Gweithredoedd yr Apostolion 19 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIX.Am fedydd a derbyniad yr Yspryd glân, 9 Yr Iddewon yn cablu dyscedidiaith Paul. 13 Rhai yn consurio yn enw’r Iesu. 24 Am Ddemetrius y gof arian, a Diana. 35 Yscolhaig y ddinas yn gostegu y bobl.

1Ac fe ddarfu tra fu Apollos yn Corinth, drāmwy o Paul drwy y parthau vchaf a’i ddyfod i Ephesus, ac wedi cael rhyw ddiscybliō efe a ddywedodd wrthynt,

2A dderbyniasoch chwi’r Yspryd glân gan i chwi gredu, a hwy a ddywedâsant wrtho: ni chlywsom ni chwaith, a oes Yspryd glân.

3Yna y dywedodd wrthynt, I ba ryw beth gan hynny y bedyddiwyd chwi? hwythau a ddywedâsant: i fedydd Ioan.

4A dywedodd Paul, Pen.1.5. & 2.2 11.16. math.3.11. mar.1.8. luc.3.16. ioan.1.26. Ioan yn ddiau a fedyddiodd â bedydd edifeirwch: gan ddywedyd wyth y bobl am gredu o honynt yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl ef, sef yn Crist Iesu.

5A phan glywsant hwy hwy a fedyddiwyd yn enw yr Arglwydd Iesu.

6Ac wedi i Paul ddodi ei ddwylaw arnynt, yr Yspryd glân a ddaeth arnynt, ac hwy a draethâsant â thafodau, ac a brophwydasant.

7A’r gwŷr hyn oll oeddynt yng-hylch deuddec.

8Hefyd efe a aeth i mewn i’r Synagog, ac a draethodd yn eofn gan ymresymmu â chynghori dros dri mis, bethau i deyrnas Dduw.

9Eithr pan oedd rhai wedi caledu, fel na chredent, gan ddywedyd drwg am ffordd wrth y gynnulleidfa, efe a dynnodd ymmaith oddi wrthynt, ac efe a ddosparthodd y discyblion gan ymresymmu beunydd yn yscol vn Tyrannus.

10A hyn a fu dros ddwy flynedd, oni ddarfu i bawb a oedd yn trigo yn Asia yn Iddewon a Groegiaid glywed gair yr Arglwydd Iesu.

11A Duw a wnaeth wyrthiau rhyfedd trwy ddwylo Paul,

12Hyd oni ddygid cadachau a chwrsiau oddi wrth ei gorph ef at y cleifion, a’r clefydau a ymadawent a hwynt, a’r ysprydion drwg a aent allan o honynt.

13Yna rhai o’r Iddewon cyrwydraid gonsur-wŷr a gymmerasant arnynt henwi vwch ben y rhai a feddiannid gan ysprydion drwg enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, yr ydym ni yn eich consurio trwy yr Iesu yr hwn y mae Paul yn ei bregethu.

14(Ac yr oedd saith o rai yn feibion i Scefa arch-offeiriad Iddew yn gwneuthur hyn)

15A’r yspryd drwg a attebodd, ac a ddywedodd, yr Iesu a adwen, a Phaul a adwen: ond pwy ydych chwi?

16Ar dyn yr hwn yr oedd yr yspryd drwg ynddo a ruthrodd arnynt, ac a’u gorchfygodd, ac a fu drwm yn eu herbyn hyd oni ffoesant hwy allan o’r ty hwnnw yn noethion, ac yn archolledig.

17A hynny a fu hynod gan yr holl Iddewon a’r Groegiaid y rhai oeddynt yn presswylio yn Ephesus, ac ofn a syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd.

18A llawer o’r rhai oeddynt yn credu, a ddaethant gan gyffessu, a chan fynegu eu gweithredoedd.

19Llawer hefyd o’r rhai oeddynt yn arferu y manwl gelfyddodau hynny, a ddygâsāt eu llyfrau, ac a’u lloscasant yng-ŵydd yr holl pris y rhain wedi ei gyfryf a gaed yn ddeng-mil a deugain o geinhiogau.

20Felly mor gadarn y tyfodd gair yr Arglwydd, ac y nerthodd.

