Y Salmau 49 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 49I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora.

1Clywch hyn, yr holl bobloedd; gwrandewch hyn, holl drigolion y byd:

2Yn gystal gwreng a bonheddig, cyfoethog a thlawd ynghyd.

3Fy ngenau a draetha ddoethineb; a myfyrdod fy nghalon fydd am ddeall.

4Gostyngaf fy nghlust at ddihareb; fy nameg a ddatguddiaf gyda’r delyn.

5Paham yr ofnaf yn amser adfyd, pan y’m hamgylchyno anwiredd fy sodlau?

6Rhai a ymddiriedant yn eu golud, ac a ymffrostiant yn lluosowgrwydd eu cyfoeth.

7Gan waredu ni wared neb ei frawd, ac ni all efe roddi iawn drosto i DDUW:

8(Canys gwerthfawr yw pryniad eu henaid, a hynny a baid byth:)

9Fel y byddo efe byw byth, ac na welo lygredigaeth.

10Canys efe a wêl fod y doethion yn meirw, yr un ffunud y derfydd am ffôl ac ynfyd, gadawant eu golud i eraill.

11Eu meddwl yw, y pery eu tai yn dragywydd, a’u trigfeydd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth: enwant eu tiroedd ar eu henwau eu hunain.

12Er hynny dyn mewn anrhydedd, nid erys: tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir.

13Eu ffordd yma yw eu hynfydrwydd: eto eu hiliogaeth ydynt fodlon i’w hymadrodd. Sela.

14Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern; angau a ymborth arnynt; a’r rhai cyfiawn a lywodraetha arnynt y bore; a’u tegwch a dderfydd yn y bedd, o’u cartref.

15Eto DUW a wared fy enaid i o feddiant uffern: canys efe a’m derbyn i. Sela.

16Nac ofna pan gyfoethogo un, pan ychwanego gogoniant ei dŷ ef:

17Canys wrth farw ni ddwg efe ddim ymaith, ac ni ddisgyn ei ogoniant ar ei ôl ef.

18Er iddo yn ei fywyd fendithio ei enaid: canmolant dithau, o byddi da wrthyt dy hun.

19Efe a â at genhedlaeth ei dadau, ac ni welant oleuni byth.

20Dyn mewn anrhydedd, ac heb ddeall, sydd gyffelyb i anifeiliaid a ddifethir.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help