Nehemeia 11 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A thywysogion y bobl a drigasant yn Jerwsalem: a’r rhan arall o’r bobl a fwriasant goelbrennau i ddwyn un o’r deg i drigo yn Jerwsalem y ddinas sanctaidd, a naw rhan i fod yn y dinasoedd eraill.

2A’r bobl a fendithiasant yr holl wŷr a ymroddasent yn ewyllysgar i breswylio yn Jerwsalem.

3A dyma benaethiaid y dalaith, y rhai a drigasant yn Jerwsalem: ond yn ninasoedd Jwda pawb a drigasant yn eu meddiant o fewn eu dinasoedd, sef Israel, yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r Nethiniaid, a meibion gweision Solomon.

4A rhai o feibion Jwda ac o feibion Benjamin a drigasant yn Jerwsalem. O feibion Jwda; Athaia mab Usseia, fab Sechareia, fab Amareia, fab Seffatia, fab Mahalaleel, o feibion Peres;

5Maaseia hefyd mab Baruch, fab Col-hose, fab Hasaia, fab Adaia, fab Joiarib, fab Sechareia, fab Siloni.

6Holl feibion Peres y rhai oedd yn trigo yn Jerwsalem, oedd bedwar cant ac wyth a thrigain o wŷr grymus.

7A dyma feibion Benjamin; Salu mab Mesulam, fab Joed, fab Pedaia, fab Colaia, fab Maaseia, fab Ithiel, fab Jesaia.

8Ac ar ei ôl ef Gabai, Salai; naw cant ac wyth ar hugain.

9A Joel mab Sichri oedd swyddog arnynt hwy: a Jwda mab Senua yn ail ar y ddinas.

10O’r offeiriaid: Jedaia mab Joiarib, Jachin.

11Seraia mab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, blaenor tŷ DDUW.

12A’u brodyr y rhai oedd yn gweithio gwaith y tŷ, oedd wyth cant a dau ar hugain: ac Adaia mab Jeroham, fab Pelalia, fab Amsi, fab Sechareia, fab Pasur, fab Malcheia,

13A’i frodyr, pennau-cenedl, dau cant a dau a deugain: ac Amasai mab Asareel, fab Ahasai, fab Mesilemoth, fab Immer,

14A’u brodyr hwynt, yn gedyrn o nerth, oedd gant ac wyth ar hugain: a Sabdiel mab Haggedolim yn swyddog arnynt.

15Ac o’r Lefiaid: Semaia mab Hasub, fab Asricam, fab Hasabeia fab Bunni.

16Sabbethai hefyd, a Josabad, o benaethiaid y Lefiaid, oedd oruchaf ar y gwaith o’r tu allan i dŷ DDUW.

17Mataneia hefyd mab Micha, fab Sabdi, fab Asaff, oedd bennaf i ddechrau tâl diolch mewn gweddi: a Bacbuceia yn ail o’i frodyr; ac Abda mab Sammua, fab Galal, fab Jedwthwn.

18Yr holl Lefiaid yn y ddinas sanctaidd, oedd ddau cant a phedwar a phedwar ugain.

19A’r porthorion, Accub, Talmon, a’u brodyr yn cadw y pyrth, oedd gant a deuddeg a thrigain.

20A’r rhan arall o Israel, o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid a drigent yn holl ddinasoedd Jwda, pob un yn ei etifeddiaeth.

21Ond y Nethiniaid oeddynt yn aros yn y tŵr: Siha a Gispa oedd ar y Nethiniaid.

22A swyddog y Lefiaid yn Jerwsalem, oedd Ussi mab Bani, fab Hasabeia, fab Mataneia, fab Micha: o feibion Asaff, y cantorion oedd ar waith tŷ DDUW.

23Canys gorchymyn y brenin amdanynt hwy oedd, fod ordinhad safadwy i’r cantorion, dogn dydd yn ei ddydd.

24A Phethaheia mab Mesesabeel, o feibion Sera mab Jwda, oedd wrth law y brenin ym mhob peth a berthynai i’r bobl.

25Ac am y trefydd a’u meysydd, rhai o feibion Jwda a drigasant yng Nghaer-arba a’i phentrefi, ac yn Dibon a’i phentrefi, ac yn Jecabseel a’i phentrefi,

26Ac yn Jesua, ac ym Molada, ac yn Beth-phelet,

27Ac yn Hasar-sual, ac yn Beerseba a’i phentrefi,

28Ac yn Siclag, ac ym Mechona ac yn ei phentrefi,

29Ac yn En-rimmon, ac yn Sarea, ac yn Jarmuth,

30Sanoa, Adulam, a’u trefydd, Lachis a’i meysydd, yn Aseca a’i phentrefi. A hwy a wladychasant o Beerseba hyd ddyffryn Hinnom.

31A meibion Benjamin o Geba a drigasant ym Michmas, ac Aia, a Bethel, a’u pentrefi,

32Yn Anathoth, Nob, Ananeia,

33Hasor, Rama, Gittaim,

34Hadid, Seboim, Nebalat,

35Lod, ac Ono, glyn y crefftwyr.

36Ac o’r Lefiaid yr oedd rhannau yn Jwda, ac yn Benjamin.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help