1Gan hynny Iob clyw attolwg fy ymadroddion: a gwrando fy holl eiriau.
2Wele’r ydwyf yn awr yn agorid fyngenau: mae fy nhafod yn dywedyd yn haflod fyng-enau.
3Iniondeb fyng-halon fyng-eiriau: a’m gwefusau a adroddant ŵybodaeth bur.
4Yspryd Duw a’m gwnaeth i: a chwythad yr Holl-alluog a’m bywioccaodd i.
5Os gelli fy atteb i: ymbaratoa saf o’m blaen i.
6Wele yr ydwyfi o flaen Duw fel tithe: allan o’r clai y torrwyd finne.
7Wele ni’th ddychryna fy arswyd i: ac ni bydd fy llaw drom arnat.
8Ond ti a ddywedaist lle y clywais i: ac myfi a wrandewais ar lais ymadroddion di.
9Pûr fi heb gamwedd: glân ac heb anwiredd ynof.
10Wele efe a gafodd achosion yn fy erbyn: y mae efe yn fyng-hyfrif yn elyn iddo.
11Y mae efe yn gosod fy nhraed mewn cyffion: y mae efe yn gwilied fy holl lwybrau.
12Wele hyn mi a’th attebaf, nid ydwyt gyfiawn: canys mwy ydyw Duw na dŷn.
13Pa ham yr ymrysonaist yn ei erbyn ef? o herwydd nad ydyw efe yn atteb am ei holl eiriau.
14Pan ymdiddano Duw vn-waith neu ddwy-waith, ni ddeall hynny.
15Drwy hûn, weledigaeth y nos, pan syrthio trym-gwsc ar ddynnion, wrth heppian ar wely,
16Yna’r egyr efe glust dynnion: ac y selia efe eu cospedigaeth hwy,
17I dynnu dŷn waith ac fel y gorchguddio efe falchter oddi wrth ŵr,
18[Fel] yr attalio efe ei enaid ef o’r pwll: ai hoedl ef rhag myned o’r cleddyf trwyddi hi.
19Ac efe a geryddir trwy ofid ar ei wely: a lliaws ei escyrn ef caled.
20Fel y ffieiddio ei fywyd ef fara: ai enaid fwyd blasus.
21[Fel] y darfyddo ei gnawd ef allan o olwg: fel y safo ei escyrn allan ni welyd
22Ac y nessao ei enaid i’r clawdd: ai fywyd i anghefol.
23Os bydd ganddo ef gennad o ladmerudd, vn o fil, i ddangos i ddyn ei iniondeb ef:
24Yna efe a drugarhâ wrtho ef, ac a ddywed, gollwng ef rhac descyn o honaw i’r clawdd, myfi a gefais iawn.
25Ireiddiach ei gnawd ef na bachgen: efe a ddychwel at ddyddiau ei ieuengctid.
26Pan weddio ar Dduw yntef a fydd bodlon iddo ef, fel yr edrycho yn ei wyneb ef mewn gorfoledd: canys efe a rydd i ddŷn ei gyfiawnder drachefn.
27Efe a edrych ar ddynnion ac a ddywed, pechais, a gŵyrais iniondeb, ac ni lwyddoddi mi.
28Efe a ollyngodd fy enaid rhag myned heibio i’r clawdd: a’m bywyd a wêl oleuni.
29Wele hyn oll a wna Duw ddwy-waith dair â dŷn,
30I ddwyn ei enaid ef o’r pwll: i oleuo yng-oleuni y rhai byw.
31Gwrando Iob clyw fi: taw-fel y llefarwyf inne.
32Od oes geiriau gennit ti, atteb fi: llefara, canys chwennychwn dy gyfiawnhau di.
33Onid ê gwrando di arnafi, bydd ddistaw, ac myfi a ddyscaf i ei ddoethineb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
