Numeri 26 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXVI.Rhifedi meibion Israel.

1A bu wedi y blâ lefaru o’r Arglwydd wrth Moses, ac wrth Eleazar fab Aaron yr offeiriad gan ddywedyd:

2Cymmerwch nifer holl gynnulleidfa meibion Israel, o fab vgain mlwydd, ac vchod pob vn a allo fyned i ryfel yn Israel, yn ol tŷ eu tadau.

3Felly y llefarodd Moses ac Eleazar yr offeiriad wrthynt yn rhossydd Moab, am yr Iorddonen ag Iericho, gan ddywedyd:

4[Rhifwch y bobl] o fab vgain mlwydd ac vchod, Num.1.3.megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses, a meibion Israel y rhai a ddaethant allan o dir yr Aipht.

5Ruben Genes.46.8.|GEN 46:8. Exod.6.14. 1.Cron.5.1.gyntafanedic Israel feibion Ruben, Hanoch tylwyth yr Hanochiaid: o Phalu tylwyth y Phaliaid.

6O Hesron tylwyth yr Hesroniaid o Charmi tylwyth y Carmiaid.

7Dymma dylwyth y Rubeniaid, ai rhifedigion oeddynt dair mil a deugain, saith gant, a dec ar hugain.

8A meibion Phalu Eliab.

9A meibion Eliab Nemuel, Dathan, ac Abiram: dymma y Dathan ac Abiram, rhai enwoc y gynnulleidfa, y rhai a Num.16.2.ymgynhennasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, yng-hynnulleidfa Corah: pan ymgynhennasant yn erbyn yr Arglwydd.

10Ac agorodd y ddaiar ei safn, ac ai llyngcodd hwynt, a Chorah hefyd: pan fu farw y gynnulleidfa, pan ddifaodd y tân ddeng-ŵr a deugain, a dau cant, y rhai aethant yn arwydd.

11Ond meibion Corah ni buant feirw.

12[Dymma] feibion Simeon wrth eu tylwythau, o Nemuel tylwyth y Nemueliaid: o Iamin tylwyth y Iaminiaid, o Iacin tylwyth y Iaciniaid.

13O Zarech tylwyth y Zarechiaid, o Saul tylwyth y Sauliaid.

14Dymma dylwyth y Simoniaid, dwy fil a’r hugain a dau cant.

15[Dymma] feibion Gad wrth eu tylwythau, o Zephon tylwyth y Zephoniaid, o Haggi tylwyth yr Haggiaid, o Suni tylwyth y Suniaid.

16O Ozni tylwyth yr Ozniaid, o Eri tylwyth yr Eriaid.

17O Arod tylwyth yr Arodiaid, o Ariel tylwyth yr Arieliaid.

18Dymma deuluoedd meibion Gad dan eu rhif, deugain mil, a phump cant.

19Meibion Iuda Genes.38.7.|GEN 38:7. 10.Er, ac Onan, a bu farw Er ac Onan yn nhîr Canaan.

20A meibion Iuda oeddynt wrth eu teuluoedd o Selah tylwyth y Selaniaid, o Pharez tylwyth y Phareziaid: o Zerach tylwyth y Zerachiaid.

21A meibion Gen.46.12.Phares oeddynt, o Hesron tylwyth yr Hesroniaid: o Hamul tylwyth yr Hamuliaid.

22Dymma dylwyth Iuda dan eu rhif: onid pedair mil pedwar vgain mil a phump cant.

23Meibion Issachar wrth eu tylwythau o Tolah tylwyth y Tolaniaid, o Puah tylwyth y Puaniaid.

24O Iasub tylwyth y Iasubiaid, o Smiron tylwyth y Smironiaid.

25Dymma deuluoedd Issachar dann eu rhif, pedwar mil a thrugain mil a thry-chant.

26Meibion Zabulon wrth eu teuluoedd o Sered tylwyth y Seradiaid: o Elon tylwyth yr Eloniaid: o Iahaliel tylwyth y Iahaleliaid.

27Dymma deuluoedd y Zabuloniaid dann eu rhif, tri vgain mîl, a phump cant.

28Meibion Ioseph wrth eu teuluoedd Manasses ac Ephraim.

29Meibion Manasses o Iosua 17.1.Machir tylwyth y Machiriaid: a Machir a genhedlodd Gilead: o Gilead tylwyth y Gileadiaid.

30Dymma feibion Gilead Hiezer, tylwyth yr Hiezeriaid: o Helec tylwyth yr Heleciaid.

31Ac Asriel tylwyth y Asrieliaid: ac Sechem tylwyth y Sechemiaid.

32Ac Simid tylwyth y Simidiaid: ac Hepher tylwyth yr Hepheriaid.

33A Num 27.1.Zalphaad mab Hepher nid oedd iddo feibion, onid merched a henwau merched Zalphaad Mahela, Noe, Hagla, Milcha a Thirza.

