1Yr henaduriaid y rhai sy yn eich plith, yr attolygaf finne yr hwn hefyd henadur a thŷst dioddefiadau Crist, a chyfrannog hefyd o’r gogoniant a eglurir rhag llaw,
2Porthwch braidd Duw yr hwn sydd tann eich llaw, ac ymgeleddwch hwynt nid trwy gymmell, eithr yn ewyllyscar, nid er chwant budr-elw, eithr o barodrwydd meddwl:
3Nid fel rhai a fynnant fod yn arglwyddi ar etifeddiaeth eithr fel y galloch fod yn siampl i’r praidd.
4A phan ymddangoso y Pen bugail, cewch anllygradwy goron y gogoniant.
5Yr vn ffunyd yr ieuaingc byddwch ostyngedic i’r henuriaid a Iaco.4.6.chyd-ymostyngwch bawb iw gilydd: ac ymdrwsiwch oddifewn ag vfydd-dra meddwl, canys Duw a wrthladd y beilchion, ac a rydd râs i’r rhai vfydd.
6Ymostyngwch o achos hyn tann alluog law Dduw, fel y gallo eich derchafu pan ddêl amser.
7 Psal.55.23. doeth.12.13.|WIS 12:13. math.6.25.|MAT 6:25. luc.12.22.|LUK 12:22. luc.22.31. Bwriwch gwbl o’ch gofal arno ef: canys y mae efe yn gofalu trosoch,
8Byddwch sobr, a gwiliwch, canys eich gwrthwyneb-wr diafol sydd megis llew rhuadwy yn rhodio oddi amgylch, gan geisio y nêb a allo ei lyngcu.
9Yr hwn, gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd, gan ŵybod fod yn cyflawni yr vn rhyw ddioddefaint yn eich brodyr, y rhai ydynt yn y hyd.
10A Duw pob grâs, yr hwn a’n galwodd ni iw dragywyddol ogoniant trwy Iesu Grist, wedi i chwi oddef ychydig, a’ch cryfhâo, ac a’ch siccrhâo.
11Iddo ef y byddo gogoniant ac emerodraeth yn oes oesoedd. Amen.
12Gyd â Sylfanus brawd ffyddlon i chwi, i’m tŷb i, yr scriefnnais ar ychydig, gan eich cynghori, a thestiolaethu, mai gwir râs Duw ydyw hwn yr ydych yn sefyll ynddo.
13Y mae’r yr hon sydd yn Babylon yn gyd-etholedig â chwi yn eich annerch a Marcus fy mâb i.
14Anherchwch bawb ei gilydd â chusan cariad, Ruf.16.16.|ROM 16:16. 2.cor.16.20.(sic.)|1CO 16:20. 2.cor.13.12.tangneddyf i chwi oll y rhai ydych yng-Hrist Iesu, Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
