Genesis 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.Mynediad Abram, a Lot i wlâd Canaan. 10 Ac oddi yno i’r Aipht. 13 Abram yn peri iw wraig ddywedyd mai ei chwaer ef ydoedd hi. 17 Cospedigaeth Pharao am chwenychu Sarai.

1A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, Act.7.3.dos di o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dâd, i’r wlad yr hon a ddangoswyf i ti.

2A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw, a thi a fyddi yn fendith.

3Bendithiaf hefyd dy fendith-wyr, a’th felldith-wyr a felldigaf, a holl deuluoedd y ddaiar a fendithir ynot ti.

4Yna’r aeth Abram, fel y llefarase’r Arglwydd wrtho ef, a Lot aeth gyd ag ef: ac Abram fâb pymtheng-mlwydd a thrugain pan aeth efe allan o Haran.

5Ac Abram a gymmerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, ai holl olud hwynt, yr hyn a feddent: a’r dynion y rhai a gawsent yn Haran: ac aethant allan gan fyned i wlâd Canaan, ac a ddaethant i wlâd Canaan.

6Ac Abram a dramwyodd trwy’r tîr hyd y lle Sichem, hyd wastadedd Moreh: a’r Canaaneaid yno yn y wlâd.

7A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd: i’th hâd ti y rhoddaf y tîr hwn: yntef a adailadodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosase iddo.

8Ac efe a dynnodd o ddi yno i’r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynnodd ei babell Bethel, tu a’r gorllewyn, a Hai tu a’r dwyrain: ac a adailadodd yno allor i’r Arglwydd, ac a alwodd ar enw’r Arglwydd.

9Yna y cychwynnodd Abraham gan fyned, a chychwyn tua’r dehau.

10Ac yr oedd newyn yn y tîr, ac Abram aeth i wared i’r Aipht, i ymdeithio yno, am drymhau o’r newyn yn y wlâd.

11A phan ddaeth efe yn agos i’r Aipht, yna y dywedodd efe wrth Sarai ei wraig, wele yn awr gwn mai gwraig lân yr olwg ti.

12A phan welo’r Aiphtiaid dy di, yna y dywedant: dymma ei wraig ef, a hwynt a’m lladdant a thi a adawant yn fyw.

13Dywet ti attolwg, fy chwaer ti, fel y bydder dâ wrthif er dy fwyn di, ac y byddwyf fyw o’th blegit ti.

14A phan ddaeth Abram i’r Aipht, yna yr Aiphtiaid a welsant y wraig, mai glân odieth hi.

15A thywysogion Pharao ai gwelsant hi, ac ai canmolasant hi wrth Pharao, a’r wraig a gymmerwyd i dŷ Pharao.

16Ac efe a fu dda wrth Abram er ei mwyn hi fel yr oedd ganddo ef ddefaid, a gwarthec, ac assynnau, a gweision, a morwynion, ac assynnod, a chamêlod.

17Yna yr Arglwydd a darawodd Pharao, ai dŷ, a phlagau mawrion, o achos Sarai gwraig Abram.

18A Pharao a alwodd Abram, ac a ddywedodd: pa ham y gwnaethost ti hyn i mi? pa ham na fynegaist i mi, mai dy wraig hi?

19Pa ham y dywedaist fy chwaer hi? fel y cymmerwn hi yn wraig i mi: ond yr awr hon wele dy wraig, cymmer a dos ymmaith.

20A Pharao a roddes orchymmyn ddynion oi blegit ef: a hwynt ai gollyngasant ef, ai wraig, a’r hyn oedd eiddo ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help