34Dymma dylwyth Manasses, ai rhifedigion ddeuddeng mîl a deugain, a saith gant.

35Dymma feibion Ephraim, wrth eu teuluoedd, o Suthela tylwyth y Sutheliaid: o Becher tylwyth y Becheriaid: o Thahen tylwyth y Thaheniaid.

36Ac dymma feibion Suthelah, o Eran tylwyth yr Eranlaid.

37Dymma dylwyth meibion Ephraim trwy eu rhifedigion deuddeng mil ar hugain a phum cant: dymma feibion Ioseph wrth eu teuluoedd.

38Meibion Beniamin wrth eu teuluoedd o Bela tylwyth y Belaniaid: o Asbel tylwyth yr Asbeliaid: o Ahiram tylwyth yr Ahiramiaid.

39O Sephupham tylwyth y Sephuphamiaid: o Hupham tylwyth yr Huphamiaid.

40A meibion Bela oeddynt Ared, a Naaman: tylwyth yr Arediaid: o Naaman tylwyth y Naamaniaid.

41Dymma feibion Beniamin yn ol eu teuluoedd: dann eu rhif bum mil a deugain a chwe chant.

42Dymma feibion Dan yn ôl eu teuluoedd o Suham tylwyth y Suhamiaid: dymma dylwyth Dan yn ol eu teuluoedd.

43A holl dylwyth yr Suhamiaid trwy eu rhifedigion, bedwar mil a thrugam, a phedwar cant.

44Meibion Aser wrth eu teuluoedd o Iemna tylwyth y Iemnaid: o Isai tylwyth yr Isaiaid: o Beriah tylwyth y Beriaid.

45O feibion Beriah o Cheber tylwyth y Cheberiaid: o Malcel tylwyth y Malceliaid.

46Ac enw merch Aser Sarah.

47Dymma deuluoedd meibion Aser drwy eu rhifedigion, tair mîl arddec a deugain, a phedwar cant.

48Meibion Nephthali wrth eu teuluoedd o Iaheziel tylwyth yr Iahezeliaid: o Guni tylwyth y Guniaid.

49O Iezer tylwyth y Iezeriaid: o Sellem tylwyth y Sellemiaid.

50Dymma dylwyth Nephthali yn ol eu teuluoedd dann eu rhif, pum mil a deugain, a phedwar cant.

51Dymma rifedigion meibion Israel, chwe chan mîl, a mîl, saith gant a dec ar hugain.

52Yna y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd:

53I’r rhai hyn y rhennir y tîr yn etifeddiaeth, yn ol rhifedi yr henwau.

54I’r Num.33.54.aml chwanega ei ettifeddiaeth, ac i’r anaml prinhâ ei etifeddiaeth: rhodder bob vn ei etifeddiaeth yn ol ei rifedigion.

55Etto Iosua 11.23.wrth goelbren y rhennir y tîr, wrth henwau llwythau eu tadau’r etifeddant.

56Wrth farn y coel-bren y rhennir ei etifeddiaeth, rhwng aml ac anaml

57 Exod.6.16. Ac dymma rifedigion y Lefiaid wrth eu teuluoedd, o Gerson tylwyth y Gersoniaid: o Cehath tylwyth y Cehathiaid: o Merari tylwyth y Merariaid.

58Dymma dylwyth Lefi, tylwyth y Libniaid, tylwyth yr Hebroniaid tylwyth y Maheliaid, tylwyth y Musiaid, tylwyth y Corasiaid: Cehath hefyd a genhedloedd Amram.

59A henw gwraig Amram Iochebed Exod.2.2. Exod.6.20.merch Lefi: yr hon a aned i Lefi yn yr Aipht, a hi a ddug i Amram Aaron, a Moses, a Miriam eu chwaer hwynt.

60A ganed i Aaron Nadab ar Abihu, Eleazar, ac Ithamar.

61A bu farw Nadab ac Abihu, pan offrymmasant dân dieithr ger bron yr Arglwydd.

62Ai rhifedigion oeddynt dair mil ar hugain pob gwryw o fab misyriad ac vchod, Leuit.10.2.|LEV 10:2. Num.3.4. 1.Cron.24.2.canys ni chyfrifyd hwynt ym mysc meibion Israel, am na roddwyd iddynt etifeddiaeth ym mlhith meibion Israel.

63Dymma rifedigion Moses ac Eleazar yr offeiriad, y rhai a rifasant feibion Israel yn rhossydd Moab am yr Iorddonen ag Iericho.

64Ac yn y rhai hyn nid oedd vn o rifedigion Moses ac Aaron yr offeiriad, y rhai a rifasant feibion Israel yn anialwch Sinai.

65Canys dywedase yr Arglwydd am danynt, Num 14 28.|NUM 14:28. 1.Cor.10.4.gan farw y byddant feirw yn yr anialwch: ac ni adawsyd o honynt vn, ond Caleb mab Iephun: a Iosuah mab Nun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help