1Yna y dywedodd Dafydd y brenin wrth yr holl dyrfa, DUW a ddewisodd yn unig fy mab Solomon, ac y mae efe yn ieuanc, ac yn dyner, a’r gwaith sydd fawr; canys nid i ddyn y mae y llys, ond i’r ARGLWYDD DDUW.
2Ac â’m holl gryfder y paratoais i dŷ fy NUW, aur i’r gwaith aur, ac arian i’r arian, a phres i’r pres, a haearn i’r haearn, a choed i’r gwaith coed; meini onics, a meini gosod, meini carbunculus, ac o amryw liw, a phob maen gwerthfawr, a meini marmor yn aml.
3Ac eto am fod fy ewyllys tua thŷ fy NUW, y mae gennyf o’m heiddo fy hun, aur ac arian, yr hwn a roddaf tuag at dŷ fy NUW; heblaw yr hyn oll a baratoais tua’r tŷ sanctaidd:
4Tair mil o dalentau aur, o aur Offir; a saith mil o dalentau arian puredig, i oreuro parwydydd y tai:
5Yr aur i’r gwaith aur, a’r arian i’r arian; a thuag at yr holl waith, trwy law y rhai celfydd. Pwy hefyd a ymrŷdd yn ewyllysgar i ymgysegru heddiw i’r ARGLWYDD?
6Yna tywysogion y teuluoedd, a thywysogion llwythau Israel, a thywysogion y miloedd a’r cannoedd, a swyddogion gwaith y brenin, a offrymasant yn ewyllysgar,
7Ac a roddasant tuag at wasanaeth tŷ DDUW, bum mil o dalentau aur, a deng mil o sylltau, a deng mil o dalentau arian, a deunaw mil o dalentau pres, a chan mil o dalentau haearn.
8A chyda’r hwn y ceid meini, hwy a’u rhoddasant i drysor tŷ yr ARGLWYDD, trwy law Jehiel y Gersoniad.
9A’r bobl a lawenhasant pan offryment o’u gwirfodd; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllysgar yn offrymu i’r ARGLWYDD: a Dafydd y brenin hefyd a lawenychodd â llawenydd mawr.
10Yna y bendithiodd Dafydd yr ARGLWYDD yng ngŵydd yr holl dyrfa, a dywedodd Dafydd, Bendigedig wyt ti, ARGLWYDD DDUW Israel, ein tad ni, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.
11I ti, ARGLWYDD, y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruchafiaeth, a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti; y deyrnas sydd eiddot ti, ARGLWYDD, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth.
12Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthyt ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth a chadernid; yn dy law di hefyd y mae mawrhau, a nerthu pob dim.
13Ac yn awr, ein DUW ni, yr ydym ni yn dy foliannu, ac yn clodfori dy enw gogoneddus.
14Eithr pwy ydwyf fi, a phwy yw fy mhobl i, fel y caem ni rym i offrymu yn ewyllysgar fel hyn? canys oddi wrthyt ti y mae pob peth, ac o’th law dy hun y rhoesom i ti.
15Oherwydd dieithriaid ydym ni ger dy fron di, ac alltudion fel ein holl dadau: fel cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear, ac nid oes ymaros.
16O ARGLWYDD ein DUW, yr holl amlder hyn a baratoesom ni i adeiladu i ti dŷ i’th enw sanctaidd, o’th law di y mae, ac eiddot ti ydyw oll.
17Gwn hefyd, O fy NUW, mai ti sydd yn profi y galon, ac yn ymfodloni mewn cyfiawnder. Myfi yn uniondeb fy nghalon, o wirfodd a offrymais hyn oll; ac yn awr y gwelais dy bobl a gafwyd yma yn offrymu yn ewyllysgar i ti, a hynny mewn llawenydd.
18ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, ein tadau, cadw hyn yn dragywydd ym mryd meddyliau calon dy bobl; a pharatoa eu calon hwynt atat ti.
19A dyro i Solomon fy mab galon berffaith, i gadw dy orchmynion, dy dystiolaethau, a’th ddeddfau, ac i’w gwneuthur hwynt oll, ac i adeiladu y llys yr hwn y darperais iddo.
20Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, Bendithiwch, atolwg, yr ARGLWYDD eich DUW. A’r holl dyrfa a fendithiasant ARGLWYDD DDUW eu tadau, a blygasant eu pennau, ac a ymgrymasant i’r ARGLWYDD, ac i’r brenin.
21Aberthasant hefyd ebyrth i’r ARGLWYDD, a thrannoeth ar ôl y dydd hwnnw yr aberthasant yn boethoffrymau i’r ARGLWYDD, fil o fustych, mil o hyrddod, a mil o ŵyn, a’u diod-offrymau, ac ebyrth yn lluosog, dros holl Israel:
22Ac a fwytasant ac a yfasant gerbron yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw mewn llawenydd mawr. A gosodasant Solomon mab Dafydd yn frenin yr ail waith; ac eneiniasant ef i’r ARGLWYDD yn flaenor, a Sadoc yn offeiriad.
23Felly yr eisteddodd Solomon ar orseddfa yr ARGLWYDD yn frenin, yn lle Dafydd ei dad, ac a lwyddodd; a holl Israel a wrandawsant arno.
24Yr holl dywysogion hefyd a’r cedyrn, a chyda hynny holl feibion y brenin Dafydd, a roddasant eu dwylo ar fod dan Solomon y brenin.
25A’r ARGLWYDD a fawrygodd Solomon yn rhagorol yng ngŵydd holl Israel, ac a roddes iddo ogoniant brenhinol, math yr hwn ni bu i un brenin o’i flaen ef yn Israel.
26Felly Dafydd mab Jesse a deyrnasodd ar holl Israel.
27A’r dyddiau y teyrnasodd efe ar Israel oedd ddeugain mlynedd: saith mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.
28Ac efe a fu farw mewn oedran teg, yn gyflawn o ddyddiau, cyfoeth, ac anrhydedd: a Solomon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
29Ac am weithredoedd cyntaf a diwethaf y brenin Dafydd, wele, y maent yn ysgrifenedig yng ngeiriau Samuel y gweledydd, ac yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac yng ngeiriau Gad y gweledydd,
30Gyda’i holl frenhiniaeth ef, a’i gadernid, a’r amserau a aethant drosto ef, a thros Israel, a thros holl deyrnasoedd y gwledydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.