, a dieithriaid ynddi,
13Pan rodiasant o genhedlaeth i genhedlaeth: o’r deyrnas at bobl arall:
14Ni adawodd i neb eu gorthrymmu: onid ceryddodd frenhinoedd oi plegit
15Na chyffyrddwch a’m rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhrophwydi.
16Galwodd hefyd am newyn ar y tîr: a dinistriodd holl gynhaliaeth bara.
17Anfonodd ŵr oi blaen hwynt, Ioseph a werthwyd yn wâs.
18Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: daeth yr haiarn hyd ei enaid,
19Hyd yr amser y daeth ei air ef gair yr Arglwydd ai profodd ef.
20Y brenin a anfonodd, ac ai gollyngodd ef, llywodraeth-wr y bobl ai rhyddhâodd ef.
21Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth.
22I athrawiaethu ei dywysogion ef wrth ei ewyllys, ac i ddyscu doethineb iw henuriaid ef.
23Yna’r aeth Israel i’r Aipht, ac Iacob a ymdeithiodd yn nhîr Ham.
24Ac efe a gynnyddodd ei bobl yn ddirfawr: ac ai gwnaeth yn gryfach nai gwrthwyneb-wŷr.
25Trôdd eu calon hwynt i gasâu ei bobl ef, ac i wneuthur yn ddichellgar ai weision ef.
26[Yna]’r anfonodd efe Moses ei wâs, Aaron yr hwn a ddewisase efe.
27Gosodâsant eiriau ei arwyddion ef yn eu plith hwynt: a rhyfeddodau yn nhîr Ham.
28Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufyddhasant hwy ei air ef.
29Efe a drôdd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pyscod hwynt.
30Eu tîr a heigiodd lyffaint yn stafelloedd eu brenhinoedd.
31Efe a ddywedodd, a daeth cymmysc-bla, llau yn eu holl frô hwynt.
32Efe a roddes eu glaw hwynt yn genllysc, ac yn fflamau tân yn eu tîr.
33Tarawodd hefyd eu gwinwŷdd, ai ffigus-wydd: ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.
34Efe a ddywedodd, a daeth y celioc rhedyn a’r lindis yn anneirif,
35Y rhai a fwytâsant yr holl las-wellt yn eu tîr hwynt: ac a ddifâsant ffrwyth eu daiar hwynt.
36Tarawodd hefyd bôb cyntaf-anedic yn eu tîr hwynt, blaen-ffrwyth eu holl nerth hwynt.
37Ac ai dug hwynt allan ag arian, ac ag aur: ac heb llesc yn eu llwythau hwynt.
38Llawenychodd yr Aipht pan aethant allan, canys syrthiase eu harswyd arnynt hwy.
39Efe a estynnodd gwmwl yn dô, a thân i oleuo liw nôs.
40Gofynnasant, ac efe a ddug sofl-ieir, ac ai diwallodd â bara nefol.
41Efe a holltodd y graig, a’r dwfr a ddelifodd, afonydd a gerddâsant ar hŷd sychion.
42Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei wâs.
43Ac a ddûg ei bobl allan mewn llawenydd: ai etholedigion mewn gorfoledd.
44Ac a roddes iddynt dîr y cenhedloedd: a gorescynnant lafur y bobloedd.
45Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.