1Ni chyfoethoga gweithiwr meddw: a’r hwn sydd yn diystyru ychydig, a syrth o fesur ychydig ac ychydig.
2Gwin a gwragedd sydd yn gyrru doethion ar encil; a’r hwn a lyno wrth buteiniaid a fydd digywilydd:
3Pydrni a phryfed a’i cânt ef yn etifeddiaeth; a gŵr rhyfygus a gymerir ymaith.
4Yr hwn sydd yn credu yn fuan sydd ysgafn ei feddwl; a’r hwn sydd yn pechu a gyfeiliorna yn erbyn ei enaid ei hun.
5Yr hwn sydd yn llawenychu mewn drygioni, a gondemnir; yr hwn sydd yn gwrthwynebu melyschwant sydd yn coroni ei fywyd.
6Yr hwn a atalio ei dafod, a fydd byw yn ddigynnen; a’r hwn sydd yn casáu siarad, sydd yn llai ei niwed.
7Nac ailadrodd wrth arall y peth a ddywetbwyd i ti, ac ni byddi ronyn gwaeth.
8Na fynega fuchedd arall wrth na chyfaill na gelyn; ac na ddatguddia, os gelli yn ddifai:
9Canys efe a’th wrendy, ac a ddeil arnat ti; ac mewn amser efe a’th gasâ di.
10Pan glywech air, gad iddo farw gyda thi; a bydd ddiogel na rwyga efe dydi.
11Un ffôl a ofidia gan air, fel yr hon sydd yn esgor ar blentyn.
12Fel saeth ynglŷn ym morddwyd un, felly y mae gair ym mola’r ffôl.
13Rhybuddia gyfaill; ysgatfydd nis gwnaeth: ac os gwnaeth, rhag gwneuthur mwy.
14Cerydda dy gyfaill; ysgatfydd nis dywedodd: ac os dywedodd, rhag iddo ddywedyd eilwaith.
15Cerydda gyfaill: oblegid mynych y mae yn enllib; ac na choelia bob chwedl.
16Y mae un yn llithro yn ei ymadrodd, ac nid o’i fodd; a phwy ni thramgwyddodd â’i dafod?
17Cerydda dy gymydog cyn ei fygwth; a dod le i gyfraith y Goruchaf, gan fod yn ddiddig.
18Ofn yr Arglwydd yw dechreuad cymeradwyaeth gydag ef: a doethineb a bair gariad ganddo ef.
19Addysg bywyd yw gwybodaeth gorchmynion yr Arglwydd: a’r rhai sydd yn gwneuthur yr hyn sy fodlon ganddo ef, sydd yn cael ffrwyth pren anfarwoldeb.
20Ofn yr Arglwydd yw pob doethineb; ac ym mhob doethineb y mae gwneuthuriad y gyfraith, a gwybodaeth am ei hollalluogaeth ef.
21Y gwas a ddywedo wrth ei feistr, Ni wnaf yr hyn sy fodlon gennyt; pe gwnelai efe wedi hynny, y mae efe yn digio ei faethydd.
22Nid doethineb yw gwybodaeth drygioni; a chyngor pechaduriaid nid yw synnwyr.
23Y mae drygioni, a hwnnw yn ffiaidd; ac y mae angall annoeth.
24Gwell yw y bychan ei ddeall, ac yn ofni Duw, na’r hwn sydd yn rhagori mewn callineb, ac yn troseddu cyfraith y Goruchaf.
25Y mae cyfrwystra diwyd, a hynny yn anghyfiawn; ac y mae a dry ymaith ffafr, i ddangos barn; a doeth yw yr hwn sydd gyfiawn mewn barn.
26Y mae un yn gwneuthur drygioni yn bruddaidd, ond wedi ymgrymu, ac o’i fewn yn llawn twyll tanllyd:
27Efe gan gydostwng ei wyneb, a chymryd arno fod yn fyddar, lle nid adwaenir ef, a achub dy flaen di i wneuthur niwed i ti:
28Ac os o eisiau gallu y rhwystrir iddo bechu, eto efe a wna ddrwg os caiff amser.
29Wrth y golwg yr adwaenir gŵr: ac wrth ei olwg yr adwaenir un deallus, pan gyfarfyddech ag ef.
30Gwisg gŵr, a chwerthiniad y dannedd, a’i gerddediad, sydd yn dangos yr hyn sydd ynddo ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.