1Y mae hi’n cyrhaeddyd o gwr bwygilydd yn rymusol; ac yn cyfleu pob peth yn fuddiol.
2Hon a gerais i, ac a geisiais o’m hieuenctid, ac a geisiais ei phriodi yn ddyweddi i mi: canys cu oedd gennyf ei thegwch hi.
3Y mae hi yn gwneuthur ei bonedd yn ogoneddus trwy gytal gyda Duw: ac Arglwydd pob peth a’i hoffodd hi.
4Canys athro yw hi ar athrawiaeth Dduw, ac un yn dewis ei weithredoedd ef.
5Os meddiant dymunol yn y bywyd hwn yw cyfoeth, beth gyfoethocach na doethineb, yr hon sydd yn gwneuthur pob peth?
6Ac os doethineb a weithreda, pa un o’r pethau sydd a wna yn well na hi?
7Os cyfiawnder a hoffa neb, rhinweddau da yw ei llafur hi: canys y mae hi yn dysgu sobreiddrwydd a synnwyr, cyfiawnder a gwroldeb; na pha rai nid oes dim mwy ei fudd i ddynion yn eu bywyd.
8O chwennych neb gael sicrwydd gwybodaeth lawer, hi a ŵyr y pethau gynt, ac a ddychymyg yn uniawn y pethau a fyddant: y mae hi yn gwybod dichellion geiriau, ac yn medru dirnad cwestiynau caled, ac yn gwybod yr arwyddion a’r rhyfeddodau, a’r hyn a ddamwain mewn tymor ac amser, cyn eu dyfod.
9Am hynny yr arfaethais ddwyn hon i gytal â mi, gan wybod y cynghorai hi i mi bethau da, ac y’m diddanai mewn gofal a thristwch.
10Er ei mwyn hi y caf fi barch yn y dyrfa, ac anrhydedd gan henuriaid, er fy mod i yn ieuanc.
11Myfi a geir yn barod fy synnwyr mewn barn, ac a fyddaf ryfedd yng ngolwg gŵyr mawr.
12Hwy a arhosant arnaf tra y tawyf, ac a wrandawant tra llefarwyf, ac a osodant eu dwylo ar eu geneuau, os myfi a draethaf lawer.
13Trwyddi hi y caf fi dragwyddoldeb, ac y gadawaf goffadwriaeth tragwyddol i’r rhai a fyddant ar fy ôl;
14Y llywodraethaf fi y bobl, ac y darostyngir y cenhedloedd i mi.
15Gorthrymwyr aruthrol a’m hofnant i, pan glywont sôn amdanaf fi; ymysg y gwerin y’m gwelir i yn dda, ac yn y rhyfel yn gryf.
16Pan elwyf i’m tŷ, mi a gydorffwysaf gyda hi: oblegid nid oes chwerwder wrth gytal â hi, na blinder wrth fyw gyda hi, ond llawenydd a gorfoledd.
17Wrth feddwl hyn ynof fy hun, ac wrth gofio yn fy nghalon mai yng ngharennydd doethineb y mae tragwyddoldeb,
18A bod hyfrydwch daionus yn ei chyfeillach hi, a golud diball yn llafur ei dwylo, a bod synnwyr o ymarfer ag ymddiddan â hi, a bod parch wrth fod yn gyfrannog o’i hymadroddion, mi a geisiais o amgylch pa fodd y cawn hi ataf.
19Yr oeddwn i yn fachgen o athrylith dda, ac a gawswn ysbrydoliaeth dda;
20Ie, yn hytrach, a myfi yn dda, myfi a ddeuthum i gorff dihalog.
21Ond pan wybûm na chawn hi, oni roddai Duw hi, ac mai synnwyr oedd gwybod rhodd pwy oedd hi, mi a ddeuthum at Dduw, ac a ymbiliais, ac a ddywedais, o’m holl galon,
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
