Mathew 13 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIII.1 Eglurdab am gyflwr teyrnas Dduw trwy ddammeg yr hâd, 34 yr achos yr ymddiddanodd Crist trwy ddamhegion, 24 Damhegion eraill am yr efrau, 31 am yr hâd mustard, 33 am y sur-does, 44 y tryssor cuddiedig, 45 am y perl, 47 ac am y rhwyd, 53 Crist yn cael ei esceuluso gan ei wlad-wyr ei hun.

1Y dydd hwnnw yr aeth yr Iesu allan o’r tŷ, ac yr eisteddodd efe wrth lann y môr.

2A Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddŷn a hauodd hâd da yn ei faes.

25A thra yr oedd y dynion yn cyscu, y daeth ei elyn ef, ac a hauodd efrau ym mhlith y gwenith, ac a aeth ymmaith.

26Ac wedi i’r egin dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd.

27A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho: arglwydd, oni hauaist ti hâd da yn dy faes? o ba lê gan hynny y mae yr efrau ynddo?

28Ac yntef a ddywedodd wrthynt, y gelyn ddŷn a wnaeth hyn: a’r gweision a ddywedasant wrtho, a fynni di i ni fyned ai casclu hwynt?

29Ac efe a ddywedodd, na fynnaf, rhag i chwi wrth gasclu’r efrau, ddiwreiddio’r gwenith gyd â hwynt.

30Gadewch i’r ddau gŷd-tyfu hyd y cynhaiaf, ac yn amser y cynhaiaf, mi a ddywedaf wrth y medel-wŷr, cesclwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch yn yscubau iw llosci, a chesclwch y gwenith i’m yscubor.

31Dammeg Mar.4.30.|MRK 4:30. Luc.13.9.arall a roddes efe iddynt, gan ddywedyd, cyffelyb yw teyrnas nefoedd, i ronyn o hâd mwstard, yr hwn a gymmer dŷn, ac a haua yn ei faes.

32Yr hwn sydd leiaf o’r holl hadau: ond wedi iddo dyfu, mwyaf vn o’r llysiau ydyw, ac efe a aiff yn brenn fel y delo adar yr awyr a nythu yn ei gangau ef.

33Dammeg Luc.13.21.arall a ddywedodd efe wrthynt, gan ddywedyd, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymmere gwraig, ac ai cuddie mewn tri phecced o flawd, hyd sure y cwbl.

34Hyn oll a ddywedodd yr Iesu Mar.4.33.trwy ddamhegion wrth y dyrfa, ac heb ddamhegion ni ddywedodd efe ddim wrthynt.

35Fel y cyflawnid yr hyn a ddywetpwyd gan y prophwyd, gan ddywedyd, Psal.78.2.agoraf fyng-enau mewn damhegion, a mynegaf ddirgelion er pan seiliwyd y bŷd.

36Yna yr anfonodd yr Iesu y dyrfa ymmaith, ac yr aeth i’r tŷ, a’i ddiscyblion a ddaethant atto gan ddywedyd, eglura i ni ddammeg efrau y maes.

37Yna yr attebodd efe, ac a ddywedodd wrthynt, yr hwn sydd yn hau yr hâd da, yw Mâb y dyn:

38A’r maes yw’r bŷd, a’r hâd da, hwynt hwy yw plant y deyrnas: a’r efrau ydynt blant y drwg.

39A’r gelyn yr hwn a’u hauodd hwynt hwy, yw diafol, Ioel 3.13.|JOL 3:13. Gwel.14.15.a’r cynhaiaf yw diwedd y bŷd, a’r medel-wŷr yw’r angelion.

40Megis gan hynny y cynhullir yr efrau, ac eu lloscir yn tân, felly y bydd yn niwedd y bŷd.

41Mâb y dŷn a ddenfyn ei angelion, ac hwy a gynhullant allan o’i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau, a’r rhai a wnant anwiredd.

42Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân, yno y bydd ŵylo a rhingcian dannedd.

43Yna Daniel.12.3.|DAN 12:3. Doeth.3.7.y llewyrcha y rhai cyfiawn, fel yr haul yn nheyrnas eu Tâd: yr hwn sydd iddo glustiau i wrando, gwrandawed.

44Drachefn cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor cuddiedic mewn maes, yr hwn wedi i ddŷn ei gaffael, a’i guddie efe, ag o lawenydd am dano, efe a gilie, ac a werthe yr hyn oll a fedde, ac a bryne y maes hwnnw.

45Drachefn cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farsiandŵr, yr hwn a geisie berlau da,

46Ac wedi iddo gaffael vn perl gwerth-fawr, a âe, ac a werthe gymmaint oll ac a fedde, ac a’i pryne ef.

47Trachefn cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwrid yn y môr, yr hon a gascle o bob rhyw beth.

48Yr hōn wedi ei llenwi, a ddygent i’r lann, ac a eisteddent, ac a gasclent y rhai da mewn llestri, ac a fwrient heibio y rhai drwg.

49Felly y bydd yn niwedd y bŷd, yr angelion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn,

50Ac a’i bwriant hwy i’r ffwrn dân, yno y bydd ŵylofain a rhingcian dannedd.

51A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ddarfu i chwi ddeall hyn oll? hwythau a ddywedasant wrtho, do Arglwydd.

52Yna y dywedodd efe wrthynt, am hynny pob scrifennudd wedi ei ddyscu i deyrnas nefoedd, a gyffelybir i berchen tŷ, yr hwn a ddwg allan o’i dryssor newydd a hên.

53Ac wedi i’r Iesu ddywedyd y damhegion hyn, efe a ymadawodd oddi yno.

54Ac efe a ddaeth iw wlâd ei hun, ac a’u dyscodd hwynt yn eu Synagogau, Mar.6.1.|MRK 6:1. Luc.4.16oni synnodd arnynt, gan ddywedyd, o ba le y daeth y doethineb hyn a’r gwrthiau i’r dŷn hwn?

55Ond Ioan.6.42.hwn yw mab y saer? onid ei fam ef a elwir Mair? a’i frodyr Iaco, ac Ioses, a Simon, ac Iudas?

56Ac onid yw ei chwiorydd oll gyd â ni? o ba le gan hynny y mae ganddo y pethau hyn oll?

57Ac hwy a rwystrwyd o’i blegit ef, yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Mar.6.4.|MRK 6:4. Luc.4.24. Ioan.4.44.nid yw prophwyd heb anrhydedd onid yn ei wlâd ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.

58Ac ni wnaeth efe fawr wrthiau yno, o blegit eu hanghreduniaeth hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help