Eseciel 27 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,

2Tithau fab dyn, cyfod alarnad am Tyrus;

3A dywed wrth Tyrus, O dydi yr hon wyt yn trigo wrth borthladdoedd y môr, marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Tyrus, ti a ddywedaist, Myfi wyf berffaith o degwch.

4Dy derfynau sydd yng nghanol y môr; dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch.

5Adeiladasant dy holl ystyllod o ffynidwydd o Senir: cymerasant gedrwydd o Libanus i wneuthur hwylbren i ti.

6Gweithiasant dy rwyfau o dderw o Basan; mintai yr Assuriaid a wnaethant dy feinciau o ifori o ynysoedd Chittim.

7Lliain main o’r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti; glas a phorffor o ynysoedd Elisa, oedd dy do.

8Trigolion Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr: dy ddoethion di, Tyrus, o’th fewn, oedd dy long-lywiawdwyr.

9Henuriaid Gebal a’i doethion oedd ynot yn cau dy agennau: holl longau y môr a’u llongwyr oedd ynot ti i farchnata dy farchnad.

10Y Persiaid, a’r Ludiaid, a’r Phutiaid, oedd ryfelwyr i ti yn dy luoedd: tarian a helm a grogasant ynot; hwy a roddasant i ti harddwch.

11Meibion Arfad oedd gyda’th luoedd ar dy gaerau oddi amgylch, a’r Gammadiaid yn dy dyrau: crogasant eu tarianau ar dy gaerau oddi amgylch; hwy a berffeithiasant dy degwch.

12Tarsis oedd dy farchnadyddes oherwydd amldra pob golud; ag arian, haearn, alcam, a phlwm, y marchnatasant yn dy ffeiriau.

13Jafan, Tubal, a Mesech, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy farchnad am ddynion a llestri pres.

14Y rhai o dŷ Togarma a farchnatasant yn dy ffeiriau â meirch, a marchogion, a mulod.

15Meibion Dedan oedd dy farchnadwyr; ynysoedd lawer oedd farchnadoedd dy law: dygasant gyrn ifori ac ebenus yn anrheg i ti.

16Aram oedd dy farchnadydd oherwydd amled pethau o’th waith di: am garbuncl, porffor, a gwaith edau a nodwydd, a lliain meinllin, a chwrel, a gemau, y marchnatasant yn dy ffeiriau.

17Jwda a thir Israel, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy farchnad am wenith Minnith, a Phannag, a mêl, ac olew, a thriagl.

18Damascus oedd dy farchnadydd yn amlder dy waith oherwydd lliaws pob golud; am win Helbon, a gwlân gwyn.

19Dan hefyd a Jafan yn cyniwair a farchnatasant yn dy farchnadoedd: haearn wedi ei weithio, casia, a’r calamus, oedd yn dy farchnad.

20Dedan oedd dy farchnadydd mewn brethynnau gwerthfawr i gerbydau.

21Arabia, a holl dywysogion Cedar, oedd hwythau farchnadyddion i ti am ŵyn, hyrddod, a bychod: yn y rhai hyn yr oedd dy farchnadyddion.

22Marchnadyddion Seba a Rama, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy ffeiriau am bob prif beraroglau, ac am bob maen gwerthfawr, ac aur.

23Haran, a Channe, ac Eden, marchnadyddion Seba, Assur, a Chilmad, oedd yn marchnata â thi.

24Dyma dy farchnadyddion am bethau perffaith, am frethynnau gleision, a gwaith edau a nodwydd, ac am gistiau gwisgoedd gwerthfawr, wedi eu rhwymo â rhaffau a’u gwneuthur o gedrwydd, ymysg dy farchnadaeth.

25Llongau Tarsis oedd yn canu amdanat yn dy farchnad; a thi a lanwyd, ac a ogoneddwyd yn odiaeth yng nghanol y moroedd.

26Y rhai a’th rwyfasant a’th ddygasant i ddyfroedd lawer: gwynt y dwyrain a’th ddrylliodd yng nghanol y moroedd.

27Dy olud, a’th ffeiriau, dy farchnadaeth, dy forwyr, a’th feistriaid llongau, cyweirwyr dy agennau, a marchnadwyr dy farchnad, a’th ryfelwyr oll y rhai sydd ynot, a’th holl gynulleidfa yr hon sydd yn dy ganol, a syrthiant yng nghanol y môr, ar ddydd dy gwymp di.

28Wrth lef gwaedd dy feistriaid llongau, y tonnau a gyffroant.

29Yna pob rhwyfwr, y morwyr, holl lywyddion y moroedd, a ddisgynnant o’u llongau, ar y tir y safant;

30A gwnânt glywed eu llef amdanat, a gwaeddant yn chwerw, a chodant lwch ar eu pennau, ac ymdrybaeddant yn y lludw.

31A hwy a’u gwnânt eu hunain yn foelion amdanat, ac a ymwregysant â sachliain, ac a wylant amdanat â chwerw alar, mewn chwerwedd calon.

32A chodant amdanat alarnad yn eu cwynfan, a galarant amdanat, gan ddywedyd, Pwy oedd fel Tyrus, fel yr hon a ddinistriwyd yng nghanol y môr!

33Pan ddelai dy farchnadaeth o’r moroedd, diwellit bobloedd lawer; ag amlder dy olud a’th farchnadaeth y cyfoethogaist frenhinoedd y ddaear.

34Y pryd y’th dorrer gan y môr yn nyfnderau y dyfroedd, dy farchnad a’th holl gynulleidfa a syrthiant yn dy ganol.

35Holl breswylwyr yr ynysoedd a synnant amdanat, a’u brenhinoedd a ddychrynant ddychryn; hwy a drallodir yn eu hwynebau.

36Y marchnadyddion ymysg y bobloedd a chwibanant arnat: dychryn fyddi, ac ni byddi byth mwyach.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help