1 Samuel 14 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A bu ddyddgwaith i Jonathan mab Saul ddywedyd wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r Philistiaid, yr hon sydd o’r tu hwnt: ond ni fynegodd efe i’w dad.

2A Saul a arhosodd yng nghwr Gibea, dan bren pomgranad, yr hwn oedd ym Migron: a’r bobl oedd gydag ef oedd ynghylch chwe channwr;

3Ac Ahia mab Ahitub, brawd Ichabod, mab Phinees, mab Eli, offeiriad yr ARGLWYDD yn Seilo, oedd yn gwisgo effod. Ac ni wyddai y bobl i Jonathan fyned ymaith.

4A rhwng y bylchau, lle ceisiodd Jonathan fyned drosodd at amddiffynfa’r Philistiaid, yr oedd craig serth o’r naill du i’r bwlch, a chraig serth o’r tu arall i’r bwlch; ac enw y naill oedd Boses, ac enw y llall Sene.

5A safiad y naill oedd oddi wrth y gogledd ar gyfer Michmas, a’r llall oddi wrth y deau ar gyfer Gibea.

6A dywedodd Jonathan wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r rhai dienwaededig hyn; nid hwyrach y gweithia yr ARGLWYDD gyda ni: canys nid oes rwystr i’r ARGLWYDD waredu trwy lawer neu trwy ychydig.

7A’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ef a ddywedodd wrtho, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon: cerdda rhagot; wele fi gyda thi fel y mynno dy galon.

8Yna y dywedodd Jonathan, Wele, ni a awn trosodd at y gwŷr hyn, ac a ymddangoswn iddynt.

9Os dywedant fel hyn wrthym, Arhoswch nes i ni ddyfod atoch chwi; yna y safwn yn ein lle, ac nid awn i fyny atynt hwy.

10Ond os fel hyn y dywedant, Deuwch i fyny atom ni; yna yr awn i fyny: canys yr ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn ein llaw ni; a hyn fydd yn argoel i ni.

11A hwy a ymddangosasant ill dau i amddiffynfa’r Philistiaid. A’r Philistiaid a ddywedasant, Wele yr Hebreaid yn dyfod allan o’r tyllau y llechasant ynddynt.

12A gwŷr yr amddiffynfa a atebasant Jonathan, a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, ac a ddywedasant, Deuwch i fyny atom ni, ac ni a ddangoswn beth i chwi. A dywedodd Jonathan wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau, Tyred i fyny ar fy ôl: canys yr ARGLWYDD a’u rhoddes hwynt yn llaw Israel.

13A Jonathan a ddringodd i fyny ar ei ddwylo, ac ar ei draed; a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ar ei ôl. A hwy a syrthiasant o flaen Jonathan: ei yswain hefyd oedd yn lladd ar ei ôl ef.

14A’r lladdfa gyntaf honno a wnaeth Jonathan a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, oedd ynghylch ugeinwr, megis o fewn ynghylch hanner cyfer dau ych o dir.

15A bu fraw yn y gwersyll, yn y maes, ac ymysg yr holl bobl: yr amddiffynfa a’r anrheithwyr hwythau hefyd a ddychrynasant: y ddaear hefyd a grynodd; a bu dychryn DUW.

16A gwylwyr Saul yn Gibea Benjamin a edrychasant; ac wele y lliaws yn ymwasgaru, ac yn myned dan ymguro.

17Yna y dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef, Cyfrifwch yn awr, ac edrychwch pwy a aeth oddi wrthym ni. A phan gyfrifasant, wele, Jonathan a chludydd ei arfau nid oeddynt yno.

18A Saul a ddywedodd wrth Ahia, Dwg yma arch DUW. (Canys yr oedd arch DUW y pryd hynny gyda meibion Israel.)

19A thra yr ydoedd Saul yn ymddiddan â’r offeiriad, y terfysg, yr hwn oedd yng ngwersyll y Philistiaid, gan fyned a aeth, ac a anghwanegodd. A Saul a ddywedodd wrth yr offeiriad, Tyn atat dy law.

20A Saul a’r holl bobl oedd gydag ef a ymgynullasant, ac a ddaethant i’r rhyfel: ac wele gleddyf pob un yn erbyn ei gyfnesaf; a dinistr mawr iawn oedd yno.

21Yr Hebreaid hefyd, y rhai oedd gyda’r Philistiaid o’r blaen, y rhai a aethant i fyny gyda hwynt i’r gwersyll o’r wlad oddi amgylch, hwythau hefyd a droesant i fod gyda’r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan.

22A holl wŷr Israel, y rhai oedd yn llechu ym mynydd Effraim, a glywsant ffoi o’r Philistiaid; hwythau hefyd a’u herlidiasant hwy o’u hôl yn y rhyfel.

23Felly yr achubodd yr ARGLWYDD Israel y dydd hwnnw; a’r ymladd a aeth drosodd i Beth-afen.

24A gwŷr Israel oedd gyfyng arnynt y dydd hwnnw: oherwydd tyngedasai Saul y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd hyd yr hwyr, fel y dialwyf ar fy ngelynion: Felly nid archwaethodd yr un o’r bobl ddim bwyd.

25A’r rhai o’r holl wlad a ddaethant i goed, lle yr oedd mêl ar hyd wyneb y tir.

26A phan ddaeth y bobl i’r coed, wele y mêl yn diferu; eto ni chododd un ei law at ei enau: canys ofnodd y bobl y llw.

27Ond Jonathan ni chlywsai pan dyngedasai ei dad ef y bobl: am hynny efe a estynnodd flaen y wialen oedd yn ei law, ac a’i gwlychodd yn nil y mêl, ac a drodd ei law at ei enau; a’i lygaid a oleuasant.

