Epistol Jeremi 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 6

1-2Oblegid y pechodau a wnaethoch chwi gerbron Duw, y dwg Nabuchodonosor brenin Babilon chwi’n garcharorion i Babilon.

3Felly pan ddeloch chwi i Babilon, chwi a fyddwch yno flynyddoedd lawer, ac amser hir, hyd saith o genedlaethau: wedi hynny mi a’ch dygaf allan oddi yno mewn heddwch.

4Yna y gwelwch yn Babilon dduwiau arian, ac aur, a phrennau, y rhai a ddygir ar ysgwyddau, ac a yrrant ofn ar y cenhedloedd.

5Gwyliwch chwithau rhag bod yn debyg i’r dieithriaid, ac ofni ohonoch chwithau hwynt, pan weloch chwi’r cenhedloedd yn eu haddoli hwynt o’u blaen ac o’u hôl.

6Dywedwch chwithau yn eich meddwl, Tydi, O Arglwydd, sydd raid i ni ei addoli.

7Canys fy angel i a fydd gyda chwi, a minnau a ymorolaf am eich eneidiau chwi.

8Y saer a drwsiodd eu tafod hwynt, hwythau wedi eu goreuro, a’u gorchuddio ag arian; er hynny pethau gau ydynt, ac ni allant lefaru.

9Hwy a gymerant aur, ac a’i gweithiant, megis i lances yn hoffi gwychder, yn goronau ar bennau eu duwiau.

10Ac weithiau y dwg yr offeiriaid aur ac arian oddi ar eu duwiau, ac a’u treuliant arnynt eu hunain.

11Rhoddant hefyd ohonynt hwy i’r puteiniaid cyhoedd ac a’u trwsiant, hwynt mewn gwisgoedd megis dynion, sef y duwiau o arian, ac aur, a phrennau.

12Eto ni allant ymachub oddi wrth rwd a phryfed, er eu gwisgo â phorffor.

13Hwy a sychant eu hwyneb hwy, oblegid y llwch yn y tŷ yr hwn fydd yn fawr arnynt.

14Gan un ohonynt y bydd teyrnwialen, fel gŵr yn barnu gwlad: ond ni ddichon efe ladd yr hwn a becho yn ei erbyn.

15Gan arall y bydd cleddyf, neu fwyall, yn ei law ddeau; er hynny ni ddichon efe ei wared ei hun rhag rhyfel neu ladron.

16Wrth hyn amlwg yw nad ydynt hwy dduwiau: am hynny nac ofnwch hwynt.

17Oherwydd megis y mae llestr dyn, wedi ei dorri, heb dalu dim; felly y mae eu duwiau hwynt: wedi eu gosod hwynt mewn tai, traed y rhai a ddêl i mewn a leinw eu llygaid hwynt o lwch.

18Ac megis y caeir y cynteddoedd ar yr hwn a wnelo yn erbyn y brenin, megis ar un wedi ei fwrw i farwolaeth; felly y mae’r offeiriaid yn cadw eu temlau hwynt â dorau, â throsolion, ac â chloeau, rhag i ladron eu hysbeilio hwynt.

19Hwy a osodant ganhwyllau o’u blaen hwynt, fwy nag o’u blaen eu hunain, ac ni allant hwy weled un ohonynt.

20Y maent hwy fel un o drawstiau’r deml; ac eto yr ydys yn dywedyd fod y seirff, y rhai sy’n dyfod o’r ddaear, yn cnoi eu calonnau hwynt: ac wrth eu bwyta hwynt a’u gwisgoedd, ni wyddant oddi wrtho.

21Y mae eu hwynebau hwynt wedi duo gan y mwg o’r deml.

22Yr ystlumod, a’r gwenoliaid, a’r adar eraill, a ehedant ar eu cyrff a’u pennau hwynt, felly y cathod hefyd.

23Wrth hyn y bydd hysbys i chwi nad duwiau ydynt: nac ofnwch chwithau hwynt.

24Oblegid yr aur sydd amdanynt, yn harddwch iddynt, oni sych rhyw un y rhwd, ni ddisgleiria: a phan doddwyd hwynt, ni wybuant oddi wrth hynny.

25Am bob gwerth y prynir hwy, y rhai nid oes anadl ynddynt.

