Exodus 11 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Un pla eto a ddygaf ar Pharo, ac ar yr Aifft; wedi hynny efe a’ch gollwng chwi oddi yma: pan y’ch gollyngo, gan wthio efe a’ch gwthia chwi oddi yma yn gwbl.

2Dywed yn awr lle y clywo y bobl; a benthycied pob gŵr gan ei gymydog, a phob gwraig gan ei chymdoges, ddodrefn arian, a dodrefn aur.

3A’r ARGLWYDD a roddodd i’r bobl ffafr yng ngolwg yr Eifftiaid: ac yr oedd Moses yn ŵr mawr iawn yng ngwlad yr Aifft, yng ngolwg gweision Pharo, ac yng ngolwg y bobl.

4Moses hefyd a ddywedodd, Fel hyn y llefarodd yr ARGLWYDD; Ynghylch hanner nos yr af fi allan i ganol yr Aifft.

5A phob cyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft a fydd marw, o gyntaf-anedig Pharo, yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrngadair, hyd gyntaf-anedig y wasanaethferch sydd ar ôl y felin; a phob cyntaf-anedig o anifail.

6A bydd gweiddi mawr trwy holl wlad yr Aifft, yr hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwyach ei gyffelyb.

7Ond yn erbyn neb o blant Israel ni symud ci ei dafod, ar ddyn nac anifail; fel y gwypoch fod yr ARGLWYDD yn gwneuthur rhagor rhwng yr Eifftiaid ac Israel.

8A’th holl weision hyn a ddeuant i waered ataf fi, ac a ymgrymant i mi, gan ddywedyd, Dos allan, a’r holl bobl sydd ar dy ôl; ac wedi hynny yr af fi allan. Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharo mewn dicllonedd llidiog.

9A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Ni wrendy Pharo arnoch; fel yr amlhaer fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft.

10A Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn gerbron Pharo: a’r ARGLWYDD a galedodd galon Pharo, fel na ollyngai efe feibion Israel allan o’i wlad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help