1Gwinwydden wâg Israel, efe a esyd ffrwyth iddo ei hun: yn ôl amlder ei ffrwyth yr amlhaodd efe allorau: yn ôl daioni ei dîr y gwellhâsant ar ddelwau.
2Eu calon a ymrannodd, dinistrir hwynt bellach, efe a dyrr i lawr eu hallorau hwynt, efe a ddestruwia eu delwau.
3Canys yr awr hon y dywedant, nid i ni frenin, am nad ofnasom yr Arglwydd: a pheth a wnae y brenin i ni?
4Dywedasant eiriau, gan dyngu anudon wneuthur ammod: tarddodd barn megis y wermod yn rhychau fy meusydd.
5Presswyl-wŷr Samaria a ofnant o herwydd llo Bethafen, ei bobl a alarant drosto, offeiriad 1.Bren.18.27. 2.Bren.23.5.Baal a lawenychant ynddo o achos eu gogoniant pan ymadawo oddi wrtho ef.
6Hefyd efe a ddygir i Assyria yn anrheg i frenin Iareb: Ephraim a dderbyn gywilydd, ac Israel a wradwyddir gan ei ddychymmyg ei hun.
7Samaria ai brenin a dorrir ymmaith fel ewyn ar wyneb y dwfr.
8Uchelfeudd Afen a ddestruwir, pechodfa Israel, Osea.4.15.|HOS 4:15. Esay.2.19.|ISA 2:19. Luc.23.30. Gwel.6.16. & 9.6.dring drain a mieri ar eu hallorau, a dywedant wrth y mynyddoedd, gorchguddiwch nyni, ac wrth y brynnau, syrthiwch arnom.
9O Israel ti a bechaist er dyddiau Gibea, yno y safasant: a’r rhyfel yn Gibea yn erbyn plant anwiredd ni chyffyrddodd â hwynt.
10Wrth fy ewyllys y cospaf hwynt, a phobl a gesclir yn eu herbyn, pan rwymer hwynt yn eu dwy gwys.
11Ac Ephraim anner wedi ei dyscu yn dda genddi ddyrnu: a minne a âf dros degwch ei gwddf, paraf i Ephraim farchogeth, Iuda a ardd, ac Iacob a lyfna iddo.
12Heuwch iwch mewn cyfiawnder, a medwch yn ôl trugaredd: brynerwch iwch frynar, canys yn amser i geisio yr Arglwydd hyd oni ddelo a glawio iwch gyfiawnder.
13Arddasoch iwch ddrygioni, medasoch anwiredd, bwyttasoch ffrwyth celwydd, am it ymddyried yn dy ffordd dy hun,yn lluosogrwydd dy gedyrn.
14Cyfyd terfysc yn dy bobl, a’th holl ddinasoedd cedyrn a ddinistrir, fel y darfu i Salma ddinistrio Beth Arbel yn amser rhyfel: y drylliwyd wrth gelfi bennau y famm, a’r plant.
15Fel hynny y gwna Bethel i chwithau, am eich mawr-ddrwg: gan ddifetha y difethir brenin Israel ar y wawr ddydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
