Eseciel 29 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yn y degfed mis o’r ddegfed flwyddyn, ar y deuddegfed dydd o’r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

2Gosod, fab dyn, dy wyneb yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a phroffwyda yn ei erbyn ef, ac yn erbyn yr Aifft oll.

3Llefara, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi i’th erbyn, Pharo brenin yr Aifft, y ddraig fawr yr hwn sydd yn gorwedd yng nghanol ei afonydd, yr hwn a ddywedodd, Eiddof fi yw fy afon, a mi a’i gwneuthum hi i mi fy hun.

4Eithr gosodaf fachau yn dy fochgernau, a gwnaf i bysgod dy afonydd lynu yn dy emau, a chodaf di o ganol dy afonydd; ie, holl bysgod dy afonydd a lynant wrth dy emau.

5A mi a’th adawaf yn yr anialwch, ti a holl bysgod dy afonydd: syrthi ar wyneb y maes, ni’th gesglir, ac ni’th gynullir; i fwystfilod y maes ac i ehediaid y nefoedd y’th roddais yn ymborth.

6A holl drigolion yr Aifft a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, am iddynt fod yn ffon gorsen i dŷ Israel.

7Pan ymaflasant ynot erbyn dy law, ti a dorraist, ac a rwygaist eu holl ysgwydd: a phan bwysasant arnat, ti a dorraist, ac a wnaethost i’w holl arennau sefyll.

8Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn dwyn arnat gleddyf, a thorraf ymaith ohonot ddyn ac anifail.

9A bydd tir yr Aifft yn ddinistr ac yn anrhaith; a chânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: am iddo ddywedyd, Eiddof fi yw yr afon, a myfi a’i gwneuthum.

10Am hynny wele fi yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy afonydd, a gwnaf dir yr Aifft yn ddiffeithwch anrheithiedig, ac yn anghyfannedd, o dŵr Syene hyd yn nherfyn Ethiopia.

11Ni chyniwair troed dyn trwyddi, ac ni chyniwair troed anifail trwyddi, ac nis cyfanheddir hi ddeugain mlynedd.

12A mi a wnaf wlad yr Aifft yn anghyfannedd yng nghanol gwledydd anghyfanheddol, a’i dinasoedd fyddant yn anghyfannedd ddeugain mlynedd yng nghanol dinasoedd anrheithiedig; a mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd.

13Eto fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Ymhen deugain mlynedd y casglaf yr Eifftiaid o fysg y bobloedd lle y gwasgarwyd hwynt.

14A dychwelaf gaethiwed yr Aifft, ie, dychwelaf hwynt i dir Pathros, i dir eu preswylfa; ac yno y byddant yn frenhiniaeth isel.

15Isaf fydd o’r breniniaethau, ac nid ymddyrchaif mwy oddi ar y cenhedloedd; canys lleihaf hwynt, rhag arglwyddiaethu ar y cenhedloedd.

16Ac ni bydd hi mwy i dŷ Israel yn hyder, yn dwyn ar gof eu hanwiredd, pan edrychont hwy ar eu hôl hwythau: eithr cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd DDUW.

17Ac yn y mis cyntaf o’r seithfed flwyddyn ar hugain, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

18Ha fab dyn, Nebuchodonosor brenin Babilon a wnaeth i’w lu wasanaethu gwasanaeth mawr yn erbyn Tyrus: pob pen a foelwyd, a phob ysgwydd a ddinoethwyd; ond nid oedd am Tyrus gyflog iddo, ac i’w lu, am y gwasanaeth a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi:

19Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn rhoddi tir yr Aifft i Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a gymer ei lliaws hi, ac a ysbeilia ei hysbail hi, ac a ysglyfaetha ei hysglyfaeth hi, fel y byddo hi yn gyflog i’w lu ef.

20Am ei waith yr hwn a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi, y rhoddais iddo dir yr Aifft; oherwydd i mi y gweithiasant, medd yr Arglwydd DDUW.

21Yn y dydd hwnnw y gwnaf i gorn tŷ Israel flaguro, a rhoddaf i tithau agoriad genau yn eu canol hwynt: a chânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help