1 Bendigedic’r Arglwydd fy nerth, yr hwn sydd yn dyscu fy nwylo i ymladd, a’m byssedd i ryfela.
2Fy nhrugaredd a’m hamddeffynfa, fy nhŵr, a’m gwaredudd, fy amddeffynnud ac ynddo y gobeithiais: yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl tanaf.
3Arglwydd beth dŷn, pan gydnabyddit ef? fab dŷn pan wnaeit gyfrif o honaw?
4Dyn sydd debyg i wagedd, fel cyscod y mae ei ddyddiau yn myned heibio.
5Arglwydd gostwng dy nefoedd a descyn, cyffwrdd a’r mynyddoedd a mygant.
6Gwna fellt, a gwascar hwynt, gyrr dy saethau a difa hwynt.
7Anfon dy law oddi vchod, achub, a gwaret fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron.
8Y rhai y llefarodd eu genau wagedd, ac eu deheu-law yn ddeheu-law ffalster.
9Canaf i ti ô Dduw ganiad newydd, ar y nabl, dectant y canaf i ti.
10Efe sydd yn rhoddi iechydwriaeth i frenhinoedd, ac yn gwaredu Dafydd ei wâs oddi wrth gleddyf niweidiol.
11Achub fi, a gwaret fi o law meibion estron, y rhai y llefarodd eu genau am wagedd, ac y mae eu deheu-law yn ddeheu-law ffalster.
12Fel ein meibion fel plan-wŷdd yn tyfu oi hieuengctid, a’n merched fel conglfaen nadd yn adailadaeth teml.
13[Fel y byddo] ein conglau yn llawn yn aml o amryw bethau, a’n defaid yn dwyn miloedd, a myrddiwn yn ein heolydd.
14A’n hŷchen yn gryfion i lafurio, heb na rhuthro i mewn na myned allan, na gwaedd yn ein heolydd.
15Gwyn ei fyd y bobl felly iddynt, gwyn ei fyd y bobl y’r Arglwydd yn Dduw iddynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
