1Yna Tobeias a alwodd Raffael, ac a ddywedodd wrtho,
2Fy mrawd Asareias, cymer gyda thi was a dau gamel, a dos i Rages dinas Media, at Gabael, a chyrch i mi yr arian, a dwg ef i’r neithior:
3Canys tyngodd Raguel na chawn i ymadael.
4Eithr y mae fy nhad yn cyfrif y dyddiau; ac os trigaf fi yn hir, athrist iawn fydd ganddo.
5A Raffael a aeth ymaith at Gabael, ac a roddes iddo yr ysgrifen-law; ac yntau a ddug godau wedi eu selio, ac a’u rhoddes iddo.
6A’r bore y cyfodasant, ac a ddaethant i’r neithior. A Thobeias a fendithiodd ei wraig.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
