Osea 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIII.Dinistr ar Iuda, ac Israel am eu gau-dduwiaeth.

1At dy safn â’r vdcorn, fel eryr yn erbyn tŷ’r Arglwydd: am iddynt drosseddu fyng-hyfammod, a phechu yn erbyn fyng-hyfraith.

2Israel a lefant arnaf, fy Nuw, nyni a’th adwaenom di.

3Ffieiddiodd Israel ddaioni: y gelyn ai herlid yntef.

4Hwynt a wnaethant frenhinoedd, ac nid o honofi, gwnaethant dywysogion, ac ni chefais ŵybod: oi harian, ai haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau, ac am hynny y torrir ymmaith.

5Samaria, ciliodd dy lô, fy nîg a lidiodd wrthynt, pa hŷd ni fedrant[ddilyn] diniweidrwydd?

6Canys o Israel efe, y saer ai gwnaeth, ac nid yw efe Dduw, canys yn ddrylliau y bydd llô Samaria.

7Gwynt a hauasant, a chorwynt a fedant, corsen ni bydd iddo, y dwysen ni wnâ flawd, ac os gwnaiff, dieithriaid ai llwngc.

8Israel a lyngcwyd, bellach y byddant ym mysc y cenhedloedd fel offeryn heb hoffter ynddo.

9Canys hwynt a aethant i fynu i Assyria, yn assyn wyllt vnic iddo ei hun: Ephraim a gyflogodd gariadau.

10Hefyd am iddynt gyflogi ym mysc y cenhedloedd, mi ai casclaf hwynt: a dechreuasant tippin ar faich brenin y tywysogion.

11Canys amlhaodd Ephraim o allorau i bechu: allorau oeddynt ganddo i bechu.

12Mi a scrifennais iddo helaethder fyng-hyfraith, fel dieithr-beth y cyfrifwyd.

13[Yn lle] ebyrth fy rhoddion, cîg a aberthant, ac a fwytânt, yr Arglwydd nid yw fodlon iddynt: efe a gofia bellach eu hanwiredd, ac efe a ofwya eu pechodau, dychwelyd o honynt i’r Aipht.

14Anghofiodd Israel ei weithudd, ac a adailadodd balasau, ac Iuda a amlhaodd ddinasoedd caeroc: ond myfi a anfonaf dân iw dinasoedd, ac a yssaf eu palasau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help