1Na osod dy galon ar dy olud; ac na ddywed, Y mae gennyf ddigon i fyw.
2Na ddilyn dy ewyllys dy hun, a’th gryfder dy hun, i rodio yn ffyrdd dy galon dy hun.
3Na ddywed, Pwy a’m darostwng i oherwydd fy ngweithredoedd? oblegid yr Arglwydd gan ddial a ddial dy draha di.
4Na ddywed, Mi a bechais, a pha dristwch a fu i mi? oblegid y mae’r Arglwydd yn hirymarhous; ni ad efe i ti ddianc.
5Na fydd ry ddifraw oherwydd maddeuant, i chwanegu pechodau ar bechodau:
6Ac na ddywed, Aml yw ei drugaredd ef, efe a faddau luosowgrwydd fy mhechodau; oblegid trugaredd a digofaint a ddaw oddi wrtho ef, a’i ddigofaint ef a orffwys ar bechaduriaid.
7Na fydd hwyrfrydig i droi at yr Arglwydd, ac nac oeda o ddydd i ddydd: oblegid yn ddisymwth y daw digofaint yr Arglwydd, a thra fyddech di yn ddifraw y’th ddryllir, a thi a ddifethir yn amser dialedd.
8Na osod dy galon ar olud anghyfiawn, oblegid ni fuddiant hwy yn amser cystudd.
9Na ymdrô gyda phob gwynt, ac na ddos ym mhob llwybr: felly y gwna y pechadur daudafodiog.
10Bydd ddianwadal yn dy ddeall sicr, a bydded dy ymadrodd yn un.
11Bydd esgud i wrando pethau da, a bydded dy fywyd mewn gwirionedd, a thraetha ateb uniawn yn ddioddefgar.
12Od oes deall gennyt, ateb dy gymydog; ac onid oes, bydded dy law ar dy safn.
13Yn yr ymadrodd y mae gogoniant a gwarth; a thafod dyn sy gwymp iddo.
14Na alwer di yn hustyngwr, ac na chynllwyn â’th dafod: oblegid i leidr y mae cywilydd blin, a damniad drwg i’r daudafodiog.
15Na fydd ddrwybod o ddim, na mawr na bychan.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
