1Arnat ti, Arglwydd y galwaf, fyng-hadernid na fydd fyddar wrthif: rhag o thewi yna i’m cyffelybir i rai yn descyn i’r pwll.
2Erglyw lef fy ymbil, pan waeddwyf arnat, pan dderchafwyf fy nwylo tu ag at dy gafell sanctaidd.
3Na thynn fi gyd a’r annuwolion, a chyd â gweithred-wŷr anwiredd, y rhai a lefârant heddwch wrth eu cymmydogion, a drwg yn eu calon.
4Dyro iddynt yn ôl eu gweithred, ac yn ôl drygioni eu dychmmygion, dyro iddynt yn ôl gweithredoedd eu dwylo: tâl iddynt eu gobr.
5Am nad ystyriant weithredoedd yr Arglwydd, na gwaith ei ddwylo ef, y dinistria efe hwynt, ac nis adailada hwynt.
6Bendigêdic fyddo’r Arglwydd: canys clybu lêf fyng-weddiau.
7Yr Arglwydd fy nerth a’m tarian, ynddo ef yr ymddyriedodd fyng-halon, ac i’m cynnorthwywyd: o herwydd hyn y llawenychodd fyng-halon, ac fyng-hân y clodforaf ef.
8Yr Arglwydd nerth i’r cyfryw rai, a chadernid iechydwriaeth ei eneiniog efe.
9Cadw dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth: portha hwynt hefyd, a dercha hwynt yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
