1Pa beth gan hynny a ddywedwn gael o Abraham ein tâd yn ôl y cnawd?
2Canys os Abraham a gyfiawnhawyd trwy weithredoedd, y mae iddo orfoledd, eithr nid ger bron Duw.
3Canys pa beth a ddywed yr Scrythur
9[A ddaeth] y dedwyddywch hyn ar yr enwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd, cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder.
10Pa fodd y cyfrifwyd hi? ai pan oedd yn yr enwaediad, ynte yn y dienwaediad? nid yn yr enwaediad, onid yn y dienwaediad.
11 Gen.17.11. Ac efe a gymmerth arwydd yr enwaediad yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon yn y dienwaediad, fel y bydde efe yn dâd pawb a grêdent yn y dienwaediad, fel y cyfrifid yn gyfiawnder iddynt hwy hefyd,
12Ac yn dâd yr enwaediad, nid iddynt hwy yn vnic, y rhai o’r enwaediad, onid i’r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd ein tâd Abraham, yr hon oedd yn y dienwaediad.
13Canys nid trwy y gyfraith yr addewid i Abraham, neu iw hâd y bydde efe yn etifedd y byd, eithr trwy gyfiawnder ffydd.
14Canys os y rhai sydd o’r ddeddf, yw’r etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a’r addewid yn ddirym.
15O blegit y mae y ddeddf yn peri digofaint, canys lle nid oes deddf, nid oes gamwedd.
16Am hynny o ffydd fel y dêl trwy râs, a bôd yr addewid yn siccr i’r holl hâd: sef nid yn vnic i’r hwn sydd o’r ddeddf: onid hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham yr hwn yw ein tâd ni ôll,
17(Megis y mae yn scrifennedic, Gen.17.4.mi a’th wnaethym yn dâd llawer o genhedloedd) ger bron y neb y credodd efe iddo Duw yr hwn sydd yn bywhau y meirw, ac sydd yn galw y pethau nid ydynt, fel pe byddent.
18Yr hwn yn erbyn gobaith, a gredodd tann obaith, fel y bydde yn dâd cenhedloedd lawer, yn ôl yr hyn a ddywedasid, Gen.15.5.felly y bydd dy hâd di.
19Ac efe yn ddiegwan o ffydd nid ystyriodd ei gorph ei hunan yr hwn oedd weithian wedi marweiddio, ar yng-hylch can-mlwydd oed, na marweidd-dra bru Sara.
20Ac nid amheuodd efe addewid Duw drwy ang-hredyniaeth, eithr ef a nerthwyd yn y ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw.
21Ac yn gwbl siccr ganddo, ei fod yn abl i wneuthur yr hyn o addawse.
22Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
23Ac nid scrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn vnic, i gyfrif hyn iddo yn gyfiawnder,
24Eithr hefyd erom ninnau, i’r rhai y cyfrifir y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfodes Iesu ein Harglwydd o feirw.
25Yr hwn a draddodwyd tros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd er ein cyfiawnhâd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