21Gwedi cyflawni hyn, Paul a arfaethodd yn yr Yspryd, gan drammwy trwy Macedonia, ac Achaia fyned i Ierusalē: gan ddywedyd, pan ddelwyf fi yno, rhaid i mi hefyd weled Rhufain,

22Ac wedi anfon i Macedonia ddau o’r rhai oeddynt yn gweini iddo Timotheus ac Erastus, efe a arhoes yn Asia dros amser.

23Ac yn yr amser hynny, a cyfodes trallod nid bychan o blegit ffordd

24Canys rhyw wr a’i enw Demetrius, gof arian yr hwn a wnaethe demlau arian Diana, ac oedd yn peri elw nid bychan i’r crefft-wŷr:

25Y rhai wedi iddo eu galw yng-hyd, a’r rhai fydde yn gweithio y cyfryw bethau hefyd, efe a ddywedodd wrthynt, ha-wŷr, chwi a ŵyddoch mai wrth y gwaith hwn y mae ein golud ni.

26Chwi a welwch hefyd, ac a glywch, ddarfod i’r Paul hwn nid yn vnic yn Ephesus, onid tros Asia oll gynghori a throi lliaws mawr, gan i ddywedyd: nad duwiau yw y rhai a wnair â dwylo:

27Ac nid i ni yn vnic y mae hyn yn enbyd rhag dyfod y rhan hon mewn dirmyg, eithr rhag diystyru teml y dduwies fawr Diana, a rhag destruwio ei mawrhydi hi, yr hon y mae Asia oll, a’r byd yn ei haddoli.

28A phan glywsant hwy hyn, a’u gwneuthur yn llawn digofaint; hwy a lefasant gan ddywedyd, mawr yw Diana yr Ephesiaid.

29A llanwyd yr holl ddinas o wradwydd, ac ar vn-waith y rhuthrâsant i’r orseddfa, ac a ddaliasant Kufein.16.23. 1.cor.1.1.14. Gaius, ac Col 4.10.Aristarchus Macedoniaid cydymdeithion Paul.

30A phan oedd Paul yn ewyllysio myned i mewn ym mysc y bobl, ni adawodd y discyblion iddo.

31Rhai hefyd o bennaethiaid Asia y rhai oeddynt gyfeillion iddo a yrrâsant atto i ddeisyf arno, nad ymrodde efe i fyned i’r orsedd.

32Ac eraill a lefâsant beth arall: canys y gynnulledfa oedd yn gymmysc, â’r rhan fwyaf ni ŵyddent pa ham y daethent yng-hŷd.

33Ac hwy a dynnasanat allan o’r dyrfa vn Alexander, a’r Iddewō yn ei yrru ef ym mlaen) yr hwn Alexander gan amneidio â’r law am osteg, a fynnase ymescusodi wrth y bobl.

34Eithr pan wybuant mai Iddew oedd efe, rhoddasant oll vn llef megis dros ddwy awr, gan lefain, mawr yw Diana yr Ephesiaid.

35Ac yna yscolhaig wedi iddo lonyddu y bobl, a ddywedodd: ha-wŷr yr Ephesiaid, pa ddyn sydd ni’s gŵyr fod dinas yr Ephesiaid yn cadw teml y dduwies fawr Diana, a’r yr hon a ddescynnodd oddi wrth Iupiter?

36A chan na ellir dywedyd yn erbyn hyn, rhaid i chwi fod yn llonydd, ac na wnelech ddim yn ddibwyll.

37Canys chwi a ddugasoch ymma y gwŷr hyn, y rhai nid ydynt, nac yn yspeilwyr temlau, nac yn cablu eich duwies.

38O achos pa ham od oes gan Demetrius, na chan y crefft-wŷr y rhai sy gyd ag ef, vn hawl yn erbyn neb, y mae cyfraith yw chael, ac y mae rhaglawiaid, rhodded pawb yn erbyn ei gilydd.

39Ac os gofynnwch ddim am bethau eraill, mewn cynnulleidfa gyfreithlawn y terfynir

40O herwydd enbyd yw rhag ein ceryddu am y derfysc heddyw i am nod oes vn achos i ni iw rhoi drosom am yr ymgyrchfa hon.

41Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ollyngodd y dyrfa ymmaith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help