28Yna un o’r bobl a atebodd, ac a ddywedodd, Gan dynghedu y tynghedodd dy dad y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd heddiw. A’r bobl oedd luddedig.

29Yna y dywedodd Jonathan, Fy nhad a flinodd y wlad. Gwelwch yn awr fel y goleuodd fy llygaid i, oherwydd i mi archwaethu ychydig o’r mêl hwn:

30Pa faint mwy, pe bwytasai y bobl yn ddiwarafun heddiw o anrhaith eu gelynion, yr hon a gawsant hwy? oni buasai yn awr fwy y lladdfa ymysg y Philistiaid?

31A hwy a drawsant y Philistiaid y dydd hwnnw o Michmas hyd Ajalon: a’r bobl oedd ddiffygiol iawn.

32A’r bobl a ruthrodd at yr anrhaith, ac a gymerasant ddefaid, a gwartheg, a lloi, ac a’u lladdasant ar y ddaear: a’r bobl a’u bwytaodd gyda’r gwaed.

33Yna y mynegasant hwy i Saul, gan ddywedyd, Wele, y bobl sydd yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, gan fwyta ynghyd â’r gwaed. Ac efe a ddywedodd, Troseddasoch: treiglwch ataf fi heddiw faen mawr.

34Dywedodd Saul hefyd, Ymwasgerwch ymysg y bobl, a dywedwch wrthynt, Dygwch ataf fi bob un ei ych, a phob un ei lwdn dafad, a lleddwch hwynt yma, a bwytewch; ac na phechwch yn erbyn yr ARGLWYDD, gan fwyta ynghyd â’r gwaed. A’r bobl oll a ddygasant bob un ei ych yn ei law y noswaith honno, ac a’u lladdasant yno.

35A Saul a adeiladodd allor i’r ARGLWYDD. Hon oedd yr allor gyntaf a adeiladodd efe i’r ARGLWYDD.

36A dywedodd Saul, Awn i waered ar ôl y Philistiaid liw nos, ac anrheithiwn hwynt hyd oni oleuo y bore, ac na adawn un ohonynt. Hwythau a ddywedasant, Gwna yr hyn oll fyddo da yn dy olwg. Yna y dywedodd yr offeiriad, Nesawn yma at DDUW.

37Ac ymofynnodd Saul â DUW, A af fi i waered ar ôl y Philistiaid? a roddi di hwynt yn llaw Israel? Ond nid atebodd efe ef y dydd hwnnw.

38A dywedodd Saul, Dyneswch yma holl benaethiaid y bobl: mynnwch wybod hefyd, ac edrychwch ym mhwy y bu y pechod hwn heddiw.

39Canys, megis mai byw yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn gwaredu Israel, pe byddai hyn yn Jonathan fy mab, diau y llwyr roddir ef i farwolaeth. Ac nid atebodd neb o’r holl bobl ef.

40Yna y dywedodd efe wrth holl Israel, Chwi a fyddwch ar y naill du; minnau hefyd a Jonathan fy mab fyddwn ar y tu arall. A dywedodd y bobl wrth Saul, Gwna a fyddo da yn dy olwg.

41Am hynny y dywedodd Saul wrth ARGLWYDD DDUW Israel, Dod oleufynag. A daliwyd Jonathan a Saul: ond y bobl a ddihangodd.

42Dywedodd Saul hefyd, Bwriwch goelbren rhyngof fi a Jonathan fy mab. A daliwyd Jonathan.

43Yna y dywedodd Saul wrth Jonathan, Mynega i mi beth a wnaethost. A Jonathan a fynegodd iddo, ac a ddywedodd, Gan archwaethu yr archwaethais ychydig o fêl ar flaen y wialen oedd yn fy llaw; ac wele, a fyddaf fi farw?

44Dywedodd Saul hefyd, Felly gwneled DUW i mi, ac felly chwaneged, onid gan farw y byddi di farw, Jonathan.

45A dywedodd y bobl wrth Saul, A leddir Jonathan, yr hwn a wnaeth yr ymwared mawr hyn yn Israel? Na ato DUW: fel mai byw yr ARGLWYDD, ni syrth un o wallt ei ben ef i’r ddaear; canys gyda DUW y gweithiodd efe heddiw. A’r bobl a waredasant Jonathan, fel na laddwyd ef.

46Yna Saul a aeth i fyny oddi ar ôl y Philistiaid: a’r Philistiaid a aethant i’w lle eu hun.

47Felly y cymerodd Saul y frenhiniaeth ar Israel; ac a ymladdodd yn erbyn ei holl elynion oddi amgylch, yn erbyn Moab, ac yn erbyn meibion Ammon, ac yn erbyn Edom, ac yn erbyn brenhinoedd Soba, ac yn erbyn y Philistiaid: ac yn erbyn pwy bynnag yr wynebodd, efe a orchfygodd.

48Cynullodd lu hefyd, a thrawodd Amalec; ac a waredodd Israel o law ei anrheithwyr.

49A meibion Saul oedd Jonathan, ac Issui, a Malci-sua. Dyma enwau ei ddwy ferch ef: enw yr hynaf oedd Merab, ac enw yr ieuangaf Michal.

50Ac enw gwraig Saul oedd Ahinoam merch Ahimaas: ac enw tywysog ei filwriaeth ef oedd Abner mab Ner, ewythr frawd ei dad i Saul.

51Cis hefyd oedd dad Saul; a Ner tad Abner oedd fab Abiel.

52A bu ryfel caled yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Saul: a phan welai Saul ŵr glew a nerthol, efe a’i cymerai ato ei hun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help