1A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel, pa hyd y galêri di am Saul, gan i mi ei fwrw ef ymmaith o deyrnasu ar Israel? llanw dy gorn ag olew, a dos, mi a’th anfonaf di at Isai y Bethlehemiad, canys ym mysc ei feibion ef y canfyddais i’m frenin.
2A Samuel a ddywedodd pa fodd yr âfi? canys Saul a glyw, ac a’m lladd i: yna y dywedodd yr Arglwydd, cymmer anner y gwartheg gyd a thi, a dywet, deuthum i aberthu i’r Arglwydd.
3A galw ar Isai i’r aberth, a mi a yspyssaf i ti yr hyn a wnelech, fel yr eneiniech i mi yr hwn a ddywedaf wrthit.
4Felly y gwnaeth Samuel yr hyn a archase yr Arglwydd, ac a ddaeth i Bethlehem, ac henuriaid y ddinas a ddychrynnasant wrth gyfarfod ag ef, ac a ddywedasant, ai heddychlon dy ddyfodiad?
5Ac efe a ddywedodd, heddychlon: deuthum i aberthu i’r Arglwydd, ymsancteiddiwch a deuwch gyd a mi i’r aberth: ac efe a sancteiddiodd Isai, ai feibion, ac ai galwodd hwynt i’r aberth.
6A phan ddaethant, yna efe a welodd Eliab, ac a ddywedodd: diau ei eneiniog ger bron yr Arglwydd.
7A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel, nac edrych ar ei olŵg ef, nac ar vchter ei gorpholaeth ef, canys gwrthodais ef: o herwydd nid yr hyn a edrych dyn, 1.Cron.28.9.|1CH 28:9. ier.11.20.|JER 11:20. iere.17.10.|JER 17:10. iere.20.12.|JER 20:12. psal.7.10.canys dŷn a edrych ar y llygaid, ond yr Arglwydd a edrych ar y galon.
8Yna Isai a alwodd am Abinadab, ac a barodd iddo ef fyned o flaen Samuel: a dywedodd yntef, ni ddewisodd yr Arglwydd hwn ychwaith.
9Yna y gwnaeth Isai i 2.Sam.21.21.Samma ddyfod, a ddywedodd yntef, ni ddewisodd yr Arglwydd hwn ychwaith.
10Yna y parodd Isai iw saith mab ddyfod ger bron Samuel: a Samuel a ddywedodd wrth Isai, ni ddewisodd yr Arglwydd o’r rhai hyn.
11Dywedodd Samuel hefyd wrth Isai, a ddarfu y plant? yntef a ddywedodd, yr ieuangaf etto sydd yn aros, ac wele efe yn bugeilio y defaid: 2 Sam.7.8.|2SA 7:8. psal.78.71.|PSA 78:71. psal.89.21.yna y dywedodd Samuel wrth Isai, danfon, a chyrch ef, canys nid eisteddwn ni i lawr, nes ei ddyfod ef ymma.
12Yna yr ynfonodd, ac y cyrchodd ef, ac efe wrid-coch a thêg yr olwg, a hardd o wedd: a dywedodd yr Arglwydd, cyfot, eneinia ef, canys dymma efe.
13Yna y cymmerth Samuel gorn yr olew, ac ai heneiniodd ef yng-hanol ei frodyr, a daeth Act.7.45.|ACT 7:45. act.13.22.yspryd yr Arglwydd ar Ddafydd o’r dydd hwnnw allan: yna Samuel a gyfododd, ac a aeth i Ramah.
14Ond yspryd yr Arglwydd a giliodd oddi wrth Saul: ac yspryd drwg oddi wrth yr Arglwydd ai poenodd ef.
15A gweision Saul a ddywedasant wrtho ef, wele yn awr drwg yspryd Duw yn dy boeni di.
16Dyweded attolwg ein meistr ni dy weision ger dy fron yddynt geisio gŵr yn medru canu telyn, a bydded pan ddelo drwg yspryd Duw arnat ti, yna iddo ef ganu ai law, a fydd da i ti.
17Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, edrychwch yn awr i mi ŵr yn medru canu yn ddâ, a dugwch ef attafi.
18Ac vn o’r llangciaid a attebodd, ac a ddywedodd, wele gwelais fab i Isai y Bethlehemiad yn medru canu, ac yn gadarn nerth, ac yn rhyfel-wr, yn ddoeth o ymadrodd hefyd, ac yn ŵr lluniaidd, a’r Arglwydd gyd ag ef.
19Yna yr anfonodd Saul gennadau at Isai, ac a ddywedodd: anfon atafi Ddafydd dy fab yr hwn gyd a’r praidd.
20Ac Isai a gymmerth assyn lwythoc o fara, a chostrêled o wîn, ac vn mynn gafr, ac ai hanfonodd gyd a Dafydd ei fab at Saul.
21A Dafydd a ddaeth at Saul, ac a safodd ger ei fron ef, yntef ai haffodd ef yn ddirfawr, ac efe a aeth yn gludydd arfau iddo ef.
22Yna Saul a anfonodd at Isai, gan ddywedyd: arhosed Dafydd attolwg ger fy mron i, canys efe a gafodd ffafor yn fyng-olwg.
23A phan fydde yspryd Duw ar Saul yna y cymmere Dafydd y delyn, ac y câne ai a bydde esmwythdra i Saul, a dâ iddo ef, a’r yspryd drwg a gilie oddi wrtho ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.