1Oblegit hwy a ddywedent ynddynt eu hun gan feddwl yn anghyfiawn, Iob. 7.1|JOB 7:1 & 41.5.|JOB 41:5. Math.22.23. 1.Cor.15.23.berr a blîn yw ein hoes ni: yn niwedd dŷn nid oes meddiginiaeth, ac ni adnabuwyd neb a ddychwelodd o vffern.
2Canys o honom ein hun y ganwyd ni, ac wedi hyn ni byddwn ni mwy na phe ni buasem: oblegit mwg yw ’r ffûn yn ein ffroenau ni, a gwreichionen yw ’r ymadrodd o symmudiad y galon.
3Pan ddiffodder honno yr aiff y corph yn lludw, a’n hanadl a wascerir fel awyr deneu.
4A’n henw ni a anghofir mewn amser, fel na feddylio neb am ein gweithredoedd ni, a’n henioes ni a aiff fel ôl niwl, ac fel y gwascerir cwmwl yr hwn a ymlidio pelydr yr haul, a’r hwn y byddo ei wrês ef drwm wrtho.
5 1.Cron.29.55.(sic.)|1CH 29:15. Pen.5.9. Ein hamser ni sydd fel mynediad cyscod, ac nid oes rhwystr ar ein diwedd ni: canys efe a seliwyd, ac nid oes neb yn dychwelyd.
6 Esa.22.13. & 56.12. 1.Cor.15.32. Deuwch gan hynny mwynhawn y da sydd, ac arferwn yn bryssyr yr hyn a feddwn megis mewn ieuengtid.
7Ymlannwn â gwîn gwerthfawr, ac ag ennaint: ac na adawn i flodau yr awyr fyned heibio i ni.
8Gwiscwn goron o flodau rhôs cyn eu gweuwo.
9Na fydded neb o honom ni heb ei wegi, gadawn ym mhob man arwyddion o’n llawenydd: o blegit hyn yw ein rhan ni, ac dymma dogn ni.
10Gorthrymmwn y tlawd cyfiawn, nac arbedwn y weddw, ac na pharchwn hir-hoedloc henaint yr henaf-gwr.
11Bydded ein cryfder ni yn lle cyfraith gyfiawn. Canys gwendid a geryddir fel peth difudd.
12Bwriadwn frâd i’r cyfiawn am ei fod efe yn anfuddiol i ni: y mae efe hefyd yn erbyn ein gwaith ni, ac yn edliw y pechodau y rhai ydynt yn erbyn y gyfraith, ac yn datcân i ni y pechodau y rhai a ydynt yn erbyn ein haddysc.
13Y mae efe yn ymhonni fod ganddo ŵybodaeth o Dduw, ac yn ei alw ei hun yn blentyn i’r Arglwydd.
14 Ioan.7.7. Ephes.5.13. Efe a aeth ’n ceryddu m am ein meddyliau.
15 Esa.53.3. Trwm gennym ei weled ef: am fod ei fuchedd ef yn anhebyg i eraill, a bod ei ffyrdd ef ar ddull arall.
16Y mae efe yn ein cyfrif ni yn blant o ordderch, ac yn ymgadw rhag ein ffordd ni megis rhag peth aflan, y mae efe yn cyfrif diwedd y rhai cyfiawn yn ddedwydd, ac yn ymhonni bod Duw yn dâd
17Edrychwn ai gwîr ei eiriau ef, a mynnwn ŵybod yn siccr beth a fydd ei ddiwedd ef.
18O blegit osPsal.22.8,9. Math.27.43.mab Duw yw ’r cyfiawn, efe ai cymmer ef, ac ai gwared ef o ddwylo ei wrthwyneb-wŷr.
19 Ier.11.19. Holwn ef yn amharchus, ac yn gystuddiol, fel y caffom ŵybod ei addfwyneidd-dra ef, a phrofi ei ddioddefgarwch ef.
20Barnwn ef i farwolaeth wradwyddus, o blegit fe a synnir arno ef medd efe.
21Hyn a feddyliasant hwy, ac hwy a gamgymmerasant: o blegit eu drygioni ai dallodd hwynt.
22Ac ni ŵybuant hwy ddirgeledigaethau Duw, ac ni obeithiasant am wobr cyfiawnder, ac nid ystyriasant pa anrhydedd sydd i’r eneidiau dihalogedic.
23O blegit Duw a greodd ddŷn yn anllwgredic, Genes.1.27.|GEN 1:27 & 2.7.|GEN 2:7 & 5.1.|GEN 5:1. Eccles. 17.2.3.ac ai gwnaeth ef yn ddelw ei lun.
24AGenes.3.1.2.thrwy genfigen y cythrael y daeth marwolaeth i’r bŷd: a’r rhai a ydynt ar ei du ef ai cafant hi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.