1Fy NUW, gwared fi oddi wrth fy ngelynion: amddiffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant i’m herbyn.
2Gwared fi oddi wrth weithredwyr anwiredd, ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd.
3Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid: ymgasglodd cedyrn i’m herbyn; nid ar fy mai na’m pechod i, O ARGLWYDD.
4Rhedant, ymbaratoant, heb anwiredd ynof fi: deffro dithau i’m cymorth, ac edrych.
5A thi, ARGLWYDD DDUW y lluoedd, DUW Israel, deffro i ymweled â’r holl genhedloedd: na thrugarha wrth neb a wnânt anwiredd yn faleisus. Sela.
6Dychwelant gyda’r hwyr, cyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.
7Wele, bytheiriant â’u genau: cleddyfau sydd yn eu gwefusau: canys pwy, meddant, a glyw?
8Ond tydi, O ARGLWYDD, a’u gwatweri hwynt; ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.
9Oherwydd ei nerth ef, y disgwyliaf wrthyt ti: canys DUW yw fy amddiffynfa.
10Fy NUW trugarog a’m rhagflaena: DUW a wna i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion.
11Na ladd hwynt, rhag i’m pobl anghofio: gwasgar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, O ARGLWYDD ein tarian.
12Am bechod eu genau, ac ymadrodd eu gwefusau, dalier hwynt yn eu balchder: ac am y felltith a’r celwydd a draethant.
13Difa hwynt yn dy lid, difa, fel na byddont: a gwybyddant mai DUW sydd yn llywodraethu yn Jacob, hyd eithafoedd y ddaear. Sela.
14A dychwelant gyda’r hwyr, a chyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.
15Crwydrant am fwyd; ac onis digonir, grwgnachant.
16Minnau a ganaf am dy nerth, ie, llafarganaf am dy drugaredd yn fore: canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf.
17I ti, fy nerth, y canaf; canys DUW yw fy amddiffynfa, a DUW fy nhrugaredd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
