Esay 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Aniolchgarwch a chyndynrwydd y bobl. 11 Eu llygredic wasanaeth i Dduw. 14 A dialedd Duw am hynny.

1 Num.12.6. Gweledigaeth Esay fab Amos yr hon a welodd efe am Iuda, ac Ierusalem yn nyddiau Uzia, 2.Bren.15.32.Iotham, Ahas, Hezecia brenhinoedd Iuda.

2 Deut.32.1. Gwrandewch nefoedd, clyw dithe ddaiar, canys yr Arglwydd a lefarodd: megais a meithrinais Deut.10.15.feibion, a hwynt a wrthryfelasant i’m herbyn.

3Yr ŷch a edwyn ei feddiannudd, a’r assyn breseb ei berchennog: Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall.

4Oh genhedlaeth bechadûrus, pobl lwythoc o anwiredd, hâd y rhai drygionus, meibion llygredic, gwrthodasant yr Arglwydd, dirmygasant Sanct Israel, chiliasant yn ôl.

5I ba beth i’ch tarewir mwy? cildynrwydd a chwanegwch: y pen oll glwyfus, a’r holl galon yn llesc.

6O wadn y troed hyd y pen, nid ddim cyfan ynddo archollion, a chleisiau, a gweliau crawnllyd: ni wascwyd, ac ni rwymwyd, ac ni thynêrwyd ag olew.

7Y mae eich gwlâd yn anrhaithiedic, eich dinasoedd wedi eu llosci â thân, eich tîr a dieithriaid yn ei yssu yn eich gŵydd, ac wedi ei anrheithio fel pe ymchwele estroniaid ef.

8A merch Sîon a adewir megis lluestŷ mewn gwinllan, megis lletŷ mewn gardd cucumerau, megis dinas warchaedic.

9Oni buase i Arglwydd y lluoedd adel i ni megis ychydig weddill: fel Sodoma y buasem, a chyffelyb fuasem i Gomorra.

10Gwrandewch air yr Arglwydd tywysogion Sodoma: clywch gyfraith ein Duw ni pobl Gomorra.

11Beth lluosogrwydd eich aberthau i mi medd yr Arglwydd? llawn ydwyf o boeth aberthau hyrddod, ac o frasder breision: Psalm.50.13.|PSA 50:13. ierem.6.20.|JER 6:20. amos.5.21.|AMO 5:21. mich.6.7.gwaed bustych hefyd, ac ŵyn, a bychod ni ewyllysiais.

12Pan ddeloch i ymddangos ger fy mron, pwy a geisiodd hyn ar eich llaw sathru fy llysoedd?

13Na chwanegwch ddwyn offrwm yn ofer, arogl-darth sydd ffiaidd gennif: ni allaf oddef newydd-loerau na’r Sabbothau gan gyhoeddi cymanfa, ac vchel-ŵyl, anwiredd ydynt.

14Eich lleuadau newydd, a’ch gwylau gosodedic a gasaodd fy enaid, y maent yn faich arnaf, blinais yn eu dwyn.

15A phan estynnoch eich dwylo y cuddiaf fy llygaid rhagoch: hefyd pan weddioch lawer ni wrandawaf: Esay.59.3.eich dwylo ydynt lawn o waed.

16Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymmaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid: peidiwch a gwneuthur drwg.

17Dyscwch wneuthur daioni, ceisiwch farn, cyfarwyddwch y gorthrymmedic, bernwch ymddifad, dadleuwch y weddw.

18Deuwch yr awr hon, ac ymresymmwn medd yr Arglwydd, pe bydde eich pechodau fel porphor, ânt cyn wynned a’r eira, pe chochent fel scarlat, byddant fel gwlân.

19Os mynnwch, ac os gwrandewch: daioni y tîr a fwyttewch.

20Ond os gwrthodwch, ac anufyddhewch, â chleddyf i’ch yssir: canys genau yr Arglwydd ai llefarodd.

21Pa wedd yr aeth y ddinas ffyddlawn yn buttain? cyflawn o farn, lleteuodd cyfiawnder ynddi: ond yr awr hon lleiddiaid

22Dy arian a aeth yn sothach, dy wîn sydd gymmysclyd a dyfroedd.

23Dy dywysogion gyndyn, ac yn gyfrannogion â lladron, pob vn yn caru rhoddion, ac yn dilyn gwobrau: ni farnant yr ymddifad, a chwyn y weddw ni chaiff ddyfod attynt.

24Am hynny medd Arglwydd Dduw y lluoedd cadarn’r Israel: aha, ymgyssuraf yn erbyn fyng-wrthwyneb-wŷr, ac dialaf ar fyng-elynnion.

25Yna y dychwelaf fy llaw arnat, ac a loscaf hefyd dy sothach fel pureiddfa: ac a baraf ymmaith dy holl alcam.

26Cyweiriaf hefyd dy farn-wŷr fel cynt, a’th gynghoriaid megis yn y dechreu: wedi hynny i’th elwir yn ddinas gyfiawn, ac yn dref ffyddlon.

27Sîon a ryddheuir mewn barn, a’r rhai a ddychwelant ynddi mewn cyfiawnder.

28 Psalm.92.9. Destruw y trawsion, a’r pechaduriaid yng-hyd: a gwrthod-wŷr yr Arglwydd a ddarfyddant.

29Canys cywilyddiant o achos y Deut.16.22.prennau y rhai a chwennychasoch: a gwarthruddir chwi am y gerddi y rhai a ddetholasoch.

30Canys byddwch fel pren wedi syrthio ei ddalen, ac fel gardd yr hon nid ddyfroedd ynddi.

31A’r cadarn fydd fel sofl, ai weithudd fel gwreichionen: lloscant ill dau yng-hyd, ac ni diffoddudd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help