1 Am hynny myfi yr hwn ydwyf garcharor yn yr Arglwydd, Eithr i bob vn o honom y rhoed grâs yn ôl mesur dawn Crist,
8Am hynny y mae yn dywedyd: Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei destiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwy haiach Ruf.1.21.fel y mae y cenhedloedd eraill yn rhodio mewn gwagedd eu meddwl.
18Wedi tywyllu yn eu meddwl, ac yn ddieithr oddi wrth fuchedd Dduw, drwy yr anwybod y sydd ynddynt, trwy galedrwydd eu calonnau.
19Y rhai wedi iddynt ddiddarbodi a ymroesant i drythyllwch yn odieth, i wneuthur pob aflendid.
20Eithr chwy-chwi, nid felly y dyscasoch Grist.
21Os bu i chwi ei glywed ef, ac o’s dyscwyd chwi ganddo megis y mae’r gwirionedd yn Iesu,
22[Sef] dodi heibio yr hyn a berthyn i’r hên ymddygiad gynt, yr hên ddyn hwnnw yr hwn y sydd lygredig drwy chwantau twyllodrus,
23Ac ymadnewyddu yn yspryd eich meddyliau,
24A gwisco y dŷn newydd, yr hwn a grêwyd yn ôl Duw mewn cyfiawnder, a gwîr sancteiddrwydd.
25O herwydd pa ham gan fwrw ymmaith gelwydd, dyweded pawb y gwir wrth ei gymmydog: canys aelodau ydym iw gilydd.
26Digiwch, ac na phechwch, na fachluded yr haul ar eich dîg chwi.
27Ac na ddodwch le i ddiafol.
28Yr hwn a ledratâodd na ledratted mwy, eithr cymmered boen yn hytrach yn gweithio â’i ddwylaw y peth sydd dda, fel y byddo ganddo iw gyfrannu i’r anghênog.
29Na ddeued vn ymadrodd llygredig allan o’ch genau chwi, ond cyfryw vn a fyddo da i adailadaeth pan fyddo rhaid, fel y paro râs i’r gwrandawŷr.
30Ac na thristewch lân Yspryd Duw, gan yr hwn eich seliwyd i ddydd y prynedigaeth.
31Tynner ymmaith oddi wrthych bôb chwerwedd, a llid, a dîg, a llefain, a chabledd gyd â phôb drygioni:
32A byddwch gymmwynascar iw gilydd, a thrugarogion, gan faddeu iw gilydd, fel y maddeuodd Duw er mwyn Crist i chwithau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
