Titus 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Y mae efe yn gorchymyn iddo y ddysceidiaeth iach, ac yn mynegi iddo, pa wedd y dyle efe i bob gradd ymddwyn, 11 Trwy râs Crist.

1Eithr adrodd di yr hyn sydd weddus i athrawiaeth iachus.

2Bod o’r henaf-gwŷr yn sobr, yn honest, yn gymhesur, yn iach yn y ffydd, yng-hariad, ac ammynedd,

3Bod o’r henaf-gwragedd yr un modd mewn cyfryw ymwreddiad ac a wedde i sancteiddrwydd, nid yn enllibiaidd, nid wedi ymroi i win lawer, eich yn rhoi athrawiaeth o ddaioni,

4(Fel y gallant wneuthur y gwragedd ieuaingc yn bwyllog i garu eu gwŷr, i garu eu plant)

5Yn bwyllog, yn ddiwair, yn aros gartref, yn dda, yn Ephes.5.22.23.24.ddarostyngedig i’w gwŷr, fel na chabler gair Duw.

6Cynghora wŷr ieuaingc yr un modd i fod yn bwyllog.

7Ym mhob dim dangos dy hun yn siampl o weithredoedd da, yn yr athrawiaeth puredd gweddeidd-dra, ac anllygredigaeth.

8Ac ymadrodd iachus, yr hwn ni ellir ei feio, fel y cywilyddio yr hwn a safo yn erbyn heb ganddo ddim drwg i’w ddywedyd am danoch chwi.

9[Cynghora] Ephes.6.5.|EPH 6:5. col.3.22.|COL 3:22. 1.pet.2.18.weision i fod yn ddarostyngedig iw meistred, ac boddhau ym mhob dim, heb ddywedyd yn eu herbyn,

10Hen wneuthur twyll, eithr gan ddangos pob ffyddlondeb, fel yr harddant athrawiaeth Dduw ein Iachawdwr ym mhob peth.

11Canys 1.Cor.1.2.|1CO 1:2. coloss.1.22.grâs Duw yr hwn a ddwg iechid i bob dŷn a ymddangosodd,

12Ac sydd yn ein dyscu i wadu anuwoldeb a chwantau bydol, a bod i ni fyw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron,

13Gan edrych am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a’n Iachawdwr Iesu Grist,

14Yr hwn ai rhoddes ei hun trosom, fel i’n pryne ni yn rhydd oddi wrth bob anwiredd, ac yn glânhae ni yn bobl briod iddo ei hun, yn awyddus i weithredoedd da.

15Llefara a chynghôra hyn, ac argyoedda ag holl awdurdod: na fydded i neb dy ddirmygu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help