1Yna Job a barablodd drachefn, ac a ddywedodd,
2O na bawn i fel yn y misoedd o’r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwai DUW fi;
3Pan wnâi efe i’w oleuni lewyrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch;
4Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid, a dirgelwch DUW ar fy mhabell;
5Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi, a’m plant o’m hamgylch;
6Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn, a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew!
7Pan awn i allan i’r porth trwy y dref; pan baratown fy eisteddfa yn yr heol,
8Llanciau a’m gwelent, ac a ymguddient; a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fyny.
9Tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau.
10Pendefigion a dawent â sôn, a’u tafod a lynai wrth daflod eu genau.
11Pan y’m clywai clust, hi a’m bendithiai; a phan y’m gwelai llygad, efe a dystiolaethai gyda mi:
12Am fy mod yn gwaredu’r tlawd a fyddai yn gweiddi, a’r amddifad, a’r hwn ni byddai gynorthwywr iddo.
13Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu.
14Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai amdanaf fi: a’m barn fyddai fel mantell a choron.
15Llygaid oeddwn i’r dall; a thraed oeddwn i’r cloff.
16Tad oeddwn i’r anghenog; a’r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan.
17Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn, ac a dynnwn yr ysglyfaeth allan o’i ddannedd ef.
18Yna y dywedwn, Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau â’r tywod.
19Fy ngwreiddyn oedd yn ymdaenu wrth y dyfroedd; a’r gwlith a arhosodd ar hyd nos ar fy mrig.
20Fy ngogoniant oedd ir ynof fi; a’m bwa a adnewyddai yn fy llaw.
21Hwy a wrandawent arnaf, ac a ddisgwylient; distawent wrth fy nghyngor.
22Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith; a’m hymadrodd a ddiferai arnynt hwy.
23A hwy a ddisgwylient amdanaf fel am y glaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar-law.
24Os chwarddwn arnynt hwy, ni chredent; ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio.
25Dewiswn eu ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu, megis yr hwn a gysura rai galarus.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
