1Pan ddaeth y brenin a Haman i gyfeddach gyd ag Esther y frenhines,
2Yna y dywedodd y brenin wrth Esther, ie ar yr ail dydd wrth* gyfeddach y gwîn, beth dy ddymuniad Esther frenhines, ac fe a roddir i ti? neu beth dy ddeisyfiad? hyd yn hanner y deyrnas, ac fe ai cwpleuir.
3A’r frenhines Esther a attebodd, ac a ddywedodd, o chefais ffafor yn dy olwg di ô frenin, ac o rhyglydda bodd i’r brenin rhodder i mi fy enioes ar fy nymuniad, a’m pobl ar fy neisyfiad.
4Canys gwerthwyd ni, myfi a’m pobl i’n dinistrio, i’n lladd, ac i’n difetha: ond pe gwerthasid ni yn weision, ac yn wasanaethferched, mi a dawswn a sôn, er nad yw y gwrthwyneb-ŵr yn cystadlu niwed y brenin.
5Yna y llefarodd y brenin Ahasferus, ac y dywedodd wrth Esther y frenhines: pwy yw hwnnw, a pha le y mae efe yr hwn a glywe ar ei galon wneuthur felly?
6A dywedodd Esther, y gwrthwynebwr a’r gelyn’r Haman ddrygionus hwn: yna Haman a ddychrynnwyd rhac ofn y brenin, a’r frenhines.
7A’r brenin a gyfododd yn ei ddigllonedd o gyfeddach y gwîn, i ardd y palas: a Haman a safodd i ymbil am ei enioes gan Esther y frenhines, canys efe a welodd fod y drygioni wedi ei gwplau yn ei erbyn ef oddi wrth y brenin.
8Pan ddychwelodd y brenin o ardd y palas i dy cyfeddach y gwin, yna Haman oedd yn gorwedd ar y gwely yr hwn Esther arno, am hynny y dywedodd y brenin, at treisio y frenhines hefyd yn tŷ gyd a mi? yr aeth y gair allan o enau y brenin, yna y gorch-guddiasant wyneb Haman.
9Ac Harbona vn o’r stafellyddion a ddywedodd yng-ŵydd y brenin, wele hefyd y crocbrenn (yr hwn a baratôdd Haman i Mordocêus yr hwn a lefarodd ddaioni am y brenin) yn sefyll wrth dŷ Haman, yn ddec cufydd a deugain o vchter: yna y dywedodd y brenin, crogwch ef ar hwnnw.
10Felly hwynt a grogasant Haman ar y prenn, yr hwn a barase efe ei ddarparu i Mordocêus: yna digllonedd y brenin a lonyddodd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
