1Dywedodd Ahitophel hefyd wrth Absalom: gâd i mi yn awr ddeuddeng-mil o wyr, ac mi a gyfodaf, ac a elidiaf ar ôl Dafydd liw nôs.
2A mi a ddeuaf arno ef, tra fyddo efe yn lluddedic, ac yn wann ei ddwylaw, ar ai brawychaf ef, fel y ffu’r holl bobl y rhai gydag ef: felly y tarawaf y brenin ei hunan.
3A throaf yr holl bobl attat ti: phan ddychwelo pob vn y gŵr yr hwn yr ydwyt ti’n ei geisio, yr holl bobl fydd heddwch.
4A da fu’r peth yng-olwg Absolom, ac yng-olwg holl henuriaid Israel.
5Yna y dywedodd Absalom, galw attolwg hefyd ar Husai yr Arciad: a gwrandawn beth a ddywedo yntef hefyd.
6Pan ddaeth Husai at Absalom, yna y llefarodd Absalom wrtho ef gan ddywedyd: fel hyn y dywedodd Ahitophel, a wnawn ni ei gyngor ef, ai nis dywet ti.
7Yna y dywedodd Pusai wrth Absalom: nid da y cyngor yr hwn a gynghorodd Ahituphel y waith hon.
8Canys eb Husai, ti a wyddost am dy dad ai wyr, mai cryfion hwy, a chreulon, megis arth wedi difa ei chenawon yn y maes: dy dad hefyd ryfel-wr, ac nid erys efe tros nos gyd a’r bobl.
9Wele yn awr y mae efe yn llechu, mewn rhyw ogof neu mewn rhywle: a phan syrthio o honynt’yn y dechreu, yna y a glyw, ac a ddywed, bu pla yn erbyn y bobl y rhai ar ôl Absalom.
10Yna’r vn grymmysaf yr hwn ei galon fel calon llew a lwfrhâ: canys gŵyr holl Israel mai glew dy dâd ti, ac meibion nerthol y rhai gyd ag ef.
11Am hynny y cynghoraf lwyr gasclu attat ti holl Israel o Dan hyd Beerseba fel y tywod y rhai wrth y môr o amldra, a’th wyneb dy hun aiff i’r rhyfel.
12Felly y deuwn atto ef i vn o’r lleoedd yr hwn y ceffir ef ynddo, ac a werssyllwn iw erbyn ef fel y syrth y gwlith ar y ddaiar: ac ni adewir o honaw ef nac vn ychwaith o’r gwŷr y rhai gyd ag ef.
13Ond os i ddinas yr ymgascl ef, yna holl Israel a ddygant raffau at y ddinas honno: ac ni ai tynnwn hi hyd yr afon, fel na cheffir yno vn garregan.
14Yna y dywedodd Absalom, a holl wyr Israel, gwell cyngor Husai yr Arciad, na chyngor Ahitophel: canys yr Arglwydd a ordeiniase ddiddymmu cyngor da Ahitophel, fel y dyge yr Arglwydd ddrygioni ar Absalom.
15Yna y dywedodd Husai wrth Zadoc, ac wrth Abiathar yr offeiriaid, fel hyn, ac fel hyn, y cynghorodd Ahitophel i Absalom, ac i henuriaid Israel: ac fel hyn, ac fel hyn y cynghorais inne.
16Yn awr gan hynny anfonwch yn fuan a mynegwch i Ddafydd gan ddywedyd, nac aros trosnôs yn rhossydd yr anialwch, onid gan fyned 133 dos, rhac difetha y brenin, a’r holl bobl y rhai gyd ag ef.
17Ionathan hefyd, ac Ahimaaz oeddynt yn sefyll wrth ffynnon Rogel, ac fe aeth llangces ac a fynegodd iddynt, hwythau a aethant ac a fynegasant i’r brenin Dafydd: ni allent hwy ymddangos i fyned i’r ddinas.
18Etto llangc ai gwelodd hwynt, ac a fynegodd i Absalom, a’m hynny’r aethant ill dau yn fuau, ac y daethant i dŷ gŵr yn Bahurim, ac iddo ef pydew yn ei gyntedd, ac hwy a aethant i wared yno.
19Yna y wraig a gymmerth, ac a ledodd glawr ar wyneb y pydew, ac a dânodd arno ef falurion: fel na ŵybuwyd y peth.
20A phan ddaeth gweision Absalom at y wraig i’r tŷ, hwy a ddywedasant, pa le Ahimaaz ac Ionathan? a’r wraig a ddywedodd wrthynt, hwy a aethant tros y ffrwd ddwfr: pan geisiasant, ac nas cawsant yna y dychwelasant i Ierusalem.
21Ac ar ôl iddynt hwy fyned ymmaith, yna a ddaethant i fynu o’r pydew, ac a aethant, ac a fynegasant i’r brenin Dafydd: ac a ddywedasant wrth Ddafydd, cyfodwch, ac ewch yn fuan tros y dyfroedd, canys fel hyn y cynghorodd Ahitophel yn eich erbyn chwi.
22Yna y cododd Dafydd a’r holl bobl y rhai gyd ag ef, ac a aethant tros Iorddonen, nes goleuo’r boreu, fel nad oedd vn yn eisieu a’r nad aethe tros yr Iorddonen.
23Pan welodd Ahitophel na wneuthid ei gyngor ef, yna efe a gyfrwyodd ei assyn, ac a gyfododd, ac a aeth iw dy ei hun, yn ei ddinas ei hun, ac a gymmerodd drefn am ei dŷ, ac a ymdâgodd: felly efe a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dâd.
24Yna Dafydd a ddaeth i Mahanaim: ac Absalom a aeth tros yr Iorddonen, efe a holl wyr Israel gyd ag ef.
25Ac Absalom a osododd Amasa yn lle Ioab ar y llu: ac Amasa fab i ŵr ai enw Ithra yr hwn Israeliad, yr hwn a ddaeth at Abigail ferch, Nahas chwaer Serfia, mam Ioab.
26Felly y gwerssyllodd Israel, ac Absalom yng-wlâd Gilead.
27A phan ddaeth Dafydd i Mahanaim: yna Sobi mab Nahas o Rabbath meibion Ammon, a Machir mab Ammiel o Lodebar, a Barzelai y Gileadiad o Rogelim,
28[A ddugasant] welâu, a chawgiau, a llestri pridd, a gwenith, a haidd, a blawd, a chrasyd: ffâ hefyd, a ffacbys, a chrasbys.
29Mêl hefyd, ac ymenyn, a defaid, a chaws gwarthec a ddugasant hwy i Ddafydd, ac i’r bobl y rhai gyd ag ef iw bwytta: canys dywedasant,’r bobl yn newynoc, yn flîn hefyd, ac yn sychedic yn yr anialwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.