Gweddi Manasses 1 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1O Arglwydd, hollalluog Dduw ein tadau, Abraham, Isaac, a Jacob, a’u cyfiawn hiliogaeth hwynt:

2yr hwn a wnaethost nefoedd a daear, a’u gwychder oll:

3yr hwn a rwymaist y môr â gair dy orchymyn; yr hwn a gaeaist y dyfnder, ac a’i seliaist â’th enw ofnadwy a gogoneddus:

4yr hwn y mae pob peth yn ei ofni, ac yn crynu rhag wyneb dy nerth:

5oblegid ni ellir aros mawredd dy ogoniant, na dioddef dicter dy fygwth yn erbyn pechaduriaid.

6Eithr trugaredd dy addewid di sydd anfeidrol ac anchwiliadwy:

7oblegid tydi sydd Arglwydd goruchaf, daionus, ymarhous, mawr ei drugaredd hefyd, ac edifeiriol am ddrwg dyn.

8Tydi, O Arglwydd, yn ôl amldra dy ddaioni, a addewaist edifeirwch a maddeuant i’r rhai a bechasant i’th erbyn, ac yn amldra dy dosturiaeth a ordeiniaist edifeirwch i bechaduriaid er iachawdwriaeth. Am hynny tydi, O Arglwydd Dduw y rhai cyfiawn, ni osodaist edifeirwch i’r rhai cyfiawn, i Abraham, Isaac, a Jacob, y rhai ni phechasant i’th erbyn, ond ti a osodaist edifeirwch er fy mwyn i bechadur.

9Mi a bechais yn fwy na rhifedi tywod y môr; fy anwireddau a amlhasant, O Arglwydd, fy anwireddau a amlhasant, ac nid wyf fi deilwng i edrych, ac i weled uchder y nefoedd, oherwydd amldra fy anwireddau.

10Mi a grymais i lawr gan rwymau haearn, fel na allaf godi fy mhen; ni allaf chwaith gymryd fy anadl, am gyffroi ohonof dy lid di, a gwneuthur yr hyn sy ddrwg yn dy olwg: dy ewyllys nis gwneuthum, a’th orchmynion nis cedwais; gosodais i fyny ffieidd-dra, ac amlheais gamweddau.

11Ac yr awr hon yr ydwyf fi yn plygu glin fy nghalon, gan ddymuno daioni gennyt:

12pechais, O Arglwydd, pechais; ac yr ydwyf yn cydnabod fy anwireddau.

13Am hynny yr ydwyf fi yn deisyf, gan atolwg i ti, maddau i mi, O Arglwydd, maddau i mi, ac na ddifetha fi ynghyd â’m hanwireddau, ac na chadw ddrwg i mi, gan ddigio byth wrthyf, ac na ddamnia fi i geudod y ddaear: canys tydi sy Dduw, Duw, meddaf, i’r edifeiriol:

14ac ynof fi y dangosi dy holl ddaioni: oblegid ti a’m hachubi i, yr hwn ydwyf annheilwng, yn ôl dy fawr drugaredd.

15Am hynny y’th foliannaf di bob amser, holl ddyddiau fy einioes: oblegid y mae holl nerthoedd y nefoedd yn dy foliannu di, ac i ti y mae’r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help