Esay 39 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXIX.Esay yn ceryddu Hezecia am iddo ef ddangos ei dryssor, ai gyfoeth i’r cennadon a ddaethent o Babilon.

1Yn 2 Bren.20.12.yr amser hwnnw Merodac Baladan, mab Baladan brenin Babilon a anfonodd lythyrau, ac anrheg at Hezecia: canys efe a glywse ei fod ef yn glaf, ai fyned yn iach.

2Ac Hezecia a lawenychodd oi herwydd hwynt, a dangosodd iddynt dŷ ei dryssorau, yr arian, a’r aur, a’r llysieuau, a’r olew goref, a holl dŷ ei arfau ef, a’r hyn oll a gafwyd yn ei dryssorau ef: nid oedd dim yn nhŷ Hezecia, nac yn ei holl gyfoeth ef, a’r nas dangossodd Hezecia iddynt.

3Yna y daeth Esay y prophwyd at y brenin Hezecia, ac a ddywedodd wrtho, beth a ddywedodd y gwŷr hynny, ac o ba le y daethant attat? a dywedodd Hezecia, o wlâd bell y daethant attafi o Babilon.

4Yntef a ddywedodd, beth a welsant yn dy dŷ di? a dywedodd Hezecia, yr hyn oll yn fy nhŷ i a welsant, nid oes dim yn fy nhryssorau a’r nas dangosais iddynt.

5Yna Esay a ddywedodd wrth Hezecia, gwrando air Arglwydd y lluoedd:

6Wele y dyddiau’n dyfod pan ddygir i Babilon yr hyn oll yn dy dŷ di, a’r hyn a gynhilodd dy dadau di hyd y dydd hwn: ni adewir dim medd yr Arglwydd.

7Cymmerant hefyd o th feibion di, y rhai a ddaethant o honot y rhai a genhedlaist, fel y byddant stafellyddion yn llys brenin Babilon.

8Yna y dywedodd Hezecia wrth Esay, da gair yr Arglwydd yr hwn a leferaist: dywedodd hefyd, os bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help