1Gwaret fi ô Arglwydd oddi wrth y dynnion drwg, cadw fi rhag y gwŷr traws.
2Y rhai ydynt yn bwriadu drygioni yn calon: yn ymgasclu beunydd ryfel.
3Golymmasant eu tafodau fel sarph: gwenwyn asp sydd tann eu gwefusau.Selah.
4Cadw fi ô Arglwydd o ddwylo’r annuwiol, chadw fi rhag y gwŷr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed.
5Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd dannau ar ymmyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr.Selah.
6Dywedais wrth yr Arglwydd, fy Nuw ydwyt ti, clyw ô Arglwydd lef fyng-weddiau.
7Arglwydd Dduw nerth fy iechydwriaeth gorchuddiaist fy mhenn yn nydd brwydr.
8Na chaniadhâ Arglwydd ddymuniad yr annuwiol: na chwpla eu drwg feddwl eu balchio hwynt.Selah.
9Y pennaf a’m hangylchyno, blinder eu gwefusau ai tôa hwynt.
10Syrthied marwor arnynt, a bwried efe hwynt yn tân: mewn ceu-ffosydd fel na chyfodant.
11Dŷn siaradus ni wastateuir ar y ddaiar: drwg a hêla y gŵr traws iw ddestruw.
12Gwn y dial yr Arglwydd y truan, ac y barna efe y tlodion.
13Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai iniawn a drigant ger dy fron di.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