26Hwy, o eisiau traed, a ddygir ar ysgwyddau: felly y maent hwy yn dangos i ddynion eu gwaelder.

27Mae yn gywilydd gan y rhai a’u gwasanaethant hwy; oblegid os syrth un ohonynt hwy un amser i lawr, ni chyfyd efe ohono ei hun; ac os gesyd un ef yn ei union sefyll, ni syfl efe ohono ei hun; ac os gogwydda, ni all efe ymuniawni: eithr y maent yn rhoi rhoddion o’u blaen hwy megis i rai meirw.

28Y mae eu hoffeiriaid yn gwerthu eu haberthau hwynt, ac yn eu camarfer: felly y mae eu gwragedd yn rhoddi i gadw mewn halen beth ohonynt, heb roddi dim i’r tlawd a’r gwan.

29Y mae y rhai misglwyfus, a’r rhai etifyddog, yn cyffwrdd â’u haberthau hwynt: gwybyddwch wrth hynny nad duwiau ydynt; ac nac ofnwch hwynt.

30Pa fodd gan hynny y gelwir hwynt yn dduwiau? ai am fod y gwragedd yn gosod offrymau o flaen y duwiau arian, ac aur, a phrennau?

31Y mae yr offeiriaid yn eistedd yn eu temlau hwynt, a’u gwisgoedd wedi eu rhwygo, â’u pennau, ac â’u barfau wedi eu heillio, ac yn benoethion.

32Y maent hwy yn rhuo ac yn gweiddi o flaen eu duwiau, fel rhai yng ngwledd y marw.

33Y mae’r offeiriaid yn cymryd o’u gwisgoedd hwynt, ac yn dilladu eu gwragedd a’u plant.

34Os da os drwg a gânt hwy, ni allant hwy dalu’r pwyth: ni allant na gwneuthur brenin, na’i ddiswyddo.

35Yr un modd ni allant roddi na chyfoeth nac arian: os adduneda un adduned heb ei thalu, nis gofynnant hwy.

36Ni allant waredu dyn oddi wrth angau, nac achub y gwan rhag y cadarn.

37Ni allant roddi ei olwg i’r dall drachefn, ac ni allant waredu y dyn a fyddo mewn angen.

38Ni ddangosant hwy drugaredd i’r weddw, ac ni wnânt ddaioni i’r amddifad.

39Fel y cerrig o’r mynydd ydyw eu duwiau pren hwynt, wedi eu goreuro a’u hariannu: y rhai a’u haddolant hwynt a waradwyddir.

40Pa fodd gan hynny y meddylir neu y dywedir eu bod hwy yn dduwiau, a’r Caldeaid eu hunain yn eu dibrisio?

41Y rhai, pan welont un heb fedru dywedyd, a’i dygant ef at Bel, ac a ddeisyfant beri iddo ef lefaru, fel pe gallai efe lefaru ei hun.

42Ac er deall hyn, ni fedrant beidio â hwynt: am nad oes ganddynt synnwyr.

43Y gwragedd, wedi eu gwregysu â rheffynnau, a eisteddant yn yr heolydd yn llosgi eisin yn lle arogl-darth; os tynnir un ohonynt hwy gan ryw un yn myned heibio, a gorwedd ohoni gydag ef, hi a edliwia i’w chymdoges na thybiwyd yn gystal o honno ag ohoni hi, ac na thynnwyd ei rheffyn hithau.

44Gau yw yr hyn oll a wnaed yn eu mysg hwy: pa fodd gan hynny y meddylir neu y dywedir mai duwiau ydynt?

45Seiri a gofaint aur a’u gwnaethant hwy: ni allant fod yn ddim, ond a fynno y crefftwr iddynt fod.

46Ni bydd hir-hoedlog y rhai a’u gwnaethant hwy: pa fodd ynteu y bydd y pethau a wnelo y rhai hynny yn dduwiau?

47Gadawsant gelwyddau a gwaradwydd i’r rhai a ddeuant ar eu hôl hwy:

48Canys pan ddelo rhyfel neu ddrygau arnynt, yna y meddwl yr offeiriaid rhyngddynt a hwy eu hunain, pa le yr ymguddiant gyda hwy.

49Pa fodd gan hynny na ddeellir nad ydynt hwy dduwiau, y rhai nid ymachubant eu hunain rhag rhyfel a drygau?

