1Gwell yw enw da nag ennaint gwerth-fawr, a gwell yw dydd marwolaeth na dydd genedigaeth,
2Gwell yw myned i dŷ y galar na myned i dŷ’r wledd, canys yno y mae diwedd pôb dŷn, a’r neb sydd fyw a esyd hynny at ei galon.
3Gwell yw digter na chwerthin: canys trwy dristwch yr wyneb-prŷd y gwellheir y galon.
4Calon doethion fydd yn nhŷ y galar: ond calon ffŷliaid fydd yn nhŷ llawenydd.
5Gwell yw gwrando senn y doeth na gwrando cân ffyliaid.
6Canys chwerthiniad dŷn ynfŷd sydd fel clindarddach drain tann grochan, dymma wagedd hefyd.
7Trawsedd a ynfyda’r doeth, a rhôdd a ddifwyna yr galon.
8Gwell yw diweddiad peth nai ddechreuad, gwell yw yr dioddefgar na’r balch.
9Na fydd gyflym yn dy yspryd i ddigio: o blegit dîg sydd yn gorphywys ym mynwes ffyliaid.
10Na ddywet, pa ham y bu yr dyddiau o’r blaen yn well na’r dyddiau hyn? canys nid o ddoethineb yw gofyn am y peth hyn.
11Da yw doethineb gyd ag etifeddiaeth, ac elw i’r rhai sydd yn edrych ar yr haul.
12Canys rhai a lechant yng-hyscod doethineb, a rhai eraill yng-hyscod arian, ond mwy yw’r êlw oddi wrth ŵybodaeth, a doethineb yr hon a geidw ei pherchennog yn fyw.
13Edrych ar orchwyl Duw: Pen.1.15.canys pwy a all inioni’r peth a gammodd efe?
14Pan fyddo i ti fyd da, cymmer dy fyd yn dda, a phan fyddo i ti ddryg-fyd ymarfer ag ef: Duw ei hûn sydd yn gwneuthur y naill yng-wrthwyneb y llall, yn y fâth wedd na ddichon dŷn gael dim ar ei ôl ef.
15Hyn ôll a welais yn nyddiau fyng-wagedd, y cyfiawn yn diflannû yn ei gyfiawnder, a’r annuwiol yn estyn yn ei ddrygioni.
16Na fydd rhy gyfiawn, ac na chymmer arnat fôd yn rhy ddoeth: rhag dy ddifetha dy hun.
17Na fydd annûwiol, na ffôl, rhag dy farw cyn dy amser.
18Da i ti ymafel yn hyn, ac oddi wrth hyn na ollwng dy law: y nêb a ofno Ddûw a ddiangc allan o hyn oll.
19Doethineb a nertha’r doeth, yn fwy na dêc o bennaethiaid, y rhai a fyddant mewn dinas.
20 1.Bren.8.46. 2.Cron.6.36. Dihar.20.9. 1 Ioan. 1.8. Yn ddiau nid oes dyn cyfiawn ar y ddaiar, yr hwn a wna ddaioni ac ni phecha.
21Na ddod ti dy feddwl ar bob gair a ddyweder: canys ni ddyleit ti wrando ar dy wâs yn dy felldithio.
22Canys llawer gwaith y gŵyr dy galon ddarfod i ti dy hun felldithio eraill.
23Hyn ôll a brofais mewn doethineb, mi a ddywedais, yr ydwyf yn ddoeth, a hithe ym mhell oddi wrthif.
24Y peth pellaf a fu, a’r peth dyfnaf pwy ai caiff?
25Mi a droais, a’m holl galon i ddeall, ac i chwilio, ac i geisio doethineb, a rheswm: ac i adnabod annuwoldeb ffolineb, ac ynfydrwydd amryfusedd
26Ac mi a welais beth chwerwach nag angeu, sef gwraig: yng-halon yr hon y mae rhwydau a maglau, ai rhwymau yn ei dwylo: y neb sydd dda gan Dduw a waredir oddi wrthi hi, ond hi a ddeil bechadur.
27Wele hyn a gefais (medd y pregeth-wr) wrth chwilio o’r naill i’r llall i geisio rheswm:
28Yr hwn beth y chwiliodd fy enaid am dano, ac ni chefais, vn gŵr a gefais ym mhlith mil, ond vn wraig yn eu plith hwynt oll ni’s cefais.
29Wele hyn yn unic a gefais gwneuthur o Dduw ddŷn yn iniawn: ond hwy a chwiliasant am lawer o ddychymmygion.
30Pwy sydd debyg i’r doeth? a phwy sydd debyg i’r nêb a fedro ddeongl peth? doethineb gŵr a lewyrcha ei wyneb, a nerth ei wyneb ef a newidir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.