Zacharias 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.1 Am ympryd. 11. Bod cyndynrwydd y bobl yn peri eu cystudd hwynt.

1Y Bedwaredd flwyddyn i’r brenhin Darius, y daeth gair yr Arglwydd at Zacharias, y pedwerydd o’r nawfed mîs o Cisleu.

2Ac anfonodd Sarasar, a Rogom-melec, ai wŷr i dŷ Dduw i weddio ger bron yr Arglwydd,

3Gan ddywedyd wrth yr offeiriaid y rhai yn-nhŷ Arglwydd y lluoedd, ac wrth y prophwydi, gan ddywedyd: a wylaf fi y pummed mis, gan ymnaillduo, fel y gwneuthym weithian gymmaint o flynyddoedd?

4Yna gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth attaf gan ddywedyd:

5Dywet wrth holl bobl y tîr, ac wrth yr offeiriaid, gan lefaru: pan oeddech yn ymprydio, ac yn galaru y pummed, a’r seithfed y dêng mhlynedd a thrugain hyn, a ymprydiasoch chwi ympryd i mi?

6A phan fwytasoch, a phan yfasoch, onid oeddech yn bwytta eich hunain, ac yn yfed eich hunain?

7Oni y geiriau a gyhoeddodd yr Arglwydd trwy law y prophwydi cyntaf, pan oedd Ierusalem yn gyfannedd, ac yn llwyddiannus, a’r dinasoedd oi hamgylch: a yn cyfanneddu y deheu-dîr a’r dyffryn-dir?

8A daeth gair yr Arglwydd at Zacharias gan ddywedyd:

9Fel hyn y llefara Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd: bernwch farn gywir, gwnewch fwynder, a thrugaredd bob vn iw gilydd.

10Ac na orthrymmwch y weddw, a’r ymddifad, y dieithr, a’r anghenoc, ac na feddyliwch ddrwg bob vn iw gilydd yn eich calonnau.

11Er hyn gwrthodasant wrando, a rhoddasant yscwydd anhydyn, a thrwmhasant eu clustiau rhac clywed.

12Gosodasant hefyd eu calonnau yn Adamant rhac clywed y gyfraith, a’r geiriau y rhai a anfonodd Arglwydd y lluoedd drwy ei yspryd yn llaw y prophwydi cyntaf: am hynny y bu digofaint mawr oddi wrth Arglwydd y lluoedd.

13A bu megis y galwodd efe, ac ni wrandawent: felly y galwent, ac ni’s gwrandawn medd Arglwydd y lluoedd.

14Onid chwalwn hwynt i blith yr holl genhedloedd, y rhai nid adwaenent, a’r tîr a anghyfaneddwyd ar eu hôl hwynt, fel nad oedd a ele heibio, nac a ddele yn ei ôl: felly y gosodasant y wlad ddymmunol yn ddiffaethwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help