Psalmau 119 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. cxix.Aleph. א

1 Gwynfyd y rhai perffaith fford: y rhai a rodiant yng-hyfraith yr Arglwydd.

2Gwyn-fyd y rhai a gadwant ei destiolaethau ef: ai ceisiant ef ai holl galon.

3Yn ddiau ni wnant anwiredd a rodiant yn ei ffordd ef.

4Ti a orchymynnaist gadw dy orchymynnion yn ddyfal.

5O am gyfeirio fy ffyrdd i gadw dy ddeddfau.

6Yna ni’m gwaradwyddid, pan edrychwn ar dy holl orchymynnion.

7Clodforaf di mewn iniondeb calon, pan ddyscwyf farnedigaethau dy gyfiawnder.

8Cadwaf dy ddeddfau: na âd fi’n dragywydd.

Beth. ב

9Pa fodd y glanhâ llangc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.

10A’m holl galon i’th geisiais, na âd i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchymynnion.

11Cuddiais dy ymadroddion yn fyng-halon, er mwyn na phechwn i’th erbyn.

12Ti Arglwydd fendigedic: dysc i mi dy ddeddfau.

13A’m gwefusau y treuthais holl farnedigaethau dy enau.

14Bu mor llawen gennif ffordd dy destiolaethau a’r holl olud.

15Yn dy orchymynnion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.

16Yn dy ddeddfau’r ymddigrifaf, nid anghofiaf dy air.

Gimel. ג

17Bydd ddâ wrth dy wâs, y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.

18Dadcuddia fy llygaid, fel y gwelwyf rhyfedd yn dy gyfraith.

19Dieithr ydwyf yn y tir, na chudd di rhagof dy orchymynnion.

20Drylliwyd fy enaid gan âwydd i’th farnedigaethau bob amser.

21Ceryddaist y beilchion: melltigêdic y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchymynnion.

22Trô oddi wrthif gywilydd a dirmyg, o blegit dy destiolaethau di a gedwais.

23Tywysogion hefyd a eisteddâsant: a ddywedâsant i’m herbyn, dy wâs dithe a fefyrie yn dy ddeddfau.

24A’th destiolaethau fy hyfrydwch a’m cynghor-wŷr.

Daleth. ד

25Glŷnodd fy enaid wrth y llwch, bywhâ fi’n ôl dy air.

26Fy ffyrdd a fynêgais, a gwrandewaist fi: dysc i mi dy ddeddfau.

27Gwna i mi ddeall ffordd dy orchymynnion, a mi a fyfyrriaf yn dy ryfeddodau.

28Diferodd fy enaid gan ofid: bywhâ fi’n ôl dy air.

29Cymmer oddi wrthif ffordd y celwydd, ac yn drugarog dod ti i mi dy gyfraith.

30Dewisais ffordd dy wirionedd: gosodais dy farnedigaethau

31Glŷnais wrth dy destiolaethau: ô Arglwydd, na’m gwradwydda.

32Ffordd dy orchymynnion a rêdaf, pan ehangech fyng-halon.

He. ה

33 Dysc i mi ô Arglwydd ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi y diwedd.

34Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith: îe cadwaf hi a’m holl galon.

35Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchymynnion: canys ynddo y mae fy ewyllys.

36Gostwng fyng-halon at dy destiolaethau: ac nid at gybydd-dra.

37Tro heibio fy llygaid rhag gweled gwagedd: bywhâ fi yn dy ffyrdd.

38Cyflawna dy air i’th wâs, fel i’th ofn di.

39Tro heibio fyng-wradwydd yr hwn a ofnais: canys dy farnedigaethau ddâ.

40Wele awyddus ydwyf i’th orchymynnion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.

Faw. ו

41Deued i mi dy drugaredd Arglwydd, a’th iechydwriaeth yn ôl dy air.

42Yna’r attebaf i’m cabludd: o herwydd yn dy air y gobeithiais.

43Na ddwg dithe air y gwirionedd o’m genau yn llwyr: o herwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais.

44A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol byth ac yn dragywydd.

45Rhodiaf hefyd mewn ehangder, o herwydd dy orchymynnion di a geisiaf.

46Ac am dy destiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni’m cywilyddir.

47Onid ymddigrifaf yn dy orchymynnion y rhai a hoffais.

48A’m dwylo a dderchafaf at dy orchymynnion y rhai a gêrais, a mi a fefyriaf yn dy ddeddfau di.

Zain. ז

49Cofia air i’th wâs yn yr hwn y peraist i mi obeithio.

50Dymma fyng-hyssur mewn cystudd, mai dy air di a’m bywha fi.

51Y beilchion a’m gwatwarasant yn ddirfawr: ni throais oddi wrth dy gyfraith di.

52Cofiais ô Arglwydd dy farnedigaethau er ioed, ac ymgyssurais.

53Ofn a ddaeth arnaf o blegit yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.

54Dy ddeddfau oeddynt fyng-hân yn nhŷ fy mhererindod.

55Cofiais dy enw Arglwydd liw nôs, a chedwais dy gyfraith.

56Hyn oedd gennif, a’m gadw o honof dy orchymynnion di.

Cheth. ח

57O Arglwydd fy rhan meddyliais gadw dy eiriau.

58Gweddiais ger dy fron holl galon: trugarhâ wrthif yn ôl dy air.

59Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy destiolaethau di.

60Bryssiais, ac nid oedais gadw dy orchymynnion.

61Minteioedd yr annuwiolion a’m hyspeiliasant: nid anghofiais dy gyfraith di.

62Hanner nôs y cyfodaf i’th foliannu am farnedigaethau dy gyfiawnder.

63Cyfaill i’r rhai oll a’th ofnant, ac i’r rhai a gadwant dy orchymynnion.

64Llawn yw’r ddaiar oth drugaredd ô Arglwydd: dysc i mi dy ddeddfau.

Teth. ט

65Gwnaethost yn dda a’th wâs ô Arglwydd, yn ôl dy air.

66Dysc i mi iawn ddeall, a gŵybodaeth, o herwydd yn dy orchymynnion di y credais.

67Cyn fy narostwng yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.

68Da a daionus, dysc i mi dy ddeddfau.

69Y beilchion a glyttiasant gelwydd i’m herbyn: minne a gadwaf dy orchymynnion a’m holl galon.

70Cyn frased a’r bloneg yw eu calon: minne a ymddigrifais dy gyfraith di.

71Da yw i mi fy narostwng, fel y dyscwn dy ddeddfau.

72Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd aur, ac arian.

Iod. י

73Dy ddwylo a’m gwnaethant, ac a’m llunniasant: pâr i mi ddeall fel y dyscwyf dy orchymynnion.

74Y rhai a’th ofnant a’m gwelant, ac a lawenychant, o blegit gobeithio o honof yn dy air di.

75Gwn Arglwydd mai cyfiawn dy farnedigaethau: a chystuddio o honot fi yn ffyddlon.

76Bydded attolwg dy drugaredd i’m cyssuro yn ôl dy air i’th wasanaeth-wr.

77Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw: o herwydd dy gyfraith fy nigrifwch.

78Cywilyddier y beilchion, canys ar gam i’m plygent myfi a fefyrriaf yn dy orchymynnion di.

79Troer attafi y rhai a’th ofnant di, a’r rhai a adwaenant dy destiolaethâu.

80Bydded fyng-halon yn berffaith yn dy ddeddfau, fel na’m cywilyddier.

Caph. כ

81Deffygiodd fy enaid am dy iechydwriaeth, wrth dy air yr ydwyf yn disgwil.

82Y mae fy llygaid yn pallu am dy air gan ddywedyd: pa bryd i’m diddêni?

83Canys ydwyf fel costrel mewn mŵg nid anghofiais dy ddeddfau.

84Pa nifer dyddiau dy wâs? pa bryd y gwnei farn ar y rhai a’m herlidiant?

85Y beilchion a gloddiâsant byllau i mi, yr hyn nid yw wrth dy gyfraith di.

86Dy holl orchymynnion wirionedd, ar gam i’m herlidiasant, cymmorth fi.

87Braidd na’m difasant ar y ddaiar, a minne ni adewais dy orchymynnion.

88Bywhâ fi yn ôl dy drugaredd: fel y cadwyf destiolaeth dy enau.

Lamed. ל

89Dy air ô Arglwydd sydd yn parhau byth yn y nefoedd.

90Dy wirionedd dros genhedlaeth a chenhedlaeth seiliaist y ddaiar, a hi a saif.

91Wrth dy farnedigaethau y safant heddyw: canys dy weision oll.

92Oni bai dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuase yna am danaf yn fyng-hystudd.

93Byth ni anghofiaf dy orchymynnion: canys â hwynt i’m bywheaist.

94Eiddot ti ydwyfi, achub fi ô herwydd dy orchymynnion a geisiais.

95Y rhai annuwiol a ddisgwyliasant am danaf i’m difetha, dy destiolaethau di a ystyriaf.

96Yr ydwyf yn gwêled diwedd ar bob perffeithrwydd, dy orchymyn di sydd dra ehang.

Mem. מ

97Mor gu gennif dy gyfraith di: hi yw fy myfyrdod beunydd.

98A’th orchymynnion yr ydwyt yn fyng-wneuthur yn ddoethach na’m gelynnion: canys byth gyd â mi.

99Deallais fwy na’m holl athrawon: o herwydd dy destiolaethau fy myfyrdod i.

100Deallais yn well na’r henuriaid, am gadw o honof dy orchymynnion di.

101Atteliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.

102Ni chiliais oddi wrth dy farnedigaethau, o herwydd ti a’m dyscaist.

103Mor felus yw dy eiriau i’m genau: na mêl i’m safn.

104Trwy dy orchymynnion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.

Nun. נ

105 Llusern dy air i’m traed, a llewyrch i’m llwybr.

106Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.

107Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi ô Arglwydd yn ôl dy air.

108Attolwg Arglwydd bydd fodlon i ewyllyscar offrymmau fyng-enau, a dysc i mi dy farnedigaethau.

109[Y mae] fy enaid yn fy llaw yn oestadol: er hynny nid anghofiais dy gyfraith.

110Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchymynnion di.

111Cymmerais dy orchymynnion yn etifeddiaeth dros byth: o herwydd llawenydd fyng-halon ydynt hwy.

112Gostyngais fyng-halon i wneuthur dy ddeddfau byth y diwedd.

Samech. ס

113Dychymmygion a gasêais, a’th gyfraith di a hoffais i.

114Fy lloches a’m tarian ydwyt: wrth dy air y disgwiliais.

115Ciliwch oddi wrthif rai drygionus: canys cadwaf orchymynnion fy Nuw.

116Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na phâr i mi gywilyddio am fyng-obaith.

117Cynnal fi, ac iach fyddaf, ac yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf yn wastadol.

118Sethraist y rhai oll a gyrwydrent oddi wrth dy ddeddfau: canys ofer eu dichell hwynt.

119Gwnaethost i holl annuwolion y tîr ddarfod sothach: am hynny ’r hoffais dy destiolaethau.

120Dychrynnodd fyng-nhawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.

Ain. ע

121Gwneuthum farn, a chyfiawnder: na ad fi i’m gorthrym-wŷr.

122Pâr i’th wâs roddi ei fryd ar ddaioni: na âd i’r beilchion fyng-orthrymmu.

123Fy llygaid a ballasant am dy iechydwriaeth, ac am dy ymadrodd cyfiawn.

124Gwna i’th wâs yn ôl dy drugaredd: a dysc i mi dy ddeddfau.

125Dy wâs ydwyfi, pâr i mi ddeall: fel yr adwaenwyf dy destiolaethau.

126Amser i’r Arglwydd wneuthur torrasant dy gyfraith di.

127Am hynny ’r hoffais dy orchymynnion yn fwy nag aur, îe nag aur coeth.

128Am hynny y cyfrifais yn iniawn orchymynnion eu gyd oll: y caseais bob gau lwybr.

Pe. פ

129Rhyfedd yw dy destiolaethau, am hynny y cadwodd fy enaid hwynt.

130Agoriad dy air a rydd oleuni, gan beri deall i rai annichellgar.

131Agorais fyng-enau a dyheais, o blegit awyddus oeddwn i’th orchymynnion di.

132Edrych arnaf a thrugarhâ-wrthif yn ôl arfer i’r rhai a garant dy enw.

133Cyfarwydda fyng-hamrau wrth dy air, ac na lywodraethed dim anwiredd arnaf.

134Gwaret fi oddi wrth drawsedd dynnion: felly y cadwaf dy orchymynnion.

135Llewyrcha dy wyneb ar dy wâs, a dysc i mi dy ddeddfau.

136Afonydd o ddyfroedd a ddescynnasant o’m llygaid, am na chadwasant dy gyfraith di.

Tsade. צ

137Cyfiawn ti ô Arglwydd, ac iniawn yw dy farnedigaethau.

138Gorchymynnaist gyfiawnder dy destiolaethau: a gwirionedd yn ddirfawr.

139Fy Zêl a’m difaodd o herwydd i’m gelynnion anghofio dy eiriau di.

140Purwyd dy ymadrodd yn ddirfawr: a’th wâs ai hoffodd hwynt.

141Bychan a dirmygus, nid anghofiais dy orchymynnion.

142Dy gyfiawnder gyfiawnder byth: a’th gyfraith wirionedd.

143Adfyd a chystudd a’m goddiweddasant: a’th orchymynnion fy nigrifwch.

144Cyfiawnder dy destiolaethau yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.

Coph. ק

145 Llefais a’m holl galon, clyw fi ô Arglwydd, dy ddeddfau di a gadwaf.

146Llefais arnat, achub fi: a chadwaf dy destiolaethau.

147Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais, wrth dy air y disgwiliais.

148Fy llygaid a achubasant flaen gwiliadwriaethau y i fyfyrio yn dy air di.

149Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd, Arglwydd bywhâ fi yn ôl dy farnedigaethau.

150Y rhai a ddilynant scelerder a nessasant ac a ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di.

151Tithe Arglwydd agos: canys dy holl orchymynnion wirionedd.

152Er ystalm y gwyddwn am dy destiolaethau, selio o honot hwynt yn dragywydd.

Resh. ר

153Gwêl fyng-hystudd, a gwaret fi, canys nid anghofiais dy air di.

154Dadle fy nadl, a rhyddhâ fi: bywhâ fi o herwydd dy air.

155Pell iechydwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: o herwydd na cheisiasant dy ddeddfau di.

156Dy drugareddau Arglwydd aml: bywhâ fi yn ôl dy farnedigaethau.

157Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fyng-wrthwynebu: ni throais oddi wrth dy destiolaethau.

158Gwelais y trosedd-wŷr, a gressynnais am na chadwent dy air di.

159Gwêl hoffi o honof dy orchymynnion di: Arglwydd bywhâ fi’n ôl dy drugaredd.

160Gwirionedd dechreuad dy air: a’th holl gyfiawn farn yn dragywydd.

Schin. ש

161Tywysogion a’m herlidiasant heb achos, er hynny fyng-halon a gryne rhag dy air di.

162Llawen ydwyf fi o blegit dy air, fel yn cael sclyfaeth lawer.

163Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a’th gyfraith di a hoffais.

164Seith-waith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori: o herwydd dy gyfiawn farnedigaethau.

165Heddwch mawr i’r rhai a garant dy gyfraith: ac nid dramgwydd iddynt.

166Disgwiliais wrth dy iechydwriaeth di ô Arglwydd: a gwneuthum dy orchymynnion.

167Fy enaid a gadwodd dy destiolaethau: a hoff iawn gennif hwynt.

168Cedwais dy orchymynnion a’th destiolaethau: am fy holl ffyrdd ger dy fron di.

Taw. ת

169Nessaed fyng-waedd o’th flaen Arglwydd: gwna i mi ddeall yn ôl dy air.

170Deued fyng-weddi ger dy fron: gwaret fi yn ôl dy ymadrodd.

171Fyng-wefusau a draethant foliant: pan ddyscech i mi dy ddeddfau.

172Fy nhafod a ddatcan dy air: o herwydd dy holl orchymynnion gyfiawnder.

173Bydded dy law i’m cynnorthwyo: o herwydd dy orchymynnion di a ddewisais.

174Awyddus ydwyf ô Arglwydd i’th iechydwriaeth: a’th gyfraith fy hyfrydwch.

175Bydded byw fy enaid fel i’th folianno di: a chynnorthwyed dy farnedigaethau fi.

176Cyfeiliornais fel oen wedi colli: cais dŷ wâs, o blegit nid anghofiais dy orchymynnion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help