2.Brenhinoedd 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.Duwioldeb Ioas, ai ofal i gyweirio y deml, cyn marw Iehoiada. 17 Iehu wedi hynny yn ei fllino ef, ac yntef yn prynu ei heddwch a golud y cyssegr. 20 Ac wedi i ddau oi weision ladd Ioas, Amasia yn teyrnasu yn ei lê ef.

1Yn y seithfed flwyddyn i Iehu, 2.Cron.24.1.y dechreuodd Ioas deyrnasu, a deugain mhlynedd y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Zibia o Beer-seba.

2Ac Ioas a wnaeth yr hyn oedd inion yngolwg yr Arglwydd ei holl ddyddiau ef: y rhai y dyscodd Iehoiadah yr offeiriad ef.

3Er hynny ni thynnasid ymmaith yr vchelfeudd: y bobl oeddynt etto yn offrymmu, ac yn arogl-darthu yn yr vchelfeudd.

4Ac Ioas a ddywedodd wrth yr offeiriaid: holl arian y pethau cyssegr-edic y rhai a ddygir i mewn i dŷ’r Arglwydd, arian y gŵr a gynniwero, arian gwerth eneidiau pob vn: a’r holl arian a’r a chwennycho neb eu dwyn i mewn i dŷ’r Arglwydd,

5Cymmered yr offeiriaid iddynt, pawb gan ei gydnabod: ac adnewyddant adwyau y tŷ, pa le bynnac y ceffir adwy ynddo.

6Ac yn y drydedd flwyddyn ar hugain i’r brenin Ioas, nid adgyweriase yr offeiriaid agennau y tŷ.

7Yna y brenin Ioas a alwodd am Iehoiadah yr offeiriad, a’r offeiriaid ac a ddywedodd wrthynt hwy: pa ham nad ydych chwi yn cyweirio agennau y tŷ? yn awr gan hynny na dderbynniwch arian gan eich cydnabod, onis rhoddwch at adwyau y tŷ.

8A’r offeiriaid a gyd synniasant ar na dderbynnid arian gan y bobl, heb adnewyddu rwygiadau y tŷ.

9Yna Iehoiadah yr offeiriad a gymmerth ryw gist, ac a dyllodd dwll yn ei chaead: ac ai rhoddodd hi o’r tu dehau i’r allor ffordd y dele pawb i mewn i dŷ’r Arglwydd, a’r offeiriaid y rhai oeddynt yn cadw y trothwy a roddasant yno’r holl arian a’r a ddygwyd i mewn i dŷ’r Arglwydd.

10A phan welsant hwy fod llawer o arian yn y gîst: yna y daeth scrifennudd y brenin, a’r arch-offeiriad i fynu, a hwy a rwymasant yr arian pan gyfrifasant yr hyn a gawsid yn nhŷ’r Arglwydd,

11A hwynt a roddasant yr arian yn barod tann ddwylo gweith-wŷr y gwaith, i oruchwil-wŷr tŷ’r Arglwydd: ac ai talasant i’r seiri pren, ac i’r adailadwyr y rhai oeddynt yn gweithio tŷ’r Arglwydd.

12Ac i’r pridd-wŷr, i’r seiri meini hefyd, ac i brynu coed, a cherrig nadd i adnewyddu adwyau tŷ’r Arglwydd: a thu ag at yr hyn oll a’r a aethe allan i adgyweirio y tŷ.

13Etto ni wnaed yn nhŷ’r Arglwydd gwpanau arian, saltringau, cawgiau, vdcyrn, dim llestri aur, na llestri arian, o’r arian a ddygasid i mewn i dŷ’r Arglwydd.

14Eithr hwy ai rhoddasant i weith-wŷr y gwaith: fel yr adnewyddyd tŷ’r Arglwydd a hwynt.

15Ac ni cheisiasant gyfrif gan y dynion y rhai y rhoddasent hwy’r arian dann eu dwylo iw rhoddi i weith-wŷr y gwaith: canys yr oeddynt hwy yn gwneuthur yn ffyddlon.

16Arian gamwedd, ac arian bechodau ni dducpwyd i mewn i dŷ’r Arglwydd: eiddo’r offeiriaid oeddynt hwy.

17Yna Hazael brenin Syria a ddaeth i fynu, ac a ymladdodd yn erbyn Gath, ac ai hennillodd hi: a Hazael a osododd ei wyneb i fyned i fynu yn erbyn Ierusalem.

18Ac Ioas brenin Iuda a gymmerth yr holl bethau cyssegredic, y rhai a gyssegrase Iehosaphat, ac Ioram, ac Azahia ei henafiaid ef brenhinoedd Iuda, ai gyssegredic bethau ef ei hun, a’r holl aur a’r a gafwyd yn nhryssorau tŷ’r Arglwydd, a thŷ’r brenin: ac efe ai hanfonodd at Hazael brenin Syria, ac efe a ymadawodd oddi wrth Ierusalem.

19A’r rhan arall o hanes Ioas, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Iuda?

20Ai weision ef a gyfodasant, ac a gydfwriadasant fradwriaeth: 2.Cron.24.25.ac a darawsant Ioas nhŷ 2.Sam.5.9.Milo, wrth ddyfod i wared i Sila.

21Felly Iozacar mab Simeath, ac Iozabad mab Somer ei weision ef, ai tarawsant ef, fel y bu efe farw, a hwy ai claddasant ef gyd ai dadau yn ninas Dafydd: ac Amasia ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help