Genesis 39 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXXIX.1 Gwerthu Ioseph i Putiphar. 2 Gwraig Putiphar yn ei demptio ef. 13 Ac yn achwyn arno ef. 20 Ei garchar ef. 21 Ymgeledd Duw iddo ef.

1Felly Ioseph a ddygwyd i wared i’r Aipht, a Phutiphar yr Aipht-wr tywysog Pharao ddistain ai prynnodd ef o lawr’ Ismaeliaid, y rhai ai dygasent ef ei wared yno.

2Ac yr oedd yr Arglwydd gyd ag Ioseph, ac efe oedd ŵr llwyddiannus: tra fu efe yn nhŷ ei feistr yr Aiphtiad.

3Ai feistr ef a welodd mai yr Arglwydd gyd ag ef, a yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnele efe.

4Felly Ioseph a gafodd ffafor yn ei olwg ef, ac ai gwasanaethodd ef, yntef ai gwnaeth ef yn ben-golygwr ar ei dŷ ef, ac a roddes oll oedd eiddo dan ei law ef.

5Ac er pan wnaethe efe ef yn ben-golygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll eiddo ef, darfu ’ir Arglwydd fendithio tŷ ’r Aiphtiad er mwyn Ioseph: ac yr oedd bendith yr Arglwydd ar yr hyn oll oedd eiddo ef yn y tŷ, ac yn y maes.

6Am hynny y gadawodd efe yr hyn oll ganddo tan law Ioseph, ac nid adwaene ddim ar gyd ag ef, oddi eithr y bwyd yr hwn yr oedd efe yn ei fwytta: Ioseph hefyd oed dêg o brŷd, a glân yr olwg.

7A darfu wedi y petheu hynny i wraig ei feistr ef dderchafu ei golwg ar Ioseph, a dywedydd: gorwedd gyd amfi.

8Yntef a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, wele fy meistr nid edwyn pa beth gyd a’mfi yn y tŷ: rhoddes hefyd yr hyn oll eiddo ef, tan fy llaw i.

9Nid oes fwy yn y tŷ hwn na myfi, ac ni waharddodd efe ddim rhagof, onid ty di, o blegit ei wraig ef ti: pa fodd gan hynny y gallaf wneuthur y mawr-ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw?

10Ac fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Ioseph beunŷdd, ac yntef heb wrando arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, gan fod gyd a hi.

11Yna yng-hylch y cyfamser hwnnw y bu i Ioseph ddyfod ’ir tŷ i wneuthur ei orchwyl: ac nid yr vn o ddynion y tŷ yno yn tŷ.

12Hithe ai daliodd ef erbyn ei wisc, gan ddywedyd, gorwedd gyd a mi: yntef a adawodd ei wisc yn ei llaw hi, ac a ffoawdd, ac a aeth allan.

13A phan welodd hi adel o honaw ef ei wisc yn ei llaw hi, a ffoi ohonaw allan.

14Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt gan ddywedyd: gwelwch, efe a ddûg i ni Hebrewr ’in gwradwyddo: daeth attafi i orwedd gyd a my fi, minne a waeddais a llêf vchel.

15A phan glywodd efe dderchafu o honofi fy llef, a gweiddi: yno efe a ffoawd, ac a aeth allan, ac adawodd ei wisc yn fy ymmyl i.

16A hi a ossododd ei wisc ef yn ei hymmyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.

17Yna hi a lefarodd wrtho yn y modd hyn, gan-ddywedyd: yr Hebre was, yr hwn a ddugaist i ni a ddaeth attaf i’m gwradwyddo.

18Ond pan dderchefais fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisc yn fy ymmyl, ac a ffoawdd allan.

19A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig yrhai a lefarase hi wrtho ef, gan ddywedyd, yn y modd hwn y gwnaeth dy wâs di i mi: yna yr enynnodd ei lid ef.

20Yna meistr Ioseph ai cymmerth ef, ac ai rhoddes ef Psal.105.18.yn y carchar dŷ, lle yr oedd carcharorion y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchar-dŷ.

21Ond yr Arglwydd oedd gyd ac Ioseph, ac a ddangossodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafor iddo ef yngolwg pennaeth y carchar-dŷ.

22A phennaeth y carchar-dŷ, a roddes tan law Ioseph yr holl garcharorion, y rhai yn y carchardŷ, ac efe oedd yn gwneuthur yr hyn oll a fuasent hwy yn ei wneuthur yno.

23Nid pennaeth y carchar-dy yn edrych am ddim oll tann ei law ef, am yr Arglwydd gyd ag ef: a’r hyn a wnai efe yr Arglwydd ai llwydde.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help