Titus 2 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Eithr llefara di’r pethau a weddo i athrawiaeth iachus:

2Bod o’r hynafgwyr yn sobr, yn onest, yn gymesur, yn iach yn y ffydd, yng nghariad, mewn amynedd:

3Bod o’r hynafwragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni:

4Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuainc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant,

5Yn sobr, yn bur, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod, fel na chabler gair Duw.

6Y gwŷr ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr:

7Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn siampl i weithredoedd da: a dangos, mewn athrawiaeth, anllygredigaeth, gweddeidd-dra, purdeb,

8Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno; fel y byddo i’r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg i’w ddywedyd amdanoch chwi.

9Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i’w meistriaid eu hun, ac i ryngu bodd iddynt ym mhob peth; nid yn gwrthddywedyd;

10Nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth.

11Canys ymddangosodd gras Duw, yr hwn sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn;

12Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron;

13Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a’n Hiachawdwr Iesu Grist;

14Yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom, i’n prynu ni oddi wrth bob anwiredd, ac i’n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.

15Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na ddiystyred neb di.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help