1Am hyn hefyd y cryn fyng-halon, ac y dychlamma hi oi lle.
2Gan wrando gwrandewch ar gynhyrfiad ei leferydd ef: ac ar y sain a ddaw allan oi enau ef.
3Efe ai hyfforddia dann yr holl nefoedd: ai oleuni hyd eithafoedd y ddaiar.
4Sŵn a rua ar ei ôl ef, efe a wna darânau â llais ei odidawgrwydd: ac ni oeda efe hwynt pan glywir ei dwrwf ef.
5Efe a wna darânau ai lais yn rhyfedd: y mae efe yn gweuthur mwy nag a ŵyddom ni.
6Pan ddywed efe wrth eira, bydd y ddaiar, ac wrth gafod o law: yn y man cafod glaw ei nerth ef
7Efe a selia law pob dŷn, fel yr adwaeno efe ei holl weith-wŷr.
8Y bwyst-fil a aiff iw loches: ac a drig yn ei dyllau.
9O’r deau y daw corwynt: ac oerni oddi wrth y gogledd-wynt.
10Ai wynt y rhydd Duw rew: ac a gyfynga lêd y dyfroedd.
11Hefyd efe a flîna gwmwl yn dwfrhau efe a wascar gwmwl ei lewyrch.
12Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi am gylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy beth bynnac a orchymynno efe iddynt hwy ar hŷd wyneb y byd, a’r ddaiar:
13Ai yn gospedigaeth, ai iw ddaiar ef, ai yn ddaioni, efe a bar gael hynny.
14Gwrando hyn Iob: saf, ac ystyria ryfeddodau Duw.
15A ŵyddost ti pan esid Duw y rhai hynny? a phan wnel efe i oleuni ei gwmwl ef lewyrchu?
16A wyddosti oddi wrth bwysau y cwmylau? rhyfeddodau Duw berffaith-gwbl o ŵybodaeth?
17Fod dy ddillad yn wresog, pan baro efe y ddaiar yn dawel o’r dehau?
18A denaist ti gyd ag ef yr wybrennau, y rhai a siccrhauwyd fel drych toddedic?
19Gwna i ni ŵybod pa beth a ddywedwn wrtho ef: ni allwn ni gyfleu gan dywyllwch
20A fynegir iddo ef os llefaraf, pe dywede neb, diau y difethid ef?
21Canys yn awr nid edrych y goleuni fyddo efe ddisclaer yn yr wybrennau: wedi myned o’r gwynt trosodd ai puro hwynt.
22Trwy ogledd-wynt y daw euraid: ond yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy.
23[Y mae] efe yn Holl-alluog, ni allwn ni ei gael ef: yn ardderchawg o nerth a barn, ac yn aml o gyflawnder, ni chystuddia efe.
24Am hynny ofned dynnion ef: nid edrych efe ar neb doeth meddwl
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
