1Ond myfi Paul ydwyf yn attolwg i chwi er addfwynder a chymmesurdeb Crist, yr hwn ŵydd yng-ŵydd ddiystyr yn eich plith, ac yn absennol ydwyf yn hyderus arnoch.
2A hyn yr ydwyf yn ei ddymuno, na orfyddo i mi fod yn hydêrus pan fyddwyf bresennol â’r vn rhyw hyder, ac yr ydys yn meddwl fy mod yn hyderus ar ryw rai, y sawl sy yn meddwl bod ni yn rhodio megis ar ôl y cnawd.
3O blegit er ein bôd yn rhodio yn y cnawd, etto nid ydym yn rhyfela ar ôl y cnawd.
4Canys arfau ein rhyfel ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestill i’r llawr,
5Gan fwrw i lawr dychymmygion, a phôb vchel-beth a dderchefir yn erbyn gwybodaeth Duw, a chan gaethiwo pob meddwl i vfydd-dod Crist.
6A chēnym yn barod ddial ar bob annufydd-dod, wedi y cyflawner eich vfydd-dod chwi.
7Ai edrych yr ydych chwi ar bethau o herwydd golwg? os ymddiried nêb ynddo ei hun ei fod ef yn perthyn i Grist, ystyried hyn trachefn o honaw ei hun, fel y mae efe yn perthyn i Grist, felly yr ydym ninnau yn perthyn i Grist.
8O blegit pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad, ac nid er eich dinystr chwi, ni’m cywilyddid:
9Rhag tybied fy mod, megis yn eich ofni chwi â llythyrau.
10Canys y llythyrau (meddant hwy) sy drymmion a chedyrn, eithr presennoldeb y corph sydd wan, a’i ymadrodd yn ddibris.
11Meddylied y cyfryw vn hyn, mai fel yr ydym ar air drwy lythyrau yn absennol, felly hefyd mewn gweithred yn bresennol.
12Canys ni feiddiwn ni ymyrryd neu ymgyffelybu â’r rhai sy yn eu canmol eu hunain: eithr nid ydynt yn deall eu bôd yn mesuro eu hunain wrthynt eu hunain, ac yn cyffelybu eu hunain ag hwynt eu hunain.
13Eithr ni orfoleddwn ni yn anghymmesurol, Ephes.4.7.ond yn ôl mesur y rheol trwy yr hon y rhannodd Duw i ni fesur i gyrhaeddyd hyd attoch chwithau.
14Canys nid ydym yn tra ymestyn, megis pe na chyrhaeddasem hyd attoch chwi: canys hyd attoch chwi hefyd y daethom ag Efengyl Grist:
15Nid gan orfoleddu yn anghymmesur, sef am boen rhai eraill: eithr gan obeithio wedi y cynnyddo eich ffydd, gael ein mawrygu yn eich plith yn ôl ein mesur yn helaeth,
16Fel y gallwyf bregethu yr Efengyl tu hwnt i chwi: nid gorfoleddu am y pethau a baratoiwyd trwy reol neb arall.
17 Ierem.9.24.|JER 9:24. 1.Cor.1.31. Eithr yr hwn a orfoleddo, gorfoledded yn yr Arglwydd.
18Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun sydd gymmeradwy, ond yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ganmol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
