Y Salmau 85 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 85I’r Pencerdd, Salm meibion Cora.

1Graslon fuost, O ARGLWYDD, i’th dir: dychwelaist gaethiwed Jacob.

2Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod. Sela.

3Tynnaist ymaith dy holl lid: troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter.

4Tro ni, O DDUW ein hiachawdwriaeth, a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym.

5Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?

6Oni throi di a’n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti?

7Dangos i ni, ARGLWYDD, dy drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth.

8Gwrandawaf beth a ddywed yr ARGLWYDD DDUW: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na throant at ynfydrwydd.

9Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni.

10Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant.

11Gwirionedd a dardda o’r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd.

12Yr ARGLWYDD hefyd a rydd ddaioni; a’n daear a rydd ei chnwd.

13Cyfiawnder a â o’i flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help