50Gan mai prennau ydynt, ac aur ac arian wedi eu gosod arnynt, hysbys fydd o hyn allan mai ffug ydynt;

51Ac amlwg fydd i’r holl genhedloedd a’r brenhinoedd nad duwiau ydynt hwy, eithr gwaith dwylo dynion, heb ddim o waith Duw ynddynt.

52Pwy gan hynny ni ŵyr nad ydynt hwy dduwiau?

53Ni osodant hwy frenin ar wlad, a glaw ni roddant i ddynion.

54Nid ydynt hwy yn medru barnu materion: ni allant achub rhag cam, mor wan ydynt hwy: canys y maent fel brain rhwng nef a daear.

55Pan ddamweinio tân yn nheml y duwiau o goed, neu o aur, neu o arian wedi ei osod arnynt, yna eu hoffeiriaid hwynt a ffoant ac a ddihangant; hwythau a losgant fel y trawstiau yn eu hanerau.

56Ni wrthwynebant hwy frenin neu elynion: pa fodd gan hynny y gellir tybied neu ddywedyd mai duwiau ydynt?

57Y duwiau o brennau, ac wedi gosod arian ac aur arnynt, ni allant ddianc gan na lladron na gwilliaid.

58Rhai cryfion a ddygant yr aur, a’r arian, a’r gwisgoedd, y rhai a fyddant amdanynt hwy; ac wedi eu cael, a ânt ymaith: ac ni allant hwy help iddynt eu hunain.

59Felly gwell yw bod yn frenin yn dangos ei gadernid, neu yn llestr buddiol mewn tŷ i’r peth yr arfero ei berchennog ef, nag yn un o’r gau dduwiau; neu yn ddôr ar dŷ, yn cadw y pethau a fyddant ynddo, nag yn un o’r cyfryw gau dduwiau; neu yn golofn bren mewn brenhindy, na bod yn un o’r gau dduwiau.

60Canys yr haul, a’r sêr, a hwythau yn ddisglair, a’u hanfon i wneuthur lles, ydynt yn ufudd:

61Felly y mae’r fellten yn hawdd ei gweled, pan ymddangoso hi; ac yn yr un modd y gwynt a chwyth ym mhob gwlad;

62A phan orchmynno Duw i’r cymylau fyned dros yr holl fyd, hwy a gyflawnant y gorchymyn;

63Pan anfoner y tân oddi uchod i anrheithio mynyddoedd a choedydd, efe a wna’r gorchymyn: ond y rhai hyn nid ydynt debyg i’r rhai hynny, nac mewn pryd, nac mewn gallu.

64Am hynny ni ellir na meddwl na dywedyd eu bod hwy yn dduwiau, gan na allant na rhoddi barn na gwneuthur lles i ddynion.

65Gan eich bod yn awr yn gwybod nad ydynt hwy dduwiau, nac ofnwch hwynt:

66Oblegid ni allant hwy na dywedyd, na melltithio na bendithio brenhinoedd;

67Ac ni allant ddangos arwyddion yn y nefoedd ymysg y cenhedloedd, na thywynnu fel yr haul, na llewyrchu fel y lleuad.

68Y mae’r anifeiliaid, y rhai a ffoant i ddiddos i gael achles iddynt eu hunain, yn well na’r rhai hyn.

69Felly nid yw amlwg i ni trwy fodd yn y byd eu bod hwy yn dduwiau: am hynny nac ofnwch hwynt.

70Megis mewn gardd lysiau nid yw yr hudwg yn cadw dim; felly y mae eu duwiau hwynt o brennau, ac o aur, ac o arian wedi ei osod arnynt.

71Eu duwiau hwynt o brennau, ac o aur, ac o arian wedi ei osod arnynt, ydynt fel ysbyddaden mewn perllan, ar yr hon y disgyn pob aderyn, ac yn debyg i un marw wedi ei fwrw mewn tywyllwch.

72Wrth y porffor a’r gwychder sydd yn pydru amdanynt hwy, y gellwch chwi wybod nad ydynt hwy dduwiau: hwythau o’r diwedd a ysir, ac a fyddant yn waradwydd yn y wlad.

73Am hynny gwell yw’r gŵr cyfiawn nad oes ganddo ddelwau: oblegid pell fydd efe oddi wrth waradwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help