Datguddiad 21 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac mi a welais nef newydd, a daear newydd: canys y nef gyntaf a’r ddaear gyntaf a aeth heibio; a’r môr nid oedd mwyach.

2A myfi Ioan a welais y ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, yn dyfod oddi wrth Dduw i waered o’r nef, wedi ei pharatoi fel priodasferch wedi ei thrwsio i’w gŵr.

3Ac mi a glywais lef uchel allan o’r nef, yn dywedyd, Wele, y mae pabell Duw gyda dynion, ac efe a drig gyda hwynt, a hwy a fyddant bobl iddo ef, a Duw ei hun a fydd gyda hwynt, ac a fydd yn Dduw iddynt.

4Ac fe sych Duw ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt; a marwolaeth ni bydd mwyach, na thristwch, na llefain, na phoen ni bydd mwyach: oblegid y pethau cyntaf a aeth heibio.

5A dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, Wele, yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna: canys y mae’r geiriau hyn yn gywir ac yn ffyddlon.

6Ac efe a ddywedodd wrthyf, Darfu. Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd. I’r hwn sydd sychedig y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad.

7Yr hwn sydd yn gorchfygu, a etifedda bob peth: ac mi a fyddaf iddo ef yn Dduw, ac yntau a fydd i minnau yn fab.

8Ond i’r rhai ofnog, a’r di-gred, a’r ffiaidd, a’r llofruddion, a’r puteinwyr, a’r swyn-gyfareddwyr, a’r eilun-addolwyr, a’r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw’r ail farwolaeth.

9A daeth ataf un o’r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt yn llawn o’r saith bla diwethaf, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, mi a ddangosaf i ti’r briodasferch, gwraig yr Oen.

10Ac efe a’m dug i ymaith yn yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel, ac a ddangosodd i mi’r ddinas fawr, Jerwsalem sanctaidd, yn disgyn allan o’r nef oddi wrth Dduw,

11A gogoniant Duw ganddi: a’i golau hi oedd debyg i faen o’r gwerthfawrocaf, megis maen iasbis, yn loyw fel grisial;

12Ac iddi fur mawr ac uchel, ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau wedi eu hysgrifennu arnynt, y rhai yw enwau deuddeg llwyth plant Israel.

13O du’r dwyrain, tri phorth; o du’r gogledd, tri phorth; o du’r deau, tri phorth; o du’r gorllewin, tri phorth.

14Ac yr oedd mur y ddinas â deuddeg sylfaen iddo, ac ynddynt enwau deuddeg apostol yr Oen.

15A’r hwn oedd yn ymddiddan â mi, oedd â chorsen aur ganddo, i fesuro’r ddinas, a’i phyrth hi, a’i mur.

16A’r ddinas sydd wedi ei gosod yn bedeirongl, a’i hyd sydd gymaint â’i lled. Ac efe a fesurodd y ddinas â’r gorsen, yn ddeuddeng mil o ystadau. A’i hyd, a’i lled, a’i huchder, sydd yn ogymaint.

17Ac efe a fesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain, wrth fesur dyn, hynny yw, eiddo’r angel.

18Ac adeilad ei mur hi oedd o faen iasbis: a’r ddinas oedd aur pur, yn debyg i wydr gloyw.

19A seiliau mur y ddinas oedd wedi eu harddu â phob rhyw faen gwerthfawr. Y sail cyntaf oedd faen iasbis; yr ail, saffir; y trydydd, chalcedon; y pedwerydd, smaragdus;

20Y pumed, sardonycs; y chweched, sardius; y seithfed, chrysolithus; yr wythfed, beryl; y nawfed, topasion; y degfed, chrysoprasus; yr unfed ar ddeg, hyacinthus; y deuddegfed, amethystus.

21A’r deuddeg porth, deuddeg perl oeddynt; a phob un o’r pyrth oedd o un perl: a heol y ddinas oedd aur pur, fel gwydr gloyw.

22A theml ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog, a’r Oen, yw ei theml hi.

23A’r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul, na’r lleuad, i oleuo ynddi: canys gogoniant Duw a’i goleuodd hi, a’i goleuni hi ydyw’r Oen.

24A chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi: ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant a’u hanrhydedd iddi hi.

25A’i phyrth hi ni chaeir ddim y dydd: canys ni bydd nos yno.

26A hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd iddi hi.

27Ac nid â i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd-dra, na chelwydd: ond y rhai sydd wedi eu hysgrifennu yn llyfr bywyd yr Oen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help