1Yna y saif y cyfiawn mewn hyder mawr o flaen ei orthrymwyr, a’r rhai a ddystyrasant ei lafur ef.
2Pan welant, hwy a gythryblir ag ofn aruthr; a syn fydd ganddynt ei iachawdwriaeth ryfedd ef.
3A hwy a ddywedant ynddynt eu hun yn edifeiriol; a chan gyfyngder meddwl yr ocheneidiant, ac y dywedant, Dyma’r hwn yr oeddem ni gynt yn ei watwar, ac yn ei ddyfalu yn waradwyddus.
4Nyni ffyliaid a feddyliasom fod ei fuchedd ef yn ynfydrwydd, a’i ddiwedd yn amharchus.
5Pa fodd y cyfrifwyd ef ymhlith meibion Duw, ac y mae ei ran ef ymysg y saint!
6Nyni gan hynny a gyfeiliornasom allan o ffordd y gwirionedd, ac ni thywynnodd llewyrch cyfiawnder i ni, ac ni chododd haul cyfiawnder arnom.
7Nyni a lanwyd o ffyrdd anwiredd a distryw, ac a rodiasom trwy anialwch anhyffordd; eithr nid adnabuom ni ffordd yr Arglwydd.
8Pa fudd sydd i ni o falchder? a pha les a wnaeth golud a ffrost i ni?
9Y pethau hynny oll a aethant ymaith fel cysgod, ac fel cennad yn rhedeg;
10Fel llong yn myned trwy’r dwfr tonnog, yr hon ni ellir caffael ei hôl, wedi iddi fyned heibio, na’r llwybr yr aeth hi trwy’r tonnau;
11Neu megis na cheir arwydd mynediad yr aderyn a ehedo trwy’r awyr, eithr dyrnod yr esgyll ar y gwynt tenau, yr hwn a gurir ac a rennir trwy nerth egnïol, gan guro’r adenydd, a â trwodd, ac yno nid oes dim arwydd pa le yr aeth efe;
12Neu fel pan saether saeth at nod, yr awyr wedi ei rhannu a ddychwel yn y fan i’w lle, fel na wydder pa ffordd yr aeth hi:
13Felly ninnau, pan y’n ganwyd, a ddechreuasom bwyso at ein diwedd; ac ni allasom ddangos dim arwydd rhinwedd dda, eithr yn ein drygioni y darfuom ni.
14Oblegid fel llwch, yr hwn a arwain y gwynt, ac fel ewyn tenau, yr hwn a yrr y dymestl, ac fel y mwg a wasgerir gan wynt, neu fel cof am ymdeithydd dros un diwrnod, yr â gobaith yr annuwiol ymaith.
15Eithr y mae y cyfiawn yn byw byth; a chyda’r Arglwydd y mae eu gwobr hwynt, a chan y Goruchaf y mae gofal amdanynt hwy.
16Am hynny y cânt hwy ar law yr Arglwydd deyrnas hardd, a choron deg; oblegid efe a’u gorchuddia hwynt â’i ddeheulaw, ac a’u hamddiffyn â’i fraich.
17Efe a gymer ei eiddigedd yn lle pob arfogaeth, ac a arfoga’r creaduriaid i ddial ar y gelynion.
18Efe a wisg gyfiawnder yn ddwyfronneg, ac a wisg farnedigaeth ddiragrith yn lle helm.
19Efe a gymer sancteiddrwydd yn darian, yr hwn ni ellir ei orchfygu.
20Efe a hoga ei ddicter tost yn gleddyf; a’r byd a ryfela gydag ef yn erbyn ffyliaid.
21Byllt y mellt a ânt yn union, ac a gyrchant at y nod, megis o anelog fwa’r cymylau.
22A chan ei ddigofaint ef, yr hwn sydd yn arfer o daflu meini, y bwrir cenllysg yn llawn llid; dwfr y môr a lidia wrthynt hwy, a’r afonydd a lifant yn dost:
23Gwynt nerthol a saif yn eu herbyn, ac a’u nithia hwynt ymaith fel trowynt: ie, anwiredd a ddifwyna’r holl dir, a drygioni a ddinistria eisteddfeydd y cedyrn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.