Mathew 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Y gwyr doethion y rhai ydynt flaenffrwyth y cenhedloedd yn addoli Crist. 13 Ioseph yn cilio i’r Aipht, a’r Iesu ai fam. 16 Herod yn lladd y rhai bychain. 22 Ioseph yn troi i Galilæa.

1

14Ac yntef pan gyfododd a gymmerth y bachgē a’i fam o hŷd nos, ac a giliodd i’r Aipht.

15Ac yno y bu hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedodd yr Arglwydd, trwy’r prophwyd, gan ddywedyd, o’r Aipht y gelwais fy Mab.

16Yna Herod pan weles ei siommi gan y doethion a ffrōmodd yn aruthr, ac efe a ddanfonodd ac a laddodd yr holl fechgin y rhai oeddynt yn Bethlehem ac yn ei holl gyffiniau o ddwyflwydd oed, a thann hynny, wrth yr amser am yr hwn y gofynnase efe yn fanwl i’r doethion.

17Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid trwy Ieremias y prophwyd gan ddywedyd,

18Llef a glywyd yn Rama, galar ac ŵylofain, ac ochain mawr: Rachel yn ŵylo am ei phlant ac ni fynne hi ei chyssuro am nad oeddynt.

19Yna wedi marw Herod, wele, Angel yr Arglwydd a ymddangoses i Ioseph trwy ei hun yn yr Aipht,

20Gan ddywedyd, cyfot a chymmer y bachgen a’i fam a dôs i dir Israel: canys y rhai oeddynt yn ceisio enioes y bachgen a fuant feirw.

21Ac wedi ei gyfodi efe a gymmerth y bachgen a’i fam, ac a ddaeth i dîr Israel.

22Eithr pan glybu efe fod Archelaus yn teyrnasu yn Iudæa yn lle ei dâd Herod, efe a ofnodd fyned yno, ac wedi ei rybuddio gan Dduw trwy ei hun, efe a giliodd i dueddau Galilæa.

23A phan ddaeth, efe a drigodd mewn dinas a elwid Nazareth, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy y prophwydi, mai Nazaread, y gelwid